Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, T. Devichand, C.P. Higgins, A. James, J.P. Jenkins, P.E.M. Jones, P.A. Palmer, K.P. Thomas, M.K. Thomas, W.G. Thomas, J. Tremlett a J.E. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Natur y Buddiant

S.L. Davies

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Personol a Rhagfarnol – Aelod o Gyngor Gwledig Llanelli ac Ysgrifennydd Pwyllgor Lles Dafen

S.M. Allen

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf

S.M. Caiach

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Gwledig Llanelli

D.M. Cundy

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Gwledig Llanelli

A.   Davies

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybie

D.B. Davies

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri

G. Davies

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Cwarter Bach

W.R.A. Davies

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybie, Ysgrifennydd a Thrysorydd Clwb Tenis Llandybie

E. Dole

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llannon

J.S. Edmunds

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Llanelli

D.C. Evans

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Rhydaman

D. Harries

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Rhydaman a Llywydd Clwb Pêl-droed Rhydaman

W.G. Hopkins

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llangennech

P.M. Hughes

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Sanclêr

I.J. Jackson

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Llanymddyfri

J.D James

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Llywydd Clwb Bowls Porth Tywyn ac Aelod o Glwb Rygbi Porth Tywyn

D.M. Jenkins

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Cwmaman

A.W. Jones

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe

T.J. Jones

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Gwledig Llanelli

W.J. Lemon

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Llanelli

K. Madge

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Cwmaman

A.G. Morgan

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Gwledig Llanelli

J. Owen

5.1 – Cynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.D. James (Trosglwyddo Asedau Cymunedol)

Aelod o Gyngor Tref Llanelli

G.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd Dafydd Tomos i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor yn dilyn ei ethol yn Gynghorydd Sir dros Ward Cil-y-cwm.

 

·        Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu’r Cyn-gynghorydd Sir June Williams o Dre Ioan, a oedd wedi bod yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin o fis Rhagfyr 1997 tan fis Mai 2008 ac a wasanaethodd hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

·        Hysbyswyd y Cyngor ynghylch cynnwys adroddiad diweddar gan Estyn ar ysgolion ledled Cymru o ran arweinyddiaeth a gwerth ysgolion cynradd. Estynnwyd llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Brynaman am fod yn un o dair ysgol yn unig ledled Cymru a oedd yn cael eu henwi yn yr adroddiad, yr unig ysgol yn Sir Gaerfyrddin a’r unig ysgol sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr adroddiad yn nodi bod arweinyddiaeth yr ysgol yn arloesol, yn sicrhau darpariaeth effeithiol ac yn cynnwys diwylliant cyson o godi safonau.

 

·        Estynnwyd llongyfarchiadau i Aneurin Karadog, a oedd yn byw ym Mhontyberem, am ennill y Gadair yn yr Eisteddfod.

 

·        Estynnodd y Cadeirydd groeso i staff o Uned Rheoli Pobl a Pherfformiad Adran y Prif Weithredwr, Pennaeth Ysgol Porth Tywyn, Alison Williams, Rheolwr Cymorth Busnes yr Ysgol, Helen Williams, dau o ddisgyblion yr ysgol Callum Eydman a Lowri Edwards ynghyd â Mr John Griffiths, Aseswr Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Gorfforaethol a oedd wedi cael ei wahodd i’r cyfarfod gan fod y Cyngor wedi ennill Gwobr Blatinwm y Safon Iechyd Corfforaethol.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i’r staff am eu gwaith i alluogi’r Cyngor i ennill y Wobr Blatinwm a diolchodd hefyd i staff a disgyblion Ysgol Gynradd Porth Tywyn am eu cyfraniad a’r rhan a chwaraeon nhw ym mhroses y wobr fel rhan o’r astudiaeth achos a gynhaliwyd o’r gwaith i adeiladu’r ysgol.

 

Rhoddodd Mr John Griffiths gyflwyniad byr i’r Cyngor ar ei lwyddiant o ran cadw Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol ac o ran ennill y Wobr Blatinwm. Roedd y gwobrau’n cydnabod yr arferion gweithio da a oedd wedi’u mabwysiadu gan y Cyngor a’i ymrwymiad hirsefydlog i Iechyd a Lles ei staff a’r gymuned ehangach, yr oeddent i gyd yn rhan annatod o’i bolisïau ac arferion.

 

Fe gymeradwyodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio sylwadau Mr Griffith, ac fe estynnodd ei llongyfarchiadau i staff y Cyngor a staff a disgyblion Ysgol Gynradd Porth Tywyn am eu cyfraniad i lwyddiant y Cyngor o ran ennill y Wobr Blatinwm.

 

Wedyn cyflwynodd Mr Griffiths Wobr Blatinwm y Safon Iechyd Gorfforaethol i Gadeirydd y Cyngor.

 

·        Croesawodd y Cadeirydd sawl aelod o staff o Dîm Dylunio Eiddo Adran yr Amgylchedd ac estynnodd ei longyfarchiadau iddynt am nifer y gwobrau yr oeddent wedi’u hennill dros y 18 mis blaenorol.

 

Aeth yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd ati i egluro natur a chwmpas y gwobrau wrth y Cyngor ac fe estynnon nhw eu llongyfarchiadau a’u diolch i’r holl staff yn yr uned am eu gwaith caled i ennill y gwobrau hynny.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 13EG GORFFENNAF 2016 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd S.M. Allen at Gofnod 2 o dan Datgan Buddiannau a hysbysodd nad oedd ei datganiad mewn perthynas â Chofnod 18 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol (Trosglwyddo Asedau Cymunedol) fel aelod o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf wedi cael ei gofnodi yn y cofnodion.

 

Hysbysodd y Cynghorydd G. Davies nad oedd ei bresenoldeb yn y cyfarfod wedi cael ei gofnodi yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2016 fel cofnod cywir yn amodol ar y ddau newid uchod.

5.

YSTRIED Y RHYDUDDION O GYNNIG CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD J.D. JAMES

Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod yr heriau o ran cyflawni’r bwriad i

DrosglwyddoAsedau Cymunedol ac yn gofyn yn garedig i’r Bwrdd Gweithredol ailystyried ei benderfyniad i dorri’r Grant Cynnal a Chadw a gynigiwyd ar gyfer trosglwyddiadau a gwblheir ar ôl 31 Mawrth 2017 ac ailgyflwyno’r cynnig gwreiddiol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd James wybod i’r Cyngor ei fod, yn dilyn cael cyngor cyfreithiol, yn tynnu ei Gynnig yn ôl.

 

PENDERFYNWYD nodi fod y Cynghorydd James yn tynnu ei Gynnig yn ôl.

 

5.2

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD K. MADGE

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu strategaeth newydd i ymdrin ag eiddo gwag mawr e.e. hen gapeli, eglwysi, hen neuaddau a llawer o hen adeiladau eraill yn ein cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd Cynghorau eraill. Gyda chyllid ychwanegol gallwn droi'r adeiladau hyn nad ydynt yn cael eu defnyddio yn fflatiau i'w gosod ar rent neu eu gwerthu, a fydd yn helpu â'r rhestr aros hirfaith am gartrefi yn Sir Gaerfyrddin”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i’r Cynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Kevin Madge:-

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu strategaeth newydd i ymdrin ag eiddo gwag mawr e.e. hen gapeli, eglwysi, hen neuaddau a llawer o hen adeiladau eraill yn ein cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd Cynghorau eraill.Gyda chyllid ychwanegol gallwn droi'r adeiladau hyn nad ydynt yn cael eu defnyddio yn fflatiau i'w gosod ar rent neu eu gwerthu, a fydd yn helpu â'r rhestr aros hirfaith am gartrefi yn Sir Gaerfyrddin

 

Eiliwyd y cynnig

 

Rhoddwyd cyfle i’r sawl a gyflwynodd y Cynnig siarad o’i blaid ac fe nododd y rhesymau dros ei gyflwyno, a oedd yn cael eu nodi yn y Cynnig.

 

Cafodd y Gwelliant canlynol i’r Cynnig ei roi gerbron gan y Cynghorydd A Lenny a’i secondio:-

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth genedlaethol newydd i ymdrin ag eiddo gwag mawr e.e. hen gapeli, eglwysi, hen neuaddau ac ati a darparu cyllid ychwanegol i alluogi’r Cyngor hwn a chynghorau eraill yng Nghymru i brynu adeiladau segur o’r fath a’u troi’n fflatiau i’w gosod ar rent neu eu gwerthu”.

 

Rhoddwyd cyfle i’r sawl a gyflwynodd y Gwelliant gerbron siarad o’i blaid ac fe nododd y rhesymau dros ei gyflwyno ger bron.

 

Fe wnaed nifer o ddatganiadau o blaid y Gwelliant a’r Cynnig, ac yn dilyn y datganiadau hynny fe wnaeth y sawl a gyflwynodd y Cynnig, gyda chydsyniad yr eiliwr, dynnu ei gynnig yn ôl. O ganlyniad, y Gwelliant oedd y Prif Gynnig yr oedd gofyn i’r Cyngor bleidleisio arno.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Gwelliant i’r Cynnig.

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS I CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yng ngoleuni’r gwaith sydd wedi dechrau ym Mharc Howard, Llanelli a chost y prosiect hwn, yn sicr byddai polisi’r Cyngor a gweithdrefnau caffael priodol wedi cael eu dilyn.

Fy nghwestiwn i yw pryd y dechreuodd y broses gaffael ynghyd â’r broses dendro a phryd y dyfarnwyd y gwaith i’r contractwr llwyddiannus.”

                                                                                                

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yng ngoleuni’r gwaith sydd wedi dechrau ym Mharc Howard, Llanelli a chost y prosiect hwn, yn sicr byddai polisi’r Cyngor a gweithdrefnau caffael priodol wedi cael eu dilyn.

Fy nghwestiwn i yw pryd y dechreuodd y broses gaffael ynghyd â’r broses dendro a phryd y dyfarnwyd y gwaith i’r contractwr llwyddiannus”.

 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor

“Dechreuodd y broses o gaffael yr offer ar 21 Mai, a rhoddwyd y gorchymyn i ddechrau’r gwaith ar 13 Mehefin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Edmunds y cwestiwn atodol canlynol:

“A all yr Arweinydd egluro’n llawn beth oedd yn ei olygu pan ddywedodd wrth drigolion sy’n byw o amgylch y parc y byddai tai’n cael eu hadeiladu ar y parc pe bai’r cynnig hwn yn cael ei wrthod?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dole nad oedd wedi gwneud unrhyw sylw ynghylch codi tai ym Mharc Howard. Roedd y sylw hwnnw wedi cael ei briodoli iddo ar gam gan bapur newydd yr Herald yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion lleol i drafod dull gweithredu’r Cyngor i gadw Parc Howard mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i gynlluniau, ei nodau a’i ddyheadau ar gyfer y parc. Fel rhan o’r drafodaeth honno, fe geisiwyd barn trigolion o ran beth allai dyfodol y parc fod pe na bai’r Cyngor yn gallu creu’r incwm i’w gadw mewn perchnogaeth gyhoeddus. Eu hymateb hwy oedd y gellid trefnu bod y tir ar gael ar gyfer tai. Yn y cyd-destun hwnnw yr oedd y dyfyniad a briodolwyd iddo ef wedi ymddangos yn yr Herald mewn perthynas â barn trigolion yngl?n â’r hyn a allai ddigwydd pe na bai’r Cyngor yn gwireddu ei nodau a’i ddyheadau ar gyfer y parc, yr oedd yn llawn bwriadu ei wneud.

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS I CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Yn dilyn fy nghwestiwn blaenorol ynghylch y gwaith ym Mharc Howard, Llanelli, fy nghwestiwn i yw:- Pam y caniatawyd i’r gwaith ddechrau heb gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol yn gyntaf?  Mae hyn wedi arwain at roi stop ar y gwaith er mwyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol, a’r posibilrwydd o gostau ychwanegol diangen sy’n deillio o’r methiant hwn.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn i’r Cynghorydd Edmunds ofyn ei gwestiwn, gofynnwyd a allai gael ei ystyried yn gwestiwn atodol ar ôl ei gwestiwn cynharach yng nghofnod 6.1. Os mai felly yr oedd hi, yna gan fod cwestiwn atodol wedi cael ei ofyn yn barod, byddai unrhyw gwestiwn arall yn groes i Reol 11.8 yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.

 

Er bod y Cadeirydd wedi barnu bod y cwestiwn yn gwestiwn atodol ychwanegol ac felly na ellid ei ofyn, cynigiwyd fod Rheol 11.8 yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yn cael ei hatal er mwyn ei gwneud yn bosibl gofyn y cwestiwn, ac eiliwyd y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD atal Rheol 11.8 yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a chaniatáu i’r Cynghorydd Edmunds ofyn ei gwestiwn.

 

Wedi hynny gofynnodd y Cynghorydd Edmunds y cwestiwn canlynol:-

 

“Yn dilyn fy nghwestiwn blaenorol ynghylch y gwaith ym Mharc Howard, Llanelli, fy nghwestiwn i yw:- Pam y caniatawyd i’r gwaith ddechrau heb gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol yn gyntaf?  Mae hyn wedi arwain at roi stop ar y gwaith er mwyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol, a’r posibilrwydd o gostau ychwanegol diangen sy’n deillio o’r methiant hwn”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor

 

“Pan ddechreuodd y gwaith, ystyrir yn wreiddiol nad oedd yn ofynnol cael caniatâd cynllunio, gan nad yw’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer offer chwarae fel rheol. Unwaith y daeth yn amlwg bod maint y gwaith yn golygu bod angen caniatâd cynllunio, rhoddwyd cyfarwyddyd i’r contractwr atal y gwaith ar unwaith ac mae caniatâd cynllunio’n cael ei baratoi”.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Edmunds y cwestiwn atodol canlynol:

 

“Pa fath o neges mae hyn yn ei rhoi i’r cyhoedd? Beth ydym yn ceisio’i ddweud wrth y cyhoedd pan ydym yn gweithredu fel hyn”?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Y neges briodol yw hi. Mae’n neges gadarnhaol ynghylch Parc Howard. Mae’n ymwneud â chadw Parc Howard mewn perchnogaeth gyhoeddus, ei wneud yn bopeth y gall fod. Rydym wedi rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod hynny’n digwydd, a’i fod yn datblygu i fod yr hyn y mae’n mynd i fod, bod iddo ddiben a’n bod yn ei ddatblygu’n fasnachol mewn modd sensitif. Dyna’r egwyddorion y cytunwyd arnynt gyda’r holl bartïon o amgylch y bwrdd ar gyfer yr ymgynghoriad yr wyf wedi’i sefydlu gyda’r cyfeillion, gyda’r gymdeithas ac maent i gyd yn cefnogi hynny. A dweud y gwir, ddydd Llun, fe gytunon ni i gyd i fwrw ymlaen â’r broses honno a byddwn yn cynnal ein cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.

 

O ran cyflwyno’r cais cynllunio’n ôl-weithredol, roedd hynny’n gwbl gyfreithlon, ac roedd yn digwydd yn rheolaidd yn y pwyllgor cynllunio  

6.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS I CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Ar 1 Medi cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Dref, Llanelli, i groesawu teulu i Sir Gaerfyrddin. Roedd nifer o westeion yn bresennol, gan gynnwys aelodau o’r bwrdd gweithredol a chynrychiolydd o’r heddlu (Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu). Pam na roddwyd gwahoddiad i Gadeirydd ein Cyngor fod yn bresennol, gan mai rôl y Cadeirydd yw cynrychioli ein Cyngor mewn digwyddiad o’r fath?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ar 1 Medi cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Dref, Llanelli, i groesawu teulu i Sir Gaerfyrddin. Roedd nifer o westeion yn bresennol, gan gynnwys aelodau o’r bwrdd gweithredol a chynrychiolydd o’r heddlu (Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu). Pam na roddwyd gwahoddiad i Gadeirydd ein Cyngor fod yn bresennol, gan mai rôl y Cadeirydd yw cynrychioli ein Cyngor mewn digwyddiad o’r fath?”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Rôl y Cadeirydd yw cynrychioli’r Cyngor hwn mewn achlysuron a digwyddiadau dinesig. Pan gyflwynais y Cynnig ar Rybudd i’r Cyngor haf diwethaf ynghylch croesawu ffoaduriaid o Syria, gofynnais inni fynd y tu hwnt i hynny. Mae’r broses honno wedi cael ei rhoi ar waith gan dasglu, sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Pam Palmer. Mae wedi bod yn broses faith ac rwyf wedi dweud yn y cyfryngau ac ar y newyddion cenedlaethol bod y broses honno’n hanfodol i sicrhau bod popeth yn ei le ac y byddai’n gweithio’n berffaith iddynt pan fyddent yn cyrraedd. Nid ar gyfer un teulu yr oedd hynny, ond ar gyfer tri theulu. Fi alwodd y cyfarfod hwnnw, nid y Cadeirydd. Te prynhawn ydoedd, a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref Llanelli, nid yn siambr y Cadeirydd, ac nid oedd yn achlysur dinesig nac yn ddigwyddiad dinesig. Ni wahoddais unrhyw gynghorwyr; y tîm a oedd yn rhoi’r broses ar waith i sicrhau’r croeso cywir a’i fod yn gweithio ar bob lefel ac ar draws y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt oedd y gwahoddedigion. Diben y cyfarfod hwnnw oedd cwrdd â hwy’n anffurfiol fel yr Arweinydd, i sicrhau eu bod yn cael croeso a hefyd i holi a oedd ganddynt unrhyw anghenion ychwanegol. Roedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn bresennol hefyd. Nid oedd unrhyw gamerâu yno, ac eithrio camerâu’r teuluoedd eu hunain a oedd yn dymuno tynnu lluniau gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a’r tîm a oedd wedi gwneud gwaith mor wych i sicrhau bod eu cyrhaeddiad wedi bod yn saff a diogel. Nid oedd unrhyw amarch tuag at y Cadeirydd. Nid oedd yn ddigwyddiad nac yn achlysur dinesig. Digwyddiad dinod ydoedd, heb unrhyw bresenoldeb gan y wasg, heb unrhyw luniau. Roedd yn ymwneud â’u croesawu hwy a gofyn beth oedd eu hanghenion pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Edmunds y cwestiwn atodol canlynol:

 

“Mae fy nghwestiwn i’n ymwneud â chyfansoddiad y Cyngor ac yng ngoleuni’r ffaith bod pobl wirfoddol yn y digwyddiad hwnnw hefyd, roedd aelod o’r Cyngor, heblaw am ddau Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a chithau a oedd hefyd yn y digwyddiad, roedd aelodau o’r cyhoedd yn y digwyddiad yn ogystal â’r teulu ac yn amlwg mae hynny i mi yn ddyletswydd o fath dinesig sut bynnag y cafodd ei gadw’n gyfrinach ond dan y cyfansoddiad rwy’n teimlo na ddilynwyd y cyfansoddiad. Mae’r cwestiwn yn ymwneud â’m dealltwriaeth i am y cyfansoddiad o ran eich rôl chi a rôl y Cadeirydd, na ddilynwyd y cyfansoddiad”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

“Fe ddilynwyd y Cyfansoddiad yn llwyr. Nid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.3

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

8.

PENODI SWYDD CYFARWYDDWR ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyried i adroddiad diwygiedig a gafodd ei gylchredeg yn y cyfarfod ynghylch penodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn dilyn ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr presennol ar 27 Gorffennaf 2016. Hysbyswyd y Cyngor ei bod yn ofynnol, yn unol â’i Ddatganiad Polisi Cyflog a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2016, i benodiad newydd i unrhyw swydd Prif Weithredwr gael ei wneud yn unol â darpariaethau Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014. Yn unol â hynny, roedd yn ofynnol llunio datganiad a oedd yn nodi:-

 

(a) (i) dyletswyddau’r Swyddog dan sylw

      (a) (ii) unrhyw gymwysterau neu nodweddion a geisir yn y sawl a fydd yn cael ei benodi

     (b) trefniadau i hysbysebu’r swydd yn gyhoeddus mewn ffordd a oedd yn debygol o’i dwyn i sylw pobl sy’n gymwys i ymgeisio amdani a hefyd

(c) trefniadau i gopi o’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw un ar gais.

 

Hefyd, lle'r oedd yr Awdurdod yn bwriadu penodi Prif Swyddog ar gydnabyddiaeth ariannol flynyddol o £100,000 neu fwy, roedd y rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol bod y swydd yn cael ei hysbysebu’n gyhoeddus, a’r unig eithriad i hyn oedd pe bai’r penodiad am gyfnod o ddim mwy na 12 mis.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1

Cymeradwyo’r Proffil Swydd a Manyleb y Person ar gyfer Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad diwygiedig a gafodd ei gylchredeg yn y cyfarfod

8.2

Cymeradwyo’r hysbyseb swydd ar gyfer hysbysebu’r swydd yn gyhoeddus fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 a oedd wedi’i nodi yn Atodiad 2 wrth yr adroddiad diwygiedig a gafodd ei gylchredeg yn y cyfarfod

 

9.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2015-2016 pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i’r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2016 (gweler Cofnod 13) wedi cael yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosydd Darbodaeth, yn unol â Pholisi’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gweithgaredd a oedd wedi digwydd yn ystod 2015/16 dan benawdau Buddsoddiadau; Benthyciadau; Dangosyddion Darbodaeth Rheoli’r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth a Phrydlesu ac Aildrefnu.

 

Cyfeiriwyd at y penderfyniad blaenorol i ailddyrannu £20m o gronfeydd wedi’u clustnodi’r Cyngor i’w bolisi adfywio ar gyfer creu swyddi yn y sir. Gan ystyried y penderfyniad hwnnw i ailddyrannu, gofynnwyd am y rhesymau pam fod yr Awdurdod wedi benthyca tuag £20m tua’r un pryd.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y benthyciad wedi cael ei gymryd mewn perthynas â phroblemau gyda llif arian, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd ei fod yn cyd-daro ag ailddyrannu arian, dros gyfnod o bum mlynedd, o gronfeydd wrth gefn i’r polisi adfywio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y ffaith bod y cyfanswm a fenthyciwyd gan y Cyngor wedi codi o £276m i £376m fe wnaeth y Prif Weithredwr atgoffa’r Cyngor bod y cynnydd yn ymwneud i raddau helaeth â phenderfyniad y Cyngor i ‘brynu ei hun allan’ o gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai i roi mwy o hyblygrwydd iddo o ran rheoli ei stoc dai a’i alluogi i godi tai newydd. Roedd y dull hwnnw’n golygu mai’r Cyngor oedd un o ddau awdurdod yn unig yng Nghymru a oedd mewn sefyllfa i ddenu arian gan y Llywodraeth i godi tai.

 

Fe wnaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol atgoffa’r Cyngor bod y Cyngor yn arfer rhoi £6.2m o gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai yn ôl i’r Trysorlys bob blwyddyn. Dywedodd mai £4.9m y flwyddyn oedd cost y penderfyniad i brynu ei hun allan o’r cymhorthdal, gyda hynny’n gadael enillion net o £1.3m y flwyddyn i’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

“Bod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosydd Darbodaeth 2015/16 yn cael ei dderbyn.

9.2

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2016 (gweler Cofnod 18), wedi cael y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad yn ei gylch a gynhaliwyd rhwng 24 Chwefror 2016 ac 8 Ebrill 2016 i’w hystyried. Ar y cyfan roedd 59 o sylwadau wedi dod i law oddi wrth ystod o sefydliadau, partïon â buddiant ac aelodau o’r cyhoedd, fel a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 1.

 

Cyfeiriwyd at y derminoleg yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (rhan 2.27) o ran y Cyngor yn ceisio cyfraniadau ar gyfer manteision cymunedol naill ai trwy Gytundeb A106 neu drwy’r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Mynegwyd pryder ynghylch y cynnig i ddosrannu’r arian hwnnw ar sail cyfraniad uniongyrchol o 15% i’r gymuned ac 85% i’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, yr ystyrid y byddai’n annerbyniol i aelodau lleol a’r gymuned.

 

Fe wnaeth y Prif Weithredwr atgoffa’r Cyngor nad oedd wedi mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol, a bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch y cynnig i’w mabwysiadu, gyda’r cyfnod ymgynghori’n dod i ben ar 4 Tachwedd. Wedi hynny, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Cyngor er mwyn iddo benderfynu a yw’n dymuno mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Y rheswm dros gynnwys hynny yn y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft oedd er mwyn osgoi’r angen i gyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol pellach yn y dyfodol pe bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

“Nodi’r sylwadau a oedd wedi dod i law;

Symud ymlaen i fabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y diwygiadau arfaethedig, yn ffurfiol

Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r swyddogion gywiro unrhyw wallau teipio neu ramadegol”.

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

26AIN GORFFENNAF 2016 pdf eicon PDF 823 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

10.2

23AIN AWST 2016 pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau