Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, S.L. Davies, P.M. Edwards, D.C. Evans, A. James, S. Najmi a B.A.L Roberts. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Rhoddodd y Cadeirydd glod i'r ffermwyr ifanc am eu perfformiad gwych yn eu noson o adloniant a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Neuadd Dre-fach ac i'r sioe gerdd anhygoel, Chitty Chitty Bang Bang a berfformiwyd gan bobl ifanc yn Theatr y Lyric; · Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiadau diweddar y bu'n bresennol ynddynt i ddathlu Dydd G?yl Dewi:- - Gwasanaeth Cymru gyfan yn Eglwys Gadeiriol Caerdydd - Gorymdaith Dydd G?yl Dewi ym Mhorth Tywyn a Chaerfyrddin - Digwyddiadau yn Llandeilo. · Dywedodd y Cadeirydd am ei ymweliad â'r Friendship Group sydd newydd ei sefydlu yn Festri Capel Porth Tywyn. Soniodd hefyd am nifer o grwpiau tebyg a chlybiau cinio sy'n cael eu sefydlu ledled y Sir, a gefnogir gan Gynghorwyr Sir, er mwyn helpu'r bobl fwyaf unig ac agored i niwed mewn cymunedau i gymdeithasu; · Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r cyn-Gynghorydd Sir, W.I.B. James, a'i deulu ar farwolaeth ei wraig, Eileen; · Bu i'r Cadeirydd longyfarch Alex Callender, o Lanelli, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Bryngwyn, a oedd wedi dechrau am y tro cyntaf i Dîm Rygbi Merched Cymru yn erbyn Lloegr y mis diwethaf, ar ôl bod yn eilydd yn flaenorol yn erbyn Ffrainc a'r Eidal; · Bu i'r Cadeirydd fynegi ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd P.M. Edwards ar ôl cael llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunodd wellhad buan iddi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENNU TRETH Y CYNGOR AM FLWYDDYN ARIANNOL 2019/20 PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (Sylwer: Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach) Ystyriodd y Cyngor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2019/2020, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol. Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn seiliedig ar fanylion y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a'r praeseptau a nodwyd i'r Cyngor Sir gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a'r Cynghorau Tref a Chymuned. PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2019/20 yn cael eu mabwysiadu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD POLISI TALIADAU 2019/20 PDF 175 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: 1. Roedd y Cynghorwyr K. Madge, Arwel Davies, L.D. Evans, K. Lloyd, P. Hughes-Griffiths, R. James, C.A. Campbell, J.A. Davies, T.M. Higgins, J.S. Edmunds, Dot Jones, S.J.G. Gilasbey, B.W. Jones, D. Nicholas, L.R. Bowen, A. Vaughan-Owen, H.B. Shepardson, R.E. Evans a G.R. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. 2. Roedd pob swyddog a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried, ac eithrio'r Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn deillio o'r adroddiad, ond gadawodd cyn cynnal y bleidlais), y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a arhosodd yn y cyfarfod i gymryd cofnodion, a'r Swyddog Gweddarlledu) Atgoffwyd y Cyngor ei bod yn ofynnol, o dan ddarpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i bob Awdurdod Lleol lunio Datganiad Polisi Tâl am flwyddyn ariannol 2019-20 a phob blwyddyn ariannol ddilynol. Nododd y Cyngor ei bod yn ofynnol i'r Datganiad Polisi Tâl gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac nad oedd modd ei ddirprwyo i Fwrdd Gweithredol y Cyngor, a bod yn rhaid i'r datganiad fanylu ar bolisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion. Nodwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi rhoi mewnbwn o ran llunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol, i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir. Nodwyd hefyd gan fod y diweddariad i Bolisi Disgresiwn y Cyflogwr o ran Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Cyngor wedi digwydd ar yr un pryd â'r gwaith o ddrafftio'r Datganiad Polisi Tâl, roedd y polisi diwygiedig wedi'i gynnwys yn y Datganiad. Roedd hynny'n adlewyrchu'r gwaith o roi Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) 2018 ar waith a oedd yn cyflwyno disgresiynau newydd a hefyd yn rhoi ystyriaeth i waith y Pwyllgor Pensiynau o adolygu'n llawn ac ailysgrifennu'r holl ddisgresiynau presennol. Cyfeiriwyd at bwyntiau 2 a 3 ar dudalen 67 o'r Polisi Tâl ynghylch y gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd ar gyfer taliadau dyletswyddau uwch neu honoraria arferol neu argyfwng. Mynegwyd y farn y dylai geiriad y pwyntiau hynny gael ei ailystyried er mwyn cynnal ymagwedd gyson at daliadau honoraria. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2019/20 yn unol ag Adran 38(1) Deddf Lleoliaeth 2011, yn amodol ar ail-ystyried geiriad pwyntiau 2 a 3 ar dudalen 67 yr adroddiad er mwyn cynnal ymagwedd gyson at daliadau honoraria. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CARTREFI CROESO CYFYNGEDIG - GOFYNIAD CYLLIDO PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: 1. Roedd y Cynghorydd J.K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi, 2. Gadawodd Cyfarwyddwr Cymunedau a Chadeirydd Adfywio a Pholisi y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019 (gweler cofnod 11), wedi ystyried cynigion ar gyfer darparu cyfleuster cyllido cyfunol priodol er mwyn caniatáu i Cartrefi Croeso ddechrau datblygu dau gynllun a bodloni'r trefniadau cyllido parhaus o ran costau gweithredu a chostau datblygu cynlluniau yn y dyfodol, yn ogystal â darparu ychydig wrth gefn i ddechrau cynlluniau yn y dyfodol sy'n cael eu nodi'n gynlluniau hyfyw
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-
“Cytuno ar gyfleuster cyllido fel a ganlyn:- 1. Cyfleuster cyllido - uchafswm o £6m; 2. Hyd y trefniant - 5 mlynedd. Roedd hyn yn seiliedig ar ddefnyddio'r benthyciad ar gyfer datblygiad y cynllun a'i ad-dalu o fewn amserlenni'r cynllun busnes; 3. Llog o 1.6% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus gan adlewyrchu'r diogelwch rhannol a fyddai ar gael i'r Cyngor o'r tir/gwaith cyn ei werthu; 4. Cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant gorddrafft - arian i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig a bydd y balans yn gostwng wrth i arian ddod i law; 5. Mae cymeradwyo rhyddhau cyllid (hyd at y terfyn) i'w ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd y cyfleuster i'w weinyddu fel a ganlyn:- (a) Rhyddhau'r cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl rhoi'r trefniadau contractiol ar waith; (b) Rhoi Cytundeb Datblygu ar waith ar gyfer gwerthu'r tai cymdeithasol i'r Awdurdod; (c) Costau gweithredu: trefniadau benthyciad o oddeutu £280k y flwyddyn hyd nes y bydd y cwmni'n hyfyw heb yr elfen honno o gymorth; (d) Costau Datblygu Prosiectau. Bydd yr uchafswm gwreiddiol a ddyrannwyd o £750k yn ddigon, ac at ddiben monitro a rheoli costau datblygu prosiectau bydd adroddiadau chwarterol manwl yn cael eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau; (e) Adeiladu'r cynllun yn y dyfodol. Cymeradwyo cyllid mewn egwyddor (heb fod yn fwy nag uchafswm y cyfleuster) ar ôl cwblhau arfarniadau datblygu safle-benodol a rhyddhau cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl i'r trefniadau contractiol gael eu rhoi ar waith; (f) Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau 6. Mae'r Cwmni i gyflwyno ei gynllun busnes tair blynedd i'r rhanddeiliad erbyn 31 Mawrth yn flynyddol er ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), fod Gr?p Annibynnol y Cyngor wedi enwebu'r Cynghorydd Jim Jones i lenwi ei sedd wag ar y Pwyllgor Trwyddedu.
Dywedwyd hefyd ar ôl i'r w?s ar gyfer y cyfarfod gael ei ddosbarthu, roedd Gr?p Llafur y Cyngor wedi rhoi gwybod am gais i newid ei drefniadau aelodaeth ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, i'r Cynghorydd Dot Jones gymryd lle'r Cynghorydd Fozia Akhtar
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), nodi'r newidiadau canlynol i aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor:-
Y Cynghorydd Jim Jones i lenwi sedd wag y Gr?p Annibynnol ar y Pwyllgor Trwyddedu.
Y Cynghorydd Dot Jones i gymryd lle'r Cynghorydd Fozia Akhtar yn un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |