Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir
Dydd Mercher, 10fed Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, J. Edmunds, I. Jones, J.Jones, S. Matthews, S. Najmi, E. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett a D. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd groeso i Julia Harries, Charlotte Thomas a Huw Lodwick, o Is-adran Eiddo ac Adfywio yr Awdurdod, i'r cyfarfod. Dywedodd eu bod wedi ennill Gwobr Perfformiad Aur am ragoriaeth o ran rheoli gwybodaeth am gyfeiriadau. Canmolodd y Cynghorydd Emlyn Dole waith rhagorol y tri swyddog gan eu llongyfarch am lwyddo i ennill y wobr.

Cyflwynodd y Cadeirydd y wobr yn ffurfiol i Julia Harries, Charlotte Thomas a Huw Lodwick.

·         Croesawodd y Cadeirydd y beiciwr Manon Lloyd i'r cyfarfod. Roedd Manon wedi cymryd rhan yn Grand Finale Taith Merched OVO Energy yn ddiweddar. Cafodd Manon ei llongyfarch ar ei llwyddiant, ei gwaith caled a'i hymroddiad i'r gamp. Nodwyd bod Manon bob amser yn gefnogol o waith y Cyngor o ran hyrwyddo twristiaeth a chwaraeon yn y sir, a'i bod wedi sicrhau ei bod ar gael ar sawl achlysur i ddod i ddigwyddiadau'r Cyngor. Dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol.

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'r Is-gadeirydd wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys Gwasanaethau Dinesig yng Nghastellnewydd Emlyn, Tref Llanelli a Phowys. Roedd wedi mynd i Noson Gwobrau Chwaraewyr Iau Clwb Pêl-droed Cwmaman, a Diwrnod Dathlu Llysgenhadon Ifanc y Tîm Chwaraeon a Hamdden Actif ym Mharc Gwledig Pen-bre.  Dywedodd yr oedd yn bleser gweld nifer sylweddol o bobl ifanc, merched a bechgyn, yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.

·         Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu gwaith caled i sicrhau bod Grand Finale Taith Merched OVO Energy ar 21 Mehefin yn llwyddiant mawr i'r Sir.

·         Roedd y Cadeirydd wedi cyflawni nifer o ymweliadau amrywiol yn ystod y mis diwethaf gan gynnwys ymweld â Mrs Ann Stone yn Ffair-fach, a Mrs Megan Davies yng Nghastellnewydd Emlyn, a oedd ill dwy wedi dathlu eu penblwyddi yn 100 oed. Bu'n bresennol yn Niwrnod y Lluoedd Arfog yn ddiweddar yng Nghanol Tref Llanelli, a gafodd ei drefnu gan Gangen Llanelli o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, a hefyd yng Ngharnifal Porth Tywyn a Phen-bre, ac yn nigwyddiad Te Mefus Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty’r Tywysog Philip.

·         Dywedodd y Cadeirydd yr oedd yn bleser iddo ef a'r Is-gadeirydd fod yn bresennol pan oedd Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw wedi ymweld â Chlwb Cinio Llanymddyfri yn Nolau Bran, a Theatr y Lyric, Caerfyrddin, y diwrnod canlynol lle bu Opera Ieuenctid Caerfyrddin yn dathlu 40 mlynedd.

·         Dywedodd y Cadeirydd, pan fu'n Arweinydd y Cyngor, y cafodd y fraint o dorri'r dywarchen gyntaf ar gyfer ysgol newydd Bro Dinefwr, a soniodd am y fraint o gael ei ofyn i agor Ffair Haf yr ysgol. Bu hefyd yn bresennol yn agoriad swyddogol Ysgol Pontyberem ac yng nghyngerdd disgyblion Ysgol Gynradd Pum Heol yn ddiweddar yn Theatr y Ffwrnes. Dywedodd ei fod yn dda gweld bod addysg ein plant yn y dyfodol yn cael ei darparu mewn cyfleusterau ardderchog.

4.

CADARNHAU A LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

15 MAI, 2019; pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gofnod 3 - Materion Personol a Chyhoeddiadau gan y Cadeirydd, a nodwyd y dylid dileu'r frawddeg ganlynol o'r cofnodion:-

“Diolchodd hefyd i'w Gaplan Dr. Caroline Jones am ei chefnogaeth ysbrydol a'i harweiniad drwy gydol y flwyddyn.”

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 15 Mawrth, 2019 yn gywir, yn amodol ar y newid uchod.

4.2

12 MEHEFIN, 2019. pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 12 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.

5.

CYFLWYNIAD GAN DAFYDD LLYWELYN, COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU DYFED-POWYS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, i'r cyfarfod.

Rhoddodd y Comisiynydd drosolwg o waith Heddlu Dyfed-Powys. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cyfeiriad at y materion canlynol:

Cynnydd mewn nifer y staff a recriwtio Prif Gwnstabl newydd

Cyllid wedi'i sicrhau i fuddsoddi mewn gwaith ieuenctid

Datblygu Strategaeth Troseddau Gwledig

Ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd am ddod i'r cyfarfod ac am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

8.

CYFLWYNO DEISEB.

“Mae trigolion a defnyddwyr yr harbwr wedi gofyn i ni drefnu deiseb yn gofyn am adfer ar unwaith y toiledau ar ochr dwyreiniol yr harbwr ym Mhorth Tywyn gerllaw'r hen orsaf bad achub.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn etholwyr pryderus ac yn ddefnyddwyr yr harbwr sy'n annog ein harweinwyr i weithredu nawr i ailosod y toiledau.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd John James i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol, ynghyd â sylwadau ategol:-

"Gofynnwyd inni gan breswylwyr a defnyddwyr yr harbwr i drefnu deiseb yn gofyn am i'r toiledau gael eu hadfer ar unwaith yn ochr ddwyreiniol yr harbwr ym Mhorth Tywyn ger yr hen orsaf bad achub.

Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi isod, fel etholwyr a defnyddwyr yr harbwr yn bryderus ac yn annog ein harweinwyr i fynd ati nawr i adfer y toiledau."

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y mater y cyfeiriwyd ato yn y Rhybudd o Gynnig yn swyddogaeth weithrediaeth ac o'r herwydd fod y Cyngor ond yn gallu cyfeirio'r mater at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Bwrdd Gweithredol i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY:-

"Mae'r Cyngor hwn yn credu bod Sir Gaerfyrddin gyfan yn 'ardal lle mae sensitifrwydd a phwysigrwydd ieithyddol' a bod y system gynllunio'n cyflawni rôl hanfodol o ran cefnogi'r Gymraeg ledled y sir. I'r perwyl hwn, rydym yn credu y dylai'r iaith fod yn Ystyriaeth Gynllunio Berthnasol yn yr holl geisiadau ar gyfer datblygiad o bum t? neu ragor mewn ardaloedd gwledig, a datblygiad o ddeg t? neu ragor mewn ardaloedd trefol ym mhob cymuned, beth bynnag yw canran y siaradwyr Cymraeg.

Rydymyn parhau o'r farn bod y polisi hwn yn angenrheidiol a bod cyfiawnhad drosto oherwydd:

·         yr angen i fynd i'r afael â'r lleihad mawr ac annisgwyl yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn ôl Cyfrifiad 2011.

·         mae'n cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

·         mae'n cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig "Cymru â diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu: cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg..."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:

"Mae'r Cyngor hwn yn credu bod Sir Gaerfyrddin gyfan yn 'ardal lle mae sensitifrwydd a phwysigrwydd ieithyddol' a bod y system gynllunio'n cyflawni rôl hanfodol o ran cefnogi'r Gymraeg ledled y sir. I'r perwyl hwn, rydym yn credu y dylai'r iaith fod yn Ystyriaeth Gynllunio Berthnasol yn yr holl geisiadau ar gyfer datblygiad o bum t? neu ragor mewn ardaloedd gwledig, a datblygiad o ddeg t? neu ragor mewn ardaloedd trefol ym mhob cymuned, beth bynnag yw canran y siaradwyr Cymraeg.

Rydym yn parhau o'r farn bod y polisi hwn yn angenrheidiol a bod cyfiawnhad drosto oherwydd:

  • yr angen i fynd i'r afael â'r lleihad mawr ac annisgwyl yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn ôl Cyfrifiad 2011.

  • mae'n cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

  • mae'n cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig "Cymru â diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu: cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg..."

Eiliwyd y Cynnig.

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

Yn dilyn pleidlais

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

9.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS:-

“Ym mis Ebrill y llynedd, cefnogwyd cynnig yn unfrydol gan Gyngor Sir Caerfyrddin a oedd yn cynnwys galw ar y Cyngor i leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor. Roedd y cynnig hwnnw hefyd yn galw ar y Cyngor i annog ysgolion i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig untro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy.

Cyfeiriwyd at y cynnig hwnnw eleni pan ymatebodd Arweinydd y Cyngor i gwestiwn gan Coral Sylvan, 11 oed, ynghylch newid yn yr hinsawdd. Yn yr un cyfarfod, cytunom i ddatgan argyfwng hinsawdd yn ein sir.

Mae disgyblion mewn ysgolion ledled ein sir wedi ymgymryd â'r her hon. Yng nghyfarfod mis Mehefin y llywodraethwyr yn Ysgol y Felin, dywedwyd wrthym fod Pwyllgor Eco'r ysgol wedi gofyn am gynhwysyddion diblastig ar gyfer llaeth. Pan wnaeth yr ysgol gysylltu â'r Cyngor, dywedwyd wrthynt nad oedd modd newid y contract llaeth ac na fynegwyd unrhyw ddiddordeb arall mewn darparu poteli gwydr.

Er mwyn cefnogi'r ymgyrch i leihau'r defnydd o ddeunyddiau plastig untro yn yr ysgol, mae Ysgol Pum Heol wedi creu poster sy'n dangos disgyblion yn boddi mewn plastig.

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

1. Llongyfarch Pwyllgorau Eco'r ysgolion ar chwilio am ffyrdd i beidio â defnyddio deunyddiau plastig untro.

2. Diolch i'r Pwyllgorau Eco am nodi ateb ymarferol i'r gorddefnydd o blastig mewn ysgolion.

3. Nodi ffyrdd o gyflenwi llaeth mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na phlastig yn ein hysgolion cynradd.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Bill Thomas:-

10.

PROSES BENODI - CYFARWYDDWR RHAGLEN DINAS-RANBARTH BAE ABERTAWE. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ynghylch y Broses Benodi ar gyfer Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Rhoddodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, drosolwg o'r broses hyd yn hyn ac aelodaeth Cyd-bwyllgor Penodi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Nodwyd bod angen i'r Cyngor enwebu un aelod anweithredol i fod yn aelod o'r Cyd-bwyllgor Penodi ac yn dilyn pleidlais,

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd Alun Lenny yn Gynrychiolydd Aelod Anweithredol ar Gyd-bwyllgor Penodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ar ôl trafodaeth bellach, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar y canlynol -

10.1    bod yr Awdurdod yn cytuno i ddirprwyo cyfrifoldeb am benodi'r

Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth  Bae Abertawe i Gyd-bwyllgor Penodi newydd Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

10.2    bod yr Arweinydd yn cael ei enwebu i fod yn aelod o'r
           Cyd-bwyllgor Penodi;

10.3    bod y cyfrifoldeb am lunio rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei            ddirprwyo i'r 4 Arweinydd.

10.4     y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr awdurdod cyflogi, yn          rheoli'r holl faterion cyflogaeth a chontractiol, gan gynnwys cefnogi'r broses recriwtio ar gyfer rôl y Cyfarwyddwr Rhaglen.

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 3YDD MEHEFIN, 2019. pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.