Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 9fed Mehefin, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen; P Edwards, A. Fox a S. Najmi.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Mynegodd y Cynghorydd Handel Davies ei longyfarchiadau i Mr Wyn Jones o Lanymddyfri ar gael ei ddewis i chwarae i dîm rygbi'r Llewod ar y daith i Dde Affrica;

·         Mynegodd y Cynghorydd Rob Evans ei longyfarchiadau i Ysgol Dafen, Llanelli ar gael statws ‘First Global EntreCompEdu Pioneer School” o blith y 52 gwlad a gymerodd ran yn y prosiect rhwng Ionawr 2021 a Mai 2021

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

4.1

12FED MAI 2021 pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.2

19FED MAI 2021 pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL DRAFFT CANOL TREFI RHYDAMAN A CHAERFYRDDIN pdf eicon PDF 441 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2021 (cofnod 8) wedi ystyried adroddiad ar gynigion ar gyfer cyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol Drafft ar gyfer canol trefi Rhydaman a Chaerfyrddin i symleiddio'r broses gynllunio trwy ddileu'r angen am rai mathau o geisiadau cynllunio (ac eithrio adeiladau rhestredig) gan ganiatáu i ddatblygwyr fwrw ymlaen yn gyflymach a chyda sicrwydd, gan leihau costau. Os cânt eu mabwysiadu, byddai angen i'r cynigion gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u cymeradwyo ganddi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol

 

“8.1     ystyried y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Trefi Rhydaman a Chaerfyrddin.

8.2       cymeradwyo argymhellion yr adroddiad.

8.3       cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad hwn, a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno (yn amodol ar asesiad boddhaol o’r effaith amgylcheddol).

8.4       rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol a diweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio”.

 

 

6.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

26AIN EBRILL 2021 pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd John James at gofnod 7 o Gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Ebrill ynghylch datblygu hen safle Grillo ym Mhorth Tywyn ac at yr effaith yr oedd erydiad arfordirol yn ei chael ar yr ardal ac at unrhyw effaith bosibl a allai ei chael ar ddatblygiad y safle. Yn unol â hynny, estynnodd wahoddiad i Arweinydd y Cyngor gwrdd ag ef ar y safle o fewn y 28 diwrnod nesaf i weld y safleoedd.

 

Derbyniodd Arweinydd y Cyngor y gwahoddiad a rhoddodd sicrwydd bod y safle'n briodol i'w ddatblygu a bod y gwaith glanhau a'r gwaith ar diroedd presennol i gyd yn rhan o'i ddatblygiad. Cadarnhaodd y byddai'r trefniadau ar gyfer yr ymweliad yn cael eu gwneud yn ystod y dyddiau nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.

 

6.2

24AIN MAI 2021 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Mai 2021.

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

8.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB EVANS I'R CYNGHORYDD PHILIP HUGHES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS DIOGELU'R CYHOEDD

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael trafferth i gymryd camau gorfodi ynghylch troseddau parcio ar linellau melyn igam-ogam y tu allan i'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin gan roi plant mewn perygl o farwolaeth neu anaf difrifol.

 

A allaf ofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol "Beth all Cyngor Sir Caerfyrddin ei wneud i orfodi cyfyngiadau parcio y tu allan i ysgolion a sicrhau bod disgyblion ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ddiogel wrth gyrraedd ar ddiwrnod ysgol ac wrth adael ar ddiwedd y dydd?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei chael hi'n anodd gorfodi cyfyngiadau parcio ar linellau melyn igam-ogam y tu allan i'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin gan roi bywydau plant mewn perygl o farwolaeth neu anaf difrifol.

 

“Beth all Cyngor Sir Caerfyrddin ei wneud i orfodi cyfyngiadau parcio y tu allan i ysgolion a sicrhau bod disgyblion ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ddiogel wrth gyrraedd yr ysgol ac wrth adael”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Phillip Hughes - yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Evans am dy gwestiwn.

 

Gan weithio gyda'n partneriaid yn yr asiantaethau statudol, mae gan y Cyngor Sir gyfres o fesurau ac ymyriadau i sicrhau bod holl ddefnyddwyr ffyrdd yn ddiogel, yn enwedig pobl ifanc. Mae cyfres eang o fentrau peirianneg, gorfodi ac addysg ar waith i helpu i leihau'r risg i'r hen a'r ifanc.

 

Er enghraifft, o safbwynt peirianneg, dros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi dros ddwy filiwn a hanner o bunnoedd mewn Llwybrau Diogel i Ysgolion trwy weithio gyda chymunedau i gynnig a chael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi mewn cysylltiadau teithio llesol i annog pobl i gerdded a beicio mwy, gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy’n teithio mewn car.

 

O safbwynt addysg, mae ein rhaglen addysg diogelwch ffyrdd yn cynnwys hyfforddiant penodol i bobl ifanc, megis hyfforddiant diogelwch ffyrdd mewn ysgolion, sy'n cynnwys, cerdded a beicio’n ddiogel. Yn ogystal, mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu i fodurwyr ynghyd ag ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd a datganiadau i'r cyfryngau trwy'r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at beryglon wrth barcio yn ymyl ysgolion.

 

Mae ein Rhaglen Cerdded i'r Ysgol, er enghraifft, yn annog rhieni i gerdded, beicio neu fynd ar gefn sgwter i'r ysgol ac yn ôl adref gyda’u plant. Mae cerdded i'r ysgol o fantais i ddisgyblion, rhieni, yr ysgol a'r gymuned leol;

 

·         Mae'n datblygu sgiliau cerdded yn ddiogel a sgiliau diogelwch ffordd;

·         Lleihau tagfeydd traffig o gwmpas gatiau’r ysgol;

·         Mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol yn fwy effro ac ar amser;

·         Llai o allyriadau'n helpu i wella ansawdd aer;

·         Mae hefyd yn hybu ymarfer corff cymedrol

 

O ran gorfodi, bu'r Cyngor Sir yn gweithio gyda Go Safe a'r Heddlu i ymgymryd â mentrau gostwng cyflymder. Er enghraifft, mae Dyfais Dangos Cyflymder yn cael ei defnyddio, a phan fydd modurwyr yn goryrru, bydd swyddogion Plismona Ffyrdd yn stopio'r modurwyr sy'n mynd yn gyflymach na'r terfyn cyflymder. Bydd y modurwyr yn cael dewis, sef naill ai derbyn dirwy â phwyntiau cosb neu siarad â'r plant a Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir.

 

O safbwynt parcio, mae'r Cyngor Sir, unwaith yn rhagor, yn gweithio gydag ysgolion a'r heddlu drwy gynnal ymweliadau ar y cyd ag ysgolion a defnyddio'r car camera. Pan gyflwynwyd y car, bu'r Cyngor yn gweithio gyda phlant ysgol i hyrwyddo'r fenter a threfnwyd cystadleuaeth i'r plant ysgol enwi'r car ac annog ymddygiad cyfrifol wrth barcio. Enillodd disgybl blwyddyn dau o Ysgol Brynsierfel y gystadleuaeth ac enwyd y car yn ‘Iolo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1

9.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda o dan 11.1 – 11.3 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.