Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 19eg Gorffennaf, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, D.M. Cundy, H.A.L. Evans, C.J. Harris, G. Jones, T.J. Jones, M.J.A. Lewis, D. Price, B.A.L. Roberts ac A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.L. Davies

11.2 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol - 26ain Mehefin, 2017 (Cofnod Rhif 10 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drosglwyddo Asedau Cymunedol)

Ysgrifennydd Pwyllgor Lles Dafen

J.D. James

11.2 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol - 26ain Mehefin, 2017 (Cofnod Rhif 10 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drosglwyddo Asedau Cymunedol)

Llywydd Clwb Bowlio Porth Tywyn ac aelod o Glwb Rygbi Porth Tywyn

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod fod datganiadau mewn perthynas â Throsglwyddo Asedau Cymunedol mewn achosion ble mae'r aelodau hefyd yn aelodau o Gynghorau Tref neu Gymuned yn cael eu cofnodi'n awtomatig.

 

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r Cynghorydd Shirley Matthews a'i theulu ar farwolaeth ei thad-yng-nghyfraith;

·       Estynnwyd dymuniadau gorau a phob lwc i Gôr Merched Sir Gâr a fyddai'n cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision yn Riga, Latfia y dydd Sul canlynol.  Nhw yw'r unig gôr o'r Deyrnas Unedig sy'n cystadlu;

·       Estynnwyd llongyfarchiadau i Logan Williams, un o ddisgyblion Ysgol Bro Dinefwr, a ddaeth yn ail wrth gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth C?n Defaid y Byd i Bobl Ifanc a gynhaliwyd dros y penwythnos yn yr Iseldiroedd;

·       Estynnwyd llongyfarchiadau i Dewi Griffiths o Lanfynydd a enillodd Hanner Marathon Abertawe fis diwethaf.  Dyma'r trydydd tro iddo ennill y ras gan orffen mewn 64 munud.

 

4.

COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

4.1

26AIN EBRILL, 2017; pdf eicon PDF 409 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26ain Ebrill, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.2

24AIN MAI, 2017. pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gofnod rhif 5 lle dylai'r paragraff olaf ddweud "Cyflwynwyd Cadwyn y Swydd i gydymaith yr Is-Gadeirydd, Mrs Bethan Charles-Davies, gan gydymaith y Cadeirydd, Mrs Jean Jones."

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24ain Mai, 2017 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

 

5.

CYFLWYNO DEISEB - PALMANT AR HEOL TYCROES

“Rydym ni drigolion T?-croes yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu palmant ar Heol T?-croes,  o fynedfa Ystâd Fforest Fach i Gelli Lane.  Mae cyllid Adran 106 o dros £40,000 eisoes wedi'i sicrhau a dylid defnyddio'r cyllid cyn unrhyw ddatblygiadau pellach ym Mharc Gwernen.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Tina Higgins i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol, ynghyd â sylwadau ategol:-

 

“Rydym ni drigolion T?-croes yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu palmant yn Heol T?-croes o'r fynedfa i ystâd Fforest Fach i Gelli Lane.  Mae cyllid o dros £40,000 o dan Adran 106 eisoes wedi'i sicrhau a dylid defnyddio'r cyllid hwn cyn unrhyw ddatblygiad pellach ym Mharc Gwernen."

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y mater y cyfeiriwyd ato yn y Rhybudd o Gynnig yn swyddogaeth weithrediaeth ac o'r herwydd fod y Cyngor ond yn gallu cyfeirio'r mater at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD derbyn y ddeiseb a’i chyflwyno at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w hystyried.

 

 

6.

RHYBUDD O GYNNIG

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES:-

 

“Bod y Cyngor hwn:-

 

(a) yn ailbwysleisio ei ymrwymiad i barciau a llecynnau glas Sir Gaerfyrddin;

 

(b) yn credu, er gwaethaf cyfyngiadau ariannol, bod diogelu parciau a llecynnau glas lleol yn parhau i fod yn ddyletswydd hanfodol;

 

(c) yn cydnabod pwysigrwydd parciau a llecynnau gwyrdd i iechyd a lles oedolion a phlant yn Sir Gaerfyrddin;

 

(d) yn ffafrio datblygu tir llwyd, yn hytrach na defnyddio llecynnau glas, wrth ystyried adeiladu asedau newydd;

 

(e) yn cefnogi trosglwyddo asedau cymunedol i gynghorau tref/cymuned/gwledig dim ond lle ceir cefnogaeth gref gan y gymuned leol a'r corff sy'n derbyn yr ased.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Bod y Cyngor hwn:-

 

(a) yn ailbwysleisio ei ymrwymiad i barciau a llecynnau glas Sir Gaerfyrddin;

(b) yn credu, er gwaethaf cyfyngiadau ariannol, bod diogelu parciau a llecynnau glas lleol yn parhau i fod yn ddyletswydd hanfodol;

(c) yn cydnabod pwysigrwydd parciau a llecynnau glas i iechyd a lles oedolion a phlant yn Sir Gaerfyrddin;

(d) yn ffafrio datblygu tir llwyd, yn hytrach na defnyddio llecynnau glas, wrth ystyried adeiladu asedau newydd;

(e) yn cefnogi trosglwyddo asedau cymunedol i gynghorau tref/cymuned/gwledig dim ond lle ceir cefnogaeth gref gan y gymuned leol a'r corff sy'n derbyn yr ased.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid a bu'r cynigydd yn amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y mater y cyfeiriwyd ato yn y Rhybudd o Gynnig yn swyddogaeth weithrediaeth ac o ganlyniad, petai'r Cynnig yn cael ei gefnogi, fod y Cyngor ond yn gallu cyfeirio'r mater at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD PETER HUGHES-GRIFFITHS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DIWYLLIANT, CHWARAEON A THWRISTIAETH

“A allech chi nodi'r rhesymau pam y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer trafodion eiddo, yn hytrach na phroses dendro agored gystadleuol i gaffael gwasanaethau ym Mharc Howard?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allech chi nodi'r rhesymau pam y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer trafodion eiddo, yn hytrach na phroses dendro agored gystadleuol i gaffael gwasanaethau ym Mharc Howard?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:-

 

“Mae'n bwysig i ni gofio fod Parc Howard yn Llanelli yn cynnwys adeilad eiconig yn y parc ac oddeutu 25 erw o dir a gerddi.  Os yw Aelodau'n cael y cyfle, ewch i ymweld â Pharc Howard er mwyn ichi weld drosoch eich hun y trysor sydd gennym fel Sir.  Caiff y Parc ei gynnal a'i gadw'n dda iawn ac mae'n lle arbennig iawn. Mae yno lynnoedd, maes chwarae antur newydd i blant a bydd ffrâm ddringo ar gael yno yn fuan ac mae gan y Parc poblogaidd hwn botensial gwirioneddol.  Mae'r Amgueddfa yn llawn trysorau hefyd. Yn ddiweddar, agorwyd y cyntaf o bedwar llwybr cyfeiriannu lle gall pobl ddilyn y marcwyr, cerdded o amgylch y Parc a dysgu am yr ardal ar yr un pryd. Mae'r Gwasanaeth Amgueddfeydd yn gweithredu mewn hinsawdd o newid na welwyd mo'i debyg o'r blaen ac mae'n rhaid i ni fel Cyngor dderbyn fod newid yn anorfod.  Mae'r dyddiau pan oedd gennym ddigonedd o arian i gynnal amgueddfeydd wedi hen fynd ac felly mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol o gynnal a chadw'r trysorau hyn a dyna yw'n cyfrifoldeb ni ym Mharc Howard.  Mae angen inni edrych ar y posibiliadau ar gyfer y Parc a'r plasty ac fel cam cyntaf, gofynnom pwy allai fod â diddordeb mewn ein helpu ni a gofynnwyd am fynegiannau o ddiddordeb.  Gwnaethom hyn er mwyn gweld a oedd gan unrhyw un syniadau eraill efallai nad oeddem ni wedi meddwl amdanynt i ategu'r ddarpariaeth bresennol.  Mae'n fan gwych i gynnal digwyddiad ac roeddem ni eisiau gwybod tybed a hoffai busnesau lleol ein helpu ni.  Dyma oedd y cam naturiol cyntaf ar gyfer cael gwybod a fyddai diddordeb gan rywun mewn ein helpu ni a beth oedd y posibiliadau.  Mynegwyd diddordeb a bellach mae'r diddordeb hwnnw'n cael ei ystyried wrth inni symud ymlaen i ddatblygu'r ased arbennig hwn er budd pobl Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac unrhyw un sy'n ymweld o bell ac agos a charwn apelio am gymorth a chydweithrediad er mwyn sicrhau llwyddiant Parc Howard.”     

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“Yn Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd a gyflwynwyd gennych y tro diwethaf, nodwyd gennych y byddech yn awyddus i gadw Parc Howard ym meddiant y Cyngor drwy beidio â defnyddio proses dendro agored i gynnwys cwmnïau a'i gadw ym meddiant y Cyngor. Nid yw preswylwyr a defnyddwyr y parc yn gwybod dim am y manylion sy'n gysylltiedig â'r cynnig hwn.  A allwch o leiaf nodi hyd y brydles sy'n ffafriol gennych ar hyn o bryd fel yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol neu fel Bwrdd Gweithredol yn gyffredinol?"

 

Ymateb y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JENKINS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Gan fod gwrthwynebiad amlwg a helaeth gan y cyhoedd yn Llanelli i gynllun yr Awdurdod hwn i greu maes parcio y bydd modd cael mynediad iddo drwy fan mynediad cwbl anaddas ar Hen Heol yn lle'r cwrt tennis sy'n cael ei ddefnyddio'n aml ym Mharc Howard; heb ystyried y broses gynllunio ac ar wahân i hynny, a fyddai Arweinydd y Cyngor yn cydnabod bod yr elfen hon o gynllun mawr Parc Howard yn amhoblogaidd dros ben ac a fyddai'n fodlon dangos ei resymoldeb a'i barodrwydd i wrando ac i ymgysylltu â'r gymuned yn Llanelli drwy dynnu cais cynllunio rhif S/35541 yn ei ôl, a hynny dim ond er mwyn aros am ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon, ar wahân i'r broses gynllunio, ynghylch darparu llefydd parcio yng nghynllun mawr Parc Howard?"

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gan fod gwrthwynebiad amlwg a helaeth gan y cyhoedd yn Llanelli i gynllun yr Awdurdod hwn i greu maes parcio y bydd modd cael mynediad iddo drwy fan mynediad cwbl anaddas ar Hen Heol yn lle'r cwrt tennis sy'n cael ei ddefnyddio'n aml ym Mharc Howard; heb ystyried y broses gynllunio ac ar wahân i hynny, a fyddai Arweinydd y Cyngor yn cydnabod bod yr elfen hon o Brif Gynllun Parc Howard yn amhoblogaidd dros ben ac a fyddai'n fodlon dangos ei resymoldeb a'i barodrwydd i wrando ac i ymgysylltu â'r gymuned yn Llanelli drwy dynnu cais cynllunio rhif S/35541 yn ei ôl, a hynny dim ond er mwyn aros am ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon, ar wahân i'r broses gynllunio, ynghylch darparu llefydd parcio ym Mhrif Gynllun Parc Howard?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae'r cynnig ar gyfer maes parcio yn y lleoliad hwn wedi cael ei ystyried ers blynyddoedd lawer ac roedd yn rhan o'r Prif Gynllun gwreiddiol ar gyfer Parc Howard pan gyflwynwyd cais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2015.  Dros y 18 mis/2 flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cynnal cyfanswm o 6 chyfarfod â grwpiau cynrychioliadol i drafod cynlluniau a dyheadau ar gyfer y Parc er mwyn sicrhau bod y Parc yn parhau ym meddiant y cyhoedd.  Roedd y cyfarfodydd hynny yn cynnwys Cymdeithas Parc Howard, Cyfeillion Amgueddfa Llanelli, Cyngor Tref Llanelli, yn ogystal â Threftadaeth Gymunedol Llanelli.  Roedd y cynigion, gan gynnwys yr angen am faes parcio er mwyn cefnogi masnachu Parc Howard mewn modd sensitif, wedi cael cefnogaeth gyffredinol cynrychiolwyr y sefydliadau hynny ac yna wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ar 26ain Gorffennaf, 2016.  Nid yw'r cwrt tennis a'r llecyn gemau'n cael eu defnyddio digon a byddwn yn dal i gadw cwrt tennis arall y tu ôl i'r lle chwarae i blant.  Mae'r fynedfa i'r maes parcio arfaethedig o'r Hen Heol wedi'i dylunio gan ein peirianwyr priffyrdd ni ein hunain ac maent yn bodloni'r holl ofynion dylunio ar gyfer y math hwn o gyfleuster. Mae'r cynigion ar gyfer y maes parcio wedi cael eu creu ar sail yr hyn a nodwyd yn wreiddiol yn y Prif Gynllun ac ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad fel rhan o'r broses gynllunio. Rwyf o'r farn bod ymgynghori â grwpiau allweddol wedi bod yn fwy nag "ystyrlon" ac mae'r broses gynllunio yn rhoi bob cyfle i'r cyhoedd gyflwyno sylwadau ynghylch y cynigion. Ni fyddaf yn tynnu'r cais yn ei ôl a byddaf yn gadael i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried sylwadau'r cyhoedd a phenderfynu ynghylch y cais maes o law ac rwy'n disgwyl iddynt wneud hynny ar sail ystyriaethau cynllunio perthnasol."

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jenkins y cwestiwn atodol canlynol:-

“A allwch chi enwi un sefydliad yn unig sydd wedi ysgrifennu i gefnogi'r maes parcio?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

“Y cyfan rwy'n ceisio'i wneud yw achub Parc Howard.  Rhoddwyd Parc Howard ar y rhestr Trosglwyddo Asedau.  Fel Cynghorydd Tref Llanelli, roedd hawl gennych i dderbyn hynny ond penderfynodd Cyngor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.2

7.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

“Llwybr Beicio Caerfyrddin i Landeilo - Tybed a fyddai modd ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y prosiect arbennig hwn, yn enwedig o ran pryd gallwn ddisgwyl gweld y gwaith yn dechrau ar ochr Llandeilo o'r llwybr beicio.  Mae ochr Llandeilo yn fy nharo i fel rhan hawsaf y llwybr gan fod llai o landlordiaid i gynnal trafodaethau â nhw.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Y Llwybr Beicio o Gaerfyrddin i Landeilo - tybed a fyddai modd ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch y prosiect gwych hwn, yn arbennig pryd gallwn ddisgwyl i'r gwaith ar y llwybr beicio ddechrau yn Llandeilo.  Mae'n ymddangos i mi mai Llandeilo fyddai rhan hawsaf y llwybr gan fod angen trafod â llai o landlordiaid.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau [yn absenoldeb y Cynghorydd Hazel Evans a oedd ynghlwm wrth waith arall yn ymwneud â'r Cyngor]

 

“Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 'rhan orllewinol' y llwybr sy'n ymestyn o Abergwili i Nantgaredig, ac mae trafodaethau ynghylch tir yn mynd rhagddynt yn gadarnhaol.  Rhagwelir y bydd gwaith sylweddol yn dechrau cael ei wneud ar y rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol hon gan ddefnyddio Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i'r Cyngor ar gyfer 2017/18.  Mae rhan orllewinol y llwybr yn effeithio ar oddeutu 13 o berchnogion tir. Caiff y rhan fwyaf ohonynt eu cynrychioli gan asiantiaid. Mae un llain eisoes wedi'i chaffael, mae tair llain yn destun proses gyfreithiol ac mae'r gweddill yn destun trafodaethau parhaus.

 

Wrth ystyried y rhan ddwyreiniol (Nantgaredig i Landeilo), mae swyddogion yn y broses o gyflwyno'r dogfennau angenrheidiol er mwyn ategu cais cynllunio.  Y nod yw cyflwyno'r cais mewn pryd i'w ystyried erbyn mis Medi. Ochr yn ochr â hyn, mae trafodaethau o ran tir rhwng swyddogion a pherchnogion tir yn mynd rhagddynt yn gadarnhaol, yn enwedig y prif dirfeddiannwr (Ystâd Gelli Aur) a dyluniad manwl y rhan ddwyreiniol.

Mae oddeutu 15 o berchnogion tir yn rhan o'r broses ar yr ochr hon o gymharu ag 13 ar yr ochr orllewinol.  Mae cyswllt uniongyrchol ac ymgysylltu wedi digwydd â phob un heblaw 2 o'r perchnogion tir. Mae Ystâd Gelli Aur (Syr Edward Dashwood) yn cynrychioli oddeutu 64% o'r llwybr. Mae un perchennog tir sy'n gwrthwynebu'r cynllun yn llwyr felly mae hwnnw'n rhwystr sydd yn rhaid i ni ei oresgyn.  Cynigir cynllunio a darparu'r cynllun hwn mewn sawl cam gwahanol. 

Un o'r rhesymau dros hyn yw y bydd amseriad unrhyw waith yn dibynnu'n helaeth ar argaeledd cyllid a thir ac er bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd pennu amserlen gadarn ar gyfer darparu unrhyw ran benodol, mae'n bwysig bod swyddogion mewn sefyllfa i ymateb ac i weithredu pan fydd tir a chyllid yn rhoi cyfle i wneud hynny. Felly, er bod y rhaglen waith ddrafft yn nodi y bydd y gwaith ochr Llandeilo wedi'i gyflawni yn 2019/20 gallai'r dyddiad hwn fod yn gynt na hynny os bydd y ffactorau allanol hyn yn disgyn i'w lle."

 

 

 

 

 

 

7.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o saith awdurdod lleol sy'n enwebu Cynghorwyr Sir etholedig i wasanaethu ar Fwrdd Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Y rhai sy'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin ar y bwrdd hwn yw'r Cynghorydd Glynog Davies, Cwarter Bach a mi ar gyfer Ward Llangadog.  Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed yn 2017 ac ynghyd â'r ffaith fod 2017 yn cael ei hyrwyddo fel y Flwyddyn Chwedlau rhagwelir y bydd llawer o ymwelwyr yn heidio i'r ardal. Mae hyn yn briodol iawn o ystyried bod gan ward leol Llangadog gysylltiad agos â chwedl "morwyn y llyn”. Y rhanddeiliaid ym mhartneriaeth yr ardal leol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod D?r Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Gan fod cyfraniad ariannol eisoes wedi'i wneud gan y ddau awdurdod cyntaf,  gofynnaf yn ffurfiol felly a fydd Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyfrannu'n ariannol at y gwariant sydd ei angen i ddatblygu'r seilwaith lleol yn yr ardal?”

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o saith awdurdod lleol sy'n enwebu Cynghorwyr Sir etholedig i wasanaethu ar Fwrdd Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Y rhai sy'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin ar y bwrdd hwn yw'r Cynghorydd Glynog Davies, Cwarter Bach a mi ar gyfer Ward Llangadog.  Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed yn 2017 ac ynghyd â'r ffaith fod 2017 yn cael ei hyrwyddo fel y Flwyddyn Chwedlau rhagwelir y bydd llawer o ymwelwyr yn heidio i'r ardal.  Mae hyn yn briodol iawn o ystyried bod gan ward leol Llangadog gysylltiad agos â chwedl "morwyn y llyn”.  Y rhanddeiliaid ym mhartneriaeth yr ardal leol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod D?r Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.  Gan fod cyfraniad ariannol eisoes wedi'i wneud gan y ddau awdurdod cyntaf,  gofynnaf yn ffurfiol felly a fydd Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyfrannu'n ariannol at y gwariant sydd ei angen i ddatblygu'r seilwaith lleol yn yr ardal?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Gellir gweld beth yw'r heriau. Yn amlwg nid wyf mewn sefyllfa y bore yma i ymrwymo'r Cyngor hwn i unrhyw wariant penodol ar y rhan honno o'r Parc Cenedlaethol ond yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw bod y Bwrdd Gweithredol efallai yn fodlon cynnal cyfarfodydd gyda'r partneriaid rydych yn cyfeirio atynt sef y Parc Cenedlaethol, yr Awdurdod D?r a ninnau fel Cyngor er mwyn i ni edrych ar wella'r safle a'n bod ni'n creu cynllun sydd wedi'i gostio'n briodol ac yna gallwn ystyried y ffordd ymlaen fel partneriaeth o Awdurdodau er mwyn gwneud y rhan hon o dir yn fwy deniadol ac yn haws ei defnyddio yn y dyfodol."

 

7.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

“Ddydd Gwener 24/03/17 bu i'r ganolfan ailgylchu yn Llangadog, y cyfeirid ati gan y gymuned leol fel 'All Waste Services', gau ei gatiau. Mae'r safle dan sylw yn addas i'r diben, wedi'i drwyddedu, ac yn meddu ar ganiatâd cynllunio llawn i gynnig gwasanaethau ailgylchu yng ngogledd-ddwyrain y sir. Bellach mae'r safle ar y farchnad gan y gwerthwyr eiddo lleol.  Erbyn hyn mae trigolion Llangadog a'r cylch wedi gorfod gwneud y tro â chyfleusterau ailgylchu dros dro sylfaenol am bron 3 mis, felly fy nghwestiwn i'r Cyng. Evans yw - Pryd fydd y gwasanaethau ailgylchu arferol yn dychwelyd ac ym mhle fydd hynny'n digwydd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ddydd Gwener, 24ain Mawrth, 2017 bu i'r ganolfan ailgylchu yn Llangadog, y cyfeirid ati gan y gymuned leol fel 'All Waste Services', gau ei gatiau.  Mae'r safle dan sylw yn addas i'r diben ac yn drwyddedig â chaniatâd cynllunio llawn ar gyfer ailgylchu yn rhan ogledd-ddwyreiniol y Sir.  Bellach mae'r safle ar y farchnad gan y gwerthwyr eiddo lleol.  Bellach mae'n 3 mis ers i breswylwyr Llangadog a'r ardal gyfagos orfod ymdopi â chyfleusterau ailgylchu sylfaenol a thros dro, fy nghwestiwn i ar gyfer y Cynghorydd Evans yw - Pryd fydd y gwasanaethau ailgylchu yn mynd yn ôl i'r arfer eto ac ym mhle fydd y cyfleusterau ailgylchu?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor [yn absenoldeb y Cynghorydd Hazel Evans a oedd ynghlwm wrth waith arall a oedd yn ymwneud â'r Cyngor]

 

“Er i'r Cyngor gynnal trafodaethau helaeth gydag All Waste Services o ran gweithredu Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Llangadog, yn anffodus nid oedd modd dod i gytundeb a oedd yn dderbyniol i bawb ac ar gais y contractwr caeodd y cyfleuster hwnnw ym mis Mawrth 2017.  Ers hynny, mae'r Awdurdod wedi cael nifer o geisiadau am ddarparu cyfleuster tebyg yn yr ardal a cheisiadau am y wybodaeth ddiweddaraf am y fath gyfleuster.  Yn dilyn cau'r cyfleuster yn Llangadog, mae'r Awdurdod yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ynghylch y ddarpariaeth o ran Safleoedd Casglu ac Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Sir yn gyffredinol.  Bydd yr astudiaeth yn edrych ar ffactorau fel lleoliad daearyddol, dwysedd poblogaeth, agosrwydd at gyfleusterau eraill ac yn rhoi cyfres o opsiynau i'r Awdurdod eu hystyried. Mae'r astudiaeth hon yn debygol o gymryd amser wrth i'r holl wybodaeth feintiol ac ansoddol gael ei chasglu a'i hasesu a disgwylir cael argymhelliad i'w ystyried ym mis Tachwedd eleni.  Yn y cyfamser mae'r Awdurdod yn rhoi cyfarwyddyd i'r preswylwyr ddefnyddio'r safle casglu yn Llanymddyfri ar gyfer eu deunyddiau ailgylchu gan fod yno gynhwysyddion ar gyfer caniau, papur a gwydr neu fel arall, y Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Wernddu ger Rhydaman.  Yn ogystal, rydym yn ystyried trefnu amnestau gwastraff eraill er mwyn helpu preswylwyr yn yr ardal â'u hanghenion o ran ailgylchu a gwaredu gwastraff.  Mae'r Awdurdod yn ymwybodol bod y safle yn Llangadog ar werth, fodd bynnag, nid ydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag All Waste Services am y mater. Cysylltwyd â'r Cyngor ynghylch cynigion ar gyfer nifer o safleoedd yn yr ardal leol ac fel rhan o'r adolygiad, bydd angen ystyried pob opsiwn."

 

 

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

9.

APWYNTIADAU'R TIM RHEOLI CORFFORAETHOL. pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Gadawodd Mrs W. Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol, y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion ar gyfer recriwtio Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant  a Chyfarwyddwr Adfywio a Pholisi.

 

Yn dilyn ymarfer recriwtio blaenorol ym mis Tachwedd 2016 lle cafwyd 2 gais yn unig, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen i benodi Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant parhaol a chytunwyd ar drefniadau dros dro hyd nes y byddai ymarfer recriwtio pellach yn cael ei gynnal ddiwedd blwyddyn academaidd 2016/17.

 

Ym mis Mai 2015 cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor Sir a oedd yn nodi'r cynnig ar gyfer adlinio Uwch Dîm Rheoli'r Awdurdod.  Fel rhan o'r cynigion hynny, crëwyd swydd newydd sef Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi). Ers hynny mae'r swydd wedi tyfu'n sylweddol i gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol sy'n cynnwys elfennau allweddol o'r swyddogaeth Eiddo Corfforaethol.  Yn ogystal â hyn, mae prosiect arloesol Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn wedi'i gymeradwyo a bydd 11 o brosiectau mawr bellach yn mynd rhagddynt gan roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol a chreu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.  Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol gyfrifol am arwain a rheoli gweinyddiaeth a chydymffurfiaeth prosiectau gwerth £241m. 

 

Yng ngoleuni'r uchod, cynigiwyd creu swydd Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi er mwyn ysgogi a chefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor i ddatblygu'r Fargen Ddinesig.  Byddai'r swydd hon yn disodli, ac nid yn ychwanegol at swydd bresennol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) a fyddai wedyn yn cael ei hystyried yn ddiangen.

 

Cafodd y cynnig ei gyflwyno a'i eilio.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Er mwyn sicrhau mai'r bobl fwyaf disglair a'r bobl orau sy'n ymgeisio am y swyddi dan sylw, ac er mwyn dangos ein hymrwymiad i'r addewidion a wnaethom i'r etholwyr, rydym yn cynnig heddiw bod gan y ddau gyflog uchaf uchafswm cyflog o £112,211, sy'n golygu y bydd yn unol â Dinas a Sir Abertawe.”

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Cynnig gyfle i siarad o'i blaid.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Panel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl, sydd ag aelodaeth drawsbleidiol, wedi ystyried a chytuno ar ddatganiad polisi tâl yr Awdurdod yn gynharach eleni, a gafodd ei gymeradwyo ar ôl hynny gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2017.

 

Yn sgil cael cais gan fwy na deg o aelodau yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig ynghylch y gwelliant gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y gwelliant (18)

 

Y Cynghorwyr S. Curry, S.L. Davies, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, D.C. Evans, A. Fox, T. Higgins, J.D. James, R. James, D. Jones, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A. McPherson, E. Morgan, S. Najmi, J. Prosser a Bill Thomas

Yn erbyn y Gwelliant (32)

Y Cynghorwyr S.M Allen, C.A. Campbell, G. Davies, H. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, T.A.J. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, L.D. Evans, R. Evans, W.T. Evans,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL

Dogfennau ychwanegol:

10.1

PENODI SWYDDOG PRIODOL. pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 26ain Mehefin, 2017, wedi ystyried adroddiad a fanylai ar Benodi Swyddogion Priodol (gweler Cofnod 7) ac wedi gwneud dau argymhelliad i'w hystyried gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

10.1      bod yr Awdurdod yn penodi'r ymgynghorwyr canlynol o'r Awdurdod Iechyd yn Swyddogion Priodol at ddibenion deddfwriaeth Diogelu Iechyd:-

 

           

Mrs Heather Lewis

Ymgynghorydd Diogelu Iechyd

Mr Sion Lingard

Ymgynghorydd Diogelu Iechyd

Y Dr Christopher Johnson

Ymgynghorydd Diogelu Iechyd

Y Dr Rhianwen Stiff

Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy

Y Dr Brendan Mason

Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy

Y Dr Gwen Lowe

Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy

Y Dr Graham Brown

Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy

Y Dr Meirion Evans

Epidemiolegydd Ymgynghorol

Y Dr Christopher Williams

Epidemiolegydd Ymgynghorol

Y Dr Giri Shakar

Ymgynghorydd Proffesiynol Arweiniol ar gyfer Diogelu Iechyd

 

10.2     Bod y penodiadau'n dod i rym ar unwaith a'u bod yn parhau hyd nes:

 

            - y bydd y Cyngor wedi diddymu'r penodiad; neu

            - y bydd y swyddog wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o 3 mis i'r Cyngor ynghylch y bwriad i ymddiswyddo; neu

            - y bydd cyflogaeth y swyddog â'r Awdurdod Iechyd wedi dod i ben.

 

12.

2AIL MAI, 2017; pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

12.1

26AIN MEHEFIN, 2017. pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr S.L. Davies a J.D. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Cyfeiriwyd at gofnod 8 a'r ffaith fod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn y cyfarfod wedi amlinellu dau ateb posibl o ran costau ymddeoliadau cynnar gwirfoddol a chostau dileu swyddi mewn ysgolion uwchradd sef adleoli staff a'r posibilrwydd y bydd yn rhaid i ysgolion unigol dalu rhai o'r costau hyn yn y dyfodol a'r teimlad oedd y dylid fod wedi cynnwys manylion yr atebion posibl hyn yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.