Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.A. Curry, K. Davies, J.S. Edmunds, D.C. Evans, A.D. Harries, C. Jones T.J. Jones, J.G. Prosser, L.M. Stephens ac S. Najmi.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T.A.J. Davies          

9. – Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020/21.

Mae ei chwaer yn Bennaeth Gwasanaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.

A. Speake          

9. – Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020/21.

 

Mae'n derbyn pensiwn anabledd rhyfel.

S. Allen

10.2 - Y Rhaglen Moderneiddio Addysg - Cynnig i Newid Natur y Ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.

Mae hi'n Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Llys Hywel.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i'r Cynghorydd Tina Higgins a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei g?r, a hefyd i'r Cynghorydd Ann Davies a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei thad.

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:-

 

·       Mr Nigel James Miller o Gydweli ar dderbyn gwobr MBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, am wasanaethau i bobl ag anawsterau dysgu;

 

·       Mr Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ar dderbyn Medal Heddlu'r Frenhines;

 

·       Mr Nick Richards-Ozzati o Langennech ar dderbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Frenhines.

 

·       Angela Hughes, Prif Weithredwr, Ambiwlans Awyr Cymru ar dderbyn gwobr OBE am wasanaethau i'r Gwasanaeth Awyr Brys yng Nghymru.

 

·       Derbyniodd Mr John Gwyn Jones a gafodd ei fagu ym Mrynaman, ond a oedd wedi treulio dros 33 blynedd yn byw ac yn gweithio yn Ne-ddwyrain Asia wobr MBE am wasanaethau i Addysg Brydeinig dramor.

 

·       I Gôr Ysgol Gynradd yr Hendy am ennill cystadleuaeth flynyddol 'Carol yr ?yl' rhaglen Prynhawn Da ar S4C. Cymerodd y Côr ran yn y gystadleuaeth ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru lle mae'n rhaid i aelod o staff yr ysgol gyfansoddi carol wreiddiol.  Roedd Ysgol Gynradd yr Hendy yn un o 30 o ysgolion a oedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, a chafodd y 10 côr gorau eu ffilmio ar gyfer y rhaglen. 

 

·       Croesawodd y Cadeirydd Gôr Ysgol Gynradd yr Hendy i'r cyfarfod a diolchodd i'r athrawes, Mrs Sian Lloyd, am ei gwaith o ysgrifennu a chyfansoddi'r gân.  Cafodd y Cyngor gyfle i wrando ar y Côr yn canu'r gân lwyddiannus.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 13EG TACHWEDD 2019. pdf eicon PDF 516 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed sylwadau mewn perthynas â chyfeiriad at 'unfrydol' o fewn penderfyniad cofnodion rhifau 8.2 ac 8.4.

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 yn cael eu llofnodi'n gofnod cywir, yn amodol ar y cyfeiriad at 'UNFRYDOL' yn cael ei ddileu o gofnodion rhifau 8.2 ac 8.4.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

 

7.

CYFLWYNIAD INSIGHT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod nifer o ddisgyblion o ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn yr Egin, Caerfyrddin. Rhoddodd y digwyddiad gipolwg i'r disgyblion ar y penderfyniadau anodd y mae awdurdod lleol yn eu hwynebu yn ystod y broses o bennu cyllideb wrth reoli toriadau ariannol parhaus a'r galw cynyddol gan y cyhoedd.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn bob blwyddyn, ond gan nad oedd cynigion y gyllideb wedi'u pennu eto eleni, roedd y drefn wedi'i newid er mwyn rhoi cyfle i'r disgyblion ystyried pynciau, wedi'u dewis ar hap, a gwneud argymhellion gan gyflawni rôl y Bwrdd Gweithredol.  Aeth Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol Bro Myrddin, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol Coedcae ac Ysgol y Strade i'r digwyddiad gan roi adborth gwerthfawr.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd ddisgyblion o bob un o'r ysgolion canlynol, a amlinellodd y cyflwyniadau yr oeddent wedi'u gwneud yn ystod y digwyddiad uchod:

 

  • Maes y Gwendraeth
  • Dyffryn Amman
  • Bro Dinefwr

 

Wedyn llongyfarchwyd y disgyblion ar eu cyflwyniadau a diolchwyd iddynt am ddod.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Andre Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2018/19 i'r Cyngor.

Diolchodd Mr Morgan i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei flaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2018/19. Roedd y rheiny'n cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad a Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Morgan am ei gyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau.

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

 

 

 

9.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR 2020/21. pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

  • Roedd y Cynghorydd T.A.J. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond arhosodd yn y siambr.
  • Roedd y Cynghorydd A. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr cyn i'r eitem hon gael ei thrafod.]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 a chafodd wybod bod Llywodraeth San Steffan, yn 2013, wedi creu cynllun lleol yn lle Cynllun Budd-dal y Dreth Gyngor cenedlaethol. Adroddwyd bod y cynghorau, yn Lloegr, yn gweithredu eu cynlluniau eu hunain; fodd bynnag, roedd y sefyllfa yn wahanol yng Nghymru gyda'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru a datblygodd cynllun Cymru gyfan, a oedd wedi bod ar waith ers yr adeg honno. Er bod y cynllun wedi'i sefydlu ar sail Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn.

 

Atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yr aelodau fod yn rhaid i awdurdodau lleol ail-fabwysiadu'r cynllun yn flynyddol, er gwaethaf y ffaith mai un cynllun Cymru gyfan ydoedd, os oeddent am fanteisio ar y pwerau disgresiwn cyfyngedig oedd ganddynt i amrywio'r cynllun safonol mewn perthynas â'r tri maes a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ymhellach, ers i'r cynllun gael ei gyflwyno, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio ei bwerau disgresiwn (yn yr un modd â'r rhan fwyaf o Awdurdodau Cymru) ac wedi diystyru'n llawn unrhyw Bensiynau Anabledd, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a thaliadau tebyg wrth gyfrifo hawliad. Felly, pwysleisiwyd y byddai Sir Gaerfyrddin, drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, yn parhau i ddiystyru'r taliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor ar gyfer 2020/21:

 

9.1

Yn mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013;

 

9.2

Yn gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2020;

 

9.3

Yn parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad.

 

 

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRICHARD pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 (gweler Cofnod 5) wedi ystyried adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a wnaed gan y Cyngor ar ei gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Prichard i gyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhyd Prichard i gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol yn cael ei weithredu."

 

 

10.2

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd S. Allen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn Siambr y Cyngor tra bod y Cyngor yn ei hystyried).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a wnaed gan y Cyngor ar ei gynnig i newid natur darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnor, Ysgol Llys Hywel o fod yn ddwy ffrwd i fod yn gyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

bod y cynnig i newid natur darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan o fod yn ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu o 1 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

bod y cynnig i newid natur darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Griffith Jones o fod yn ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu o 1 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

bod y cynnig i newid natur darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Llangynnor o fod yn ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu o 1 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

bod y cynnig i newid natur darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Llys Hywel o fod yn ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu o 1 Medi 2020.

 

 

11.

DERBYN ADRODDIAD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

18EG TACHWEDD 2019; pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019.

 

 

11.2

2AIL RHAGFYR 2019; pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019.

 

 

11.3

16EG RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019.

 

 

12.

CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

</AI17>

<AI18>

12.1   gymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Deryk Cundy i gymryd lle'r Cynghorydd Rob Evans fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed;

 

</AI18>

<AI19>

</AI19>

<AI20>

12.2   cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Alan Speake i gymryd lle'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau