Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, D.C. Evans, R. Evans, D. Harries, J.P. Jenkins, G. Jones, A.G. Morgan, S. Najmi a D. Thomas.
Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-
· Estynnwyd llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Liam Bowen a'i wraig, Bethan, ar eu priodas yr wythnos ddiwethaf; · Mae mab y Cynghorydd Penny Edwards yn cymryd rhan mewn ras feicio o ogledd Cymru i dde Cymru i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, a dywedwyd bod ffurflenni noddi yn cael eu dosbarthu yn y cyfarfod; · Roedd y Cynghorydd Amanda Fox yn gwerthu bathodynnau esgidiau glaw melyn i godi arian ar gyfer yr RNLI.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYNGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
NODIADAU PANEL LLUNIO RHESTR FER - 3YDD ERILL 2019 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, oherwydd y byddai'r ymgeiswyr yn disgwyl yn rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd ac felly bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD bod Nodiadau Gweithredu'r Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2019 yn cael eu derbyn.
[NODER: Gadawodd Mr M. James, y Prif Weithredwr a Ms L. Rees-Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y cyfarfod bryd hyn.]
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR A ARGYMHELLIR FEL A GANLYN:- [Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach yn y dydd, cytunodd Pwyllgor Penodiadau A ar yr ymgeiswyr a argymhellwyd i'w cyflwyno a'u cyfweld gan y Cyngor. (Bydd copïau o'r ffurflenni cais ar gyfer yr ymgeiswyr a argymhellir ynghyd â chanlyniadau o’r Canolfan Asesu yn cael eu dosbarthu ar ddiwrnod y cyfarfod.)
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, oherwydd y byddai'r ymgeiswyr yn disgwyl yn rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd ac felly bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad.
</AI10> <TRAILER_SECTION>
|
|
DERBYN ADBORTH GAN BWYLLGOR PENODI A MEWN PERTHYNAS Â'R YMGEISWYR A ARGYMHELLIR. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Cadeirydd Pwyllgor Penodi "A" adborth i'r Cyngor mewn perthynas â'r broses ddethol a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw pryd y penderfynwyd bod dau ymgeisydd yn addas i'w penodi'n Brif Weithredwr y Cyngor ac felly roedd wedi penderfynu argymell i'r Cyngor bod y ddau ymgeisydd hynny yn mynd ymlaen i gam olaf y broses ddethol ac yn cael eu cyfweld gan y Cyngor Llawn.
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU GAN YR YMGEISWYR A ARGYMHELLIR A CHYFLWYNO CWESTIYNAU GAN ARWEINWYR GRWP. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr ymgeiswyr a argymhellwyd gyflwyniad 10 munud yr un ac yn dilyn hynny cafodd Arweinwyr y pedwar gr?p gwleidyddol y cyfle i ofyn cwestiwn i bob ymgeisydd.
|
|
DERBYN ADBORTH GAN S.H.L. MEWN PERTHYNAS Â PHERFFORMIAD YR YMGEISWYR A ARGYMHELLIR YN Y CANOLFAN ASESIAD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor adborth gan Mr Mark Williams o SHL ar berfformiad pob un o'r ymgeiswyr a argymhellwyd yn ystod proses y Ganolfan Asesu.
|
|
I WNEUD PENODIAD Y PRIF WEITHREDWR/PENNAETH Y GWASANAETH CYFLOGEDIG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cwblhau'r broses gyfweld PENDERFYNWYD ar ôl cynnal pleidlais benodi Mrs W. S. Walters i swydd y Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Taledig. [NODER: Galwyd Mrs Walters yn ôl i'r cyfarfod er mwyn rhoi gwybod iddi am y penderfyniad, a chadarnhaodd ei bod yn derbyn y swydd.]
|