Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 25643006# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S.M. Allen, P.M. Edwards, T.J. Jones, S. Phillips a A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.   James

7.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andrew James.

Cartref y teulu yw'r cyfeiriad y manylir arno yn y Rhybudd o Gynnig.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Ar ran yr aelodau, dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Cynghorydd Jim Jones a oedd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar. 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r diweddar David Hughes Davies, neu DH Davies fel yr oedd y mwyafrif o bobl yn ei adnabod. Bu farw DH ddiwedd mis Gorffennaf.  Roedd yn Brif Weithredwr hen Gyngor Sir Dyfed.

·         Ar ran y Cynghorydd David Thomas, mynegodd y Cadeirydd ei longyfarch i ffermwyr y Sir am eu cymorth a'u cefnogaeth i drigolion yn ystod y pandemig. Hefyd estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r holl bobl a'r busnesau a oedd wedi bod yn ddigon caredig i helpu yn ystod y pandemig.

·         Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am y ddamwain trên a’r disel oedd wedi ei ollwng yn Llangennech ddydd Mercher 26 Awst. Dywedodd fod y sefyllfa'n cael ei monitro'n barhaus.  Mynegodd yr Arweinydd a'r Cynghorydd Gwyneth Thomas eu diolch i bawb a oedd wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod y cyfnod hwn.  Y Gwasanaethau Brys, staff yr Awdurdod, y Cyngor Cymuned, a'r nifer o fusnesau, ysgolion lleol, canolfannau cymunedol a'r holl unigolion a weithiodd gyda'i gilydd i gefnogi'r gymuned yn ystod yr argyfwng hwn.

·         Gwnaeth yr Arweinydd ddatganiad ynghylch y clwstwr o achosion Covid19 a gadarnhawyd yn y Sir yn ddiweddar.  Mynegodd yr Arweinydd ei ddiolch i bobl Sir Gaerfyrddin am lynu wrth y canllawiau ac am eu hymdrechion a'u hymrwymiad i gynnal gwasanaethau hanfodol.  Fodd bynnag, mynegodd ei siom fod nifer fach o bobl wedi llwyr anwybyddu diogelwch eraill ac y byddai'r Awdurdod yn parhau i wneud pob dim o fewn ei allu i atal digwyddiadau pellach.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 8FED GORFFENNAF 2020. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020 gan eu bod yn gywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES

Yn ystod y pandemig a'r cyfyngiadau symud, mae cyfarfodydd rhithwir bellach yn ffordd normal a hanfodol o gyfathrebu a chynnal busnes y Cyngor. Wrth ystyried y sefyllfa bresennol, mae'n annhebygol iawn y bydd y cyfarfodydd arferol yn ailddechrau am gryn amser. Felly, mae cael darpariaeth band eang dibynadwy ac effeithiol yn hanfodol er mwyn cynnal y cyfathrebu ar-lein hwn wrth symud ymlaen.

 

Fodd bynnag, mae mynediad band eang cyflym iawn yn heriol dros ben os nad yn amhosibl i bobl sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Mae busnesau lleol, aelwydydd teuluol a Chynghorwyr fel finnau yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y gwasanaeth anwadal sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan BT Openreach. Rydym ni yma yn Siambr y Cyngor Sir wedi cael 3 chyflwyniad ar wahân gan swyddogion BT yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn addo darparu'r gwasanaeth y mae mawr ei angen arnom ac yn ei haeddu, ond hyd yma nid yw'r ddarpariaeth o ran cysylltedd band eang cyflym iawn wedi'i wireddu ledled y sir. Nid yw'r geiriau rhwystredigaeth a siom yn ddigon i ddisgrifio sut rydym i gyd yn teimlo, felly yn hytrach na chwyno gadewch i ni wneud rhywbeth cadarnhaol.

 

Rwyf felly'n galw ar yr holl Gynghorwyr ac Awdurdodau Lleol o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, i gefnogi'r cais sy'n cael ei anfon at Weinidog Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn bob dydd a fydd o fudd i fusnesau ac aelwydydd fel ei gilydd, sef:-

 

·         Galluogi pob cartref a busnes i gael mynediad i gyflymder lawrlwytho byd-eang o 11.03 Megabeit yr eiliad. Ar 23/07/2020 ein cyflymder lawrlwytho yn Fferm Stangau, Llanddeusant, Llangadog, SA19 9YL yn Sir Gaerfyrddin oedd tua 2.00 Megabeit yr eiliad. Mae hyn yn cymharu â chyflymder band eang cyflym o 11 i 50 Megabeit yr eiliad a byddai cyflymder band eang cyflym iawn yn 100 Megabeit yr eiliad.

·         Mae data pellach yn cadarnhau mai'r cyflymder band eang cyfartalog o ran llwytho yw 0.45 Megabeit yr eiliad yn ein t? ni tra bo cyflymder cyfartalog llwytho'n fyd-eang yn 1.00 Megabeit yr eiliad, gall cyflymder llwytho band eang cyflym iawn amrywio o 19 i 24 Megabeit yr eiliad.

 

I'r rheini ohonom sy'n byw mewn cymunedau gwledig sydd â darpariaeth band eang gwael, mae'r galw am well mynediad yn bwysicach nag erioed.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon)

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andrew James:

 

Yn ystod y pandemig a'r cyfyngiadau symud, mae cyfarfodydd rhithwir bellach yn ffordd normal a hanfodol o gyfathrebu a chynnal busnes y Cyngor. Wrth ystyried y sefyllfa bresennol, mae'n annhebygol iawn y bydd y cyfarfodydd arferol yn ailddechrau am gryn amser. Felly, mae cael darpariaeth band eang dibynadwy ac effeithiol yn hanfodol er mwyn cynnal y cyfathrebu ar-lein hwn wrth symud ymlaen.

 

Fodd bynnag, mae mynediad band eang cyflym iawn yn heriol dros ben os nad yn amhosibl i bobl sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Mae busnesau lleol, aelwydydd teuluol a Chynghorwyr fel finnau yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y gwasanaeth anwadal sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan BT Openreach. Rydym ni yma yn Siambr y Cyngor Sir wedi cael 3 chyflwyniad ar wahân gan swyddogion BT yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn addo darparu'r gwasanaeth y mae mawr ei angen arnom ac yn ei haeddu, ond hyd yma nid yw'r ddarpariaeth o ran cysylltedd band eang cyflym iawn wedi'i wireddu ledled y sir. Nid yw'r geiriau rhwystredigaeth a siom yn ddigon i ddisgrifio sut rydym i gyd yn teimlo, felly yn hytrach na chwyno gadewch i ni wneud rhywbeth cadarnhaol.

 

Rwyf felly'n galw ar yr holl Gynghorwyr ac Awdurdodau Lleol o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, i gefnogi'r cais sy'n cael ei anfon at Weinidog Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn bob dydd a fydd o fudd i fusnesau ac aelwydydd fel ei gilydd, sef:-

 

  • Galluogi pob cartref a busnes i gael mynediad i gyflymder lawrlwytho byd-eang o 11.03 Megabeit yr eiliad. Ar 23/07/2020 ein cyflymder lawrlwytho yn Fferm Stangau, Llanddeusant, Llangadog, SA19 9YL yn Sir Gaerfyrddin oedd tua 2.00 Megabeit yr eiliad. Mae hyn yn cymharu â chyflymder band eang cyflym o 11 i 50 Megabeit yr eiliad a byddai cyflymder band eang cyflym iawn yn 100 Megabeit yr eiliad.
  • Mae data pellach yn cadarnhau mai'r cyflymder band eang cyfartalog o ran llwytho yw 0.45 Megabeit yr eiliad yn ein t? ni tra bo cyflymder cyfartalog llwytho'n fyd-eang yn 1.00 Megabeit yr eiliad, gall cyflymder llwytho band eang cyflym iawn amrywio o 19 i 24 Megabeit yr eiliad.

 

I'r rheini ohonom sy'n byw mewn cymunedau gwledig sydd â darpariaeth band eang gwael, mae'r galw am well mynediad yn bwysicach nag erioed.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD y dylid cefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio at Weinidog Cymru sy'n gyfrifol am fand eang.

 

7.2

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY pdf eicon PDF 70 KB

RHYBUDD GYNNIG AR LES

Cynigir bod y Cyngor Sir yn creu Uned Hawliau Lles sy'n cynnwys Swyddogion a fydd mynd ati’n rhagweithiol i roi gwybod i bobl pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt gan gynnwys Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Statws Preswylydd Sefydlog, Credyd Treth Plant, Budd-dal Plant, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Ceisio Gwaith ac ati a'u helpu i lenwi'r ffurflenni gan ddilyn trywydd eu ceisiadau hyd nes y ceir canlyniad llwyddiannus, 

a'n bod yn gweithredu'r argymhellion canlynol gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen 2014 "Effaith Diwygio'r Hawliau Lles ar gymunedau ac aelwydydd ledled Sir Gaerfyrddin" fel a ganlyn:

A7. Sicrhau bod y deunydd i gyllideb ar-lein yn hygyrch ac yn cael eu hyrwyddo yn ein lleoliadau mynediad cyhoeddus fel llyfrgelloedd, Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Canolfannau Teulu a lleoliadau cymunedol gyda TG.

A12. Codi ymwybyddiaeth drwy ddatblygu sesiynau e-ddysgu a hyfforddi ar gyfer staff, aelodau a phartneriaid am ddiwygio lles a'r dulliau atgyfeirio ar gyfer cael cyngor a chymorth perthnasol.

A13. Ystyried pa feysydd gwasanaeth sydd mewn cysylltiad â phobl ac aelwydydd sy'n agored iawn i niwed a allai elwa ar gael hyfforddiant mwy arbenigol i staff rheng flaen o ran cyngor ar fudd-daliadau a dyledion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy wrth y Cyngor ei fod yn tynnu’r Rhybudd o Gynnig yn ôl.

 

NODWYD.

 

7.3

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio ymhellach y gwaith o adeiladu Ffordd Osgoi Llandeilo tan 2025/26, gan fynd yn groes i’r hyn a gytunwyd ag Adam Price ein Aelod Cynulliad lleol yn 2016.

 

At hynny, gresynir hyd yn oed yn fwy at y diffyg ymgynghori a'r methiant i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad hwn ac i ddarparu dewisiadau eraill sy’n ymarferol a chlir o ran y tagfeydd a'r llygredd sydd wedi bod yn effeithio ar Landeilo ers dros ddeugain mlynedd.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn meddwl a fydd yr £50M a ddyrannwyd i'r prosiect yn ddigon i gyflawni'r cytundeb hwn erbyn 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Edward Thomas:-

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio ymhellach y gwaith o adeiladu Ffordd Osgoi Llandeilo tan 2025/26, gan fynd yn groes i’r hyn a gytunwyd ag Adam Price ein Aelod Cynulliad lleol yn 2016.

 

At hynny, gresynir hyd yn oed yn fwy at y diffyg ymgynghori a'r methiant i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad hwn ac i ddarparu dewisiadau eraill sy’n ymarferol a chlir o ran y tagfeydd a'r llygredd sydd wedi bod yn effeithio ar Landeilo ers dros ddeugain mlynedd.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn meddwl a fydd yr £50M a ddyrannwyd i'r prosiect yn ddigon i gyflawni'r cytundeb hwn erbyn 2025/26.

 

Eiliwyd y Cynnig

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig

ac yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD bod y Cynnig yn cael ei gefnogi a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

8.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd A. Speake o Gr?p Plaid Cymru a hysbysiad ei fod am ymuno â’r Gr?p Annibynnol. Nodwyd y byddai Gr?p Plaid Cymru, o ganlyniad i'r ymddiswyddiad, yn colli un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol ac y byddai'r Gr?p Annibynnol yn ennill un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol. Doedd dim unrhyw newid o ran dyraniad y seddi a ddelir gan y Gr?p Llafur, Y Gr?p Annibynnol Newydd a'r aelod heb gysylltiad pleidiol.

 

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd Gr?p Plaid Cymru wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd 'r Amgylchedd ac roedd y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Alan Speake i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwn.

 

O ran y newidiadau sy'n effeithio ar y sedd Reoleiddio, fel y nodwyd yn Nhabl 3 o fewn yr adroddiad, roedd Gr?p Plaid Cymru wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Penodi Aelodau ac roedd y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Alan Speake i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwnnw.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor, gan fod y Cynghorydd Speake wedi symud rhwng dau gr?p sy'n rhan o'r Weithrediaeth, nad oedd unrhyw newid o ran dyraniad y 5 Cadeirydd ar y Pwyllgorau Craffu.

 

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

 

8.1     fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Annibynnol, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad.

8.2     yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil argymhelliad 1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad).

8.3       Nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol Newydd a'r aelod heb gysylltiad pleidiol.

8.4.      Yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi bod y trefniadau presennol ar gyfer dyraniad y 5 Sedd Craffu yn aros yr un peth.

 

9.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Alan Speake o Gr?p Plaid Cymru a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â'r Gr?p Annibynnol, ystyriodd y Cyngor adroddiad a fanylai ar y newidiadau dilynol i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor ac adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Nododd y Cyngor fod yr unig newidiadau a ddeilliai o'r newid uchod i'r aelodaeth yn ymwneud â dyraniad y seddi i'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, ac mai'r bwriad yn dilyn trafodaethau ag Arweinwyr y Grwpiau oedd y byddai Plaid Cymru yn ildio sedd y Cyng. Emlyn Schiavone a fyddai'n cael ei ddisodli gan y Cyng. Jim Jones o'r Gr?p Annibynnol. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

9.1

Bod dyraniad y seddi i aelodau etholedig ar  Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cael ei newid fel a ganlyn:-
Plaid Cymru (1) Llafur (1) Annibynnol (1)

9.2

Nodi, yn unol ag argymhelliad 9.1 uchod, fod Gr?p Plaid Cymru wedi ildio sedd y Cynghorydd Emlyn Schiavone a chymeradwyo enwebiad y Cynghorydd Jim Jones fel cynrychiolydd ychwanegol y Gr?p Annibynnol.

 

 

10.

PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR PENODI AELODAU

Enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Aelodau: -

 

Cynghorydd Mansel Charles - Gr?p Plaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i penodi’r Cynghorydd Mansel Charles fel Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Aelodau.

 

 

11.

DERBYN ADRODDIADU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL:

Dogfennau ychwanegol:

11.1

29AIN MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2020.

 

11.2

13EG GORFFENNAF 2020 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020.

 

11.3

27AIN GORFFENNAF 2020 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2020.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau