Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 47093491# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.)
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.S. Edmunds, L.D. Evans, H.I. Jones, T.J. Jones a B.A.L. Roberts.
|
|||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||
COFNODION Y CYNGOR - 22 HYDREF 2020 PDF 428 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2020 yn gofnod cywir yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd D.E. Williams yn y rhestr o'r rheiny oedd yn bresennol a chynnwys enw'r Cynghorydd P.M Hughes o dan 'Ymddiheuriadau am Absenoldeb'.
|
|||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||
PROSIECT SEILWAITH DIGIDOL, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn y cyfarfod ar 19 Hydref 2020 (gweler cofnod 4), wedi rhoi ystyriaeth i'r Achos Busnes arfaethedig, a'r buddsoddiad dilynol, ar gyfer Prosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Awdurdod arweiniol dynodedig ar ei gyfer. Byddai'r Prosiect yn helpu i ddarparu'r seilwaith sylfaenol hanfodol sydd ei angen i gefnogi ac ategu Strategaeth Ddigidol ehangach y rhanbarth ac yn helpu i sicrhau bod gan y rhanbarth Seilwaith Digidol sydd wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a fydd yn darparu'r sylfeini trawsnewidiol ar gyfer ymyriadau'r Fargen Ddinesig a thwf rhanbarthol ehangach. Roedd yr Aelodau'n gwbl gefnogol o'r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad a dywedwyd wrthynt y gellid cael gwybodaeth am y sefyllfa band eang bresennol ym mhob un o'u wardiau gan swyddogion os oeddent yn dymuno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:
“4. cymeradwyo'r Achos Busnes arfaethedig a'r buddsoddiad dilynol mewn Seilwaith Digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe; 4.2 rhoi pwerau dirprwyedig i Uwch-berchennog Cyfrifol y prosiect i wneud mân newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen er mwyn cael cymeradwyaeth ar lefel llywodraeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol.”
[NODER: Yn y rhan hon o'r cyfarfod, sef 11.00 a.m., cynhaliwyd dwy funud o dawelwch i gofio'r rhai a oedd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel.]
|
|||||||||||||||
DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 19EG HYDREF 2020 PDF 333 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.
|
|||||||||||||||
NEWIDIADAU I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:
PHENDERFYNWYD:-
9.1 penodi'r Cynghorydd Suzy Curry yn lle'r Cynghorydd Fozia Akhtar ar y Pwyllgor Trwyddedu;
9.2 penodi'r Cynghorydd Rob James yn lle'r Cynghorydd Suzy Curry ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|
|||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD Enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:-
Cynghorydd Rob James - Gr?p Llafur.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan fod y Cynghorydd Rob James wedi cymryd lle'r Cynghorydd Suzy Curry ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd [gweler cofnod 9.1 uchod] gofynnwyd i'r Cyngor ystyried penodi Cadeirydd newydd ar gyfer y Pwyllgor hwnnw. Yn unol â gofyniad y Cyfansoddiad, gofynnwyd i Arweinwyr gyflwyno eu henwebeion. Yr unig enw a gyflwynwyd oedd y Cynghorydd Rob James.
PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Rob James yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |
|||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |