Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.R. Bowen, G. Davies, E. Dole, J. Edmunds, P.M. Edwards, D.C. Evans, A. James, R. James, C. Jones, M.J.A. Lewis, S. Matthews, S. Najmi, D. Nicholas, H.B. Shepardson, J. Tremlett a D.E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C.A. Davies

6 - Cwestiwn gan y Cynghorydd E. Thomas [ynghylch Llwybr Beicio Caerfyrddin i Landeilo]

Mae'r llwybr beicio yn croesi'r tir yr oedd yn ffermio arno

H.A.L. Evans

10.2 Adeiladu Mwy o Dai Cyngor - Ein Huchelgais a'n Cynllun Gweithredu

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

K. Howell

 

 

10.1 – Adroddiad ac Argymhellion Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

Mae'n ffermwr amser llawn. Mae wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau;

G.B. Thomas

 

10.1 – Adroddiad ac Argymhellion Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

Mae'n ffermwr amser llawn. Mae wedi cael caniatâd i siarad gan y Pwyllgor Safonau.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·         Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, a oedd yn cynnwys:

 

-               Gwasanaethau Dinesig a drefnwyd gan Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn;

-               Agoriad swyddogol Yr Orsaf, y caffi newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre;

-                Cinio i lywyddion - Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ochr yn ochr ag Arweinydd y Cyngor ar 22 Gorffennaf;

-             Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru, Llandeilo;

-              Sioeau amaethyddol yn Llandyfaelog, Llangadog a Llanarthne;

-              Troi y llifoleuadau ymlaen yn swyddogol yng Nghlwb Pêl-droed Cwmaman;

-              Barbiciw yng Nghanolfan Coleshill;

-          Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn - Seremoni Chwifio'r Faner i ddathlu Diwrnod y Llynges Fasnachol

-          Cyngor Gwledig Llanelli - Cinio a Chyngerdd Codi Arian at Elusennau gyda Chôr Meibion Cwm-ann a'r Cylch.

-          Digwyddiad gyda rhai o Weithwyr Gofal Cartref y Sir ym Mharc Gwledig Pen-bre;

-              Ffair Haf Ysbyty Dyffryn Aman;

-          Ymweld â Chanolfan Coleshill a Chartref Preswyl Caemaen, ynghyd â'r Cynghorydd Jane Tremlett,;

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:

-          Mrs Eunice Davies [Mam-yng-nghyfraith y Cynghorydd Karen Davies], Mrs Irene Walters, Llanymddyfri, Mr Evan Evans, Llanybydder a Mrs Esme Rhodes, Broadway, Talacharn, a oedd wedi dathlu eu penblwyddi yn 100 oed;

-          Y chwaraewyr hynny o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi'u dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd;

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at Noson Gyrri Elusennol yr oedd ef wedi'i drefnu yn Rhydaman ac yn dilyn y digwyddiad roedd wedi ymweld â'r 3 banc bwyd yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin ac wedi cyfrannu dros £400 i bob un ohonynt;

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i Lee Davies a Penelope Mitchell, perchnogion y caffi 'The Hangout', Llandeilo, a enwyd y caffi gorau yng Nghymru yng Ngwobrau cyntaf Caffi Cymru 2019

  • Gofynnodd y Cynghorydd Mair Stephens, gyda chaniatâd y Cadeirydd, i'r Aelodau ystyried yn garedig gefnogi'r apêl teganau flynyddol;

·         Diolchodd y Cynghorydd Hazel Evans, gyda chaniatâd y Cadeirydd, i bawb a oedd wedi ei noddi i wneud Taith Gerdded Arfordirol Sir Gâr ar gyfer Uned Canser y Fron Llanelli. Byddai'r arian a godwyd, sef cyfanswm o dros £1500.00, yn cael ei gyflwyno i'r Uned ym mis Hydref.

 

4.

COFNODION Y CYNGOR - 10 GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS YR AMGYLCHEDD

“Cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lee Waters, y Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol, fod £30m wedi'i glustnodi drwy'r Gronfa Teithio Llesol, i greu llwybrau cerdded a beicio o safon uchel. A allwch ddweud wrthyf a fydd yr arian hwn yn cynorthwyo Cyngor Sir Caerfyrddin i gwblhau'r llwybr beicio rhwng Caerfyrddin a Llandeilo? 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lee Waters, y Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol, fod £30m wedi'i glustnodi drwy'r Gronfa Teithio Llesol, i greu llwybrau cerdded a beicio o safon uchel. A allwch ddweud wrthyf a fydd yr arian hwn yn cynorthwyo CSC i gwblhau'r llwybr beicio rhwng Caerfyrddin a Llandeilo?"

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Yr ateb syml, yn anffodus, yw na. Roedd yr arian a nodwyd gan Lee Waters, y Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol, ar gyfer Teithio Llesol. Nid yw'r Dirprwy Weinidog yn ystyried bod y llwybr beicio yn Nyffryn Tywi yn Deithio Llesol ond yn hytrach yn Deithio Hamdden. Mae'r gronfa o £30 miliwn wedi cael ei dosbarthu'n bennaf i ardaloedd trefol. Roedd £19m o'r arian hwnnw ar gyfer ar ardaloedd trefol, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe wedi derbyn £10 miliwn o'r swm hwnnw. Ein cyfran ni o'r grant oedd £316k yn bennaf ar gyfer gwaith dichonoldeb. Hoffwn longyfarch ein swyddogion yn y gorffennol sydd wedi llwyddo i gael cyllid grant dan yr adran Teithio Llesol o bron i £9m dros y 5 mlynedd diwethaf, sydd wedi galluogi nifer o gynlluniau yn y Sir i gael eu cwblhau. Y cynllun diweddaraf i gael ei gwblhau oedd y llwybr o Langennech i Lanelli sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth. Hoffwn sicrhau Aelodau y byddwn yn parhau i chwilio am gyllid er mwyn parhau â'r llwybr y mae mawr ei angen fel ffordd o gael bobl i'r gwaith a'r ysgol, ac i ddenu twristiaid i'r ardal sy'n hybu'r economi. Rwy'n si?r, os oes unrhyw un wedi beicio i'r gwaith neu i'r ysgol ar yr A40 sy'n ffordd brifwythiennol brysur iawn, byddent yn mentro'u bywydau. Credaf yn gryf fod hwn yn llwybr teithio llesol ac nad oes dewis arall. Braf oedd nodi bod Lee Waters ei hun wedi cyfaddef ei fod wedi dechrau beicio ar ôl ei wyliau yng Nghernyw lle'r oedd wedi beicio ar lwybr hamdden. Er mwyn bod yn feiciwr medrus, mae'n bwysig cael llwybrau oddi ar y ffordd i fagu hyder. Gallaf eich sicrhau ein bod wedi neilltuo arian yn y Rhaglen Gyfalaf a byddwn yn parhau i chwilio am arian cyfatebol, a fydd yn sicrhau bod y llwybr beicio yn cael ei gwblhau ac mae'r darn sydd eisoes ar agor rhwng Abergwili a Nantgaredig eisoes yn cael ei ddefnyddio llawer."   

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Campbell am ddod i ddigwyddiad Pride Llanelli. Rwy’n credu y bydd pawb a ddaeth yn cytuno ei fod yn llwyddiant mawr i gydraddoldeb yn Sir Gaerfyrddin.  Yng ngoleuni hyn, a allaf ofyn i’r Cynghorydd Campbell pryd y bydd y polisi ynghylch baneri yn newid, fel ein bod yn gwybod bod digwyddiadau yn cael eu nodi, e.e. mis ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, drwy chwifio baner?  Dywedodd y Cynghorydd Campbell ei fod wedi llunio amserlen o faneri ac, ar ôl trafodaethau, cytunais fod hynny’n syniad da.  Eto, a allaf ofyn pryd y bydd hyn yn cael ei roi ar waith?  Gobeithiaf y bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn fuan, gan ei fod wedi bod yn mynd ymlaen ers tro. Diolch eto.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Campbell am ddod i ddigwyddiad Pride Llanelli. Rwy’n credu y bydd pawb a ddaeth yn cytuno ei fod yn llwyddiant mawr i gydraddoldeb yn Sir Gaerfyrddin. Yng ngoleuni hyn, a allaf ofyn i’r Cynghorydd Campbell pryd y bydd y polisi ynghylch baneri yn newid, fel ein bod yn gwybod bod digwyddiadau yn cael eu nodi, e.e. mis ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, drwy chwifio baner? Dywedodd y Cynghorydd Campbell ei fod wedi llunio amserlen o faneri ac, ar ôl trafodaethau, cytunais fod hynny’n syniad da. Eto, a allaf ofyn pryd y bydd hyn yn cael ei roi ar waith? Gobeithiaf y bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn fuan, gan ei fod wedi bod yn mynd ymlaen ers tro. Diolch eto."

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

"I ateb y cwestiwn, mae gennyf galendr digwyddiadau drafft yr wyf wedi bod yn gweithio arno gyda swyddogion. Fy nod yw gwneud hyn drwy'r broses ddemocrataidd - hynny yw drwy'r Bwrdd Gweithredol erbyn y mis nesaf – ac os gallaf rannu rhai o'r uchafbwyntiau gyda chi, rhai o'r digwyddiadau yr ydym wedi nodi y byddwn yn eu dathlu fel rhan o'r grwpiau â nodweddion gwarchodedig e.e. mae Fforwm 50+ sy'n digwydd yfory – rydym ni'n hapus fel awdurdod lleol i gefnogi hynny, hoffwn sôn am un neu ddwy enghraifft i chi weld y math o ddigwyddiadau amrywiol, ac os caf ddweud hefyd, nid chwifio baneri a goleuo adeiladau'r cyngor yn unig ydyw, mae'n llawer fwy na hynny - mae hynny'n symbolaidd mewn sawl ffordd – ond mewn gwirionedd mae'n cynnwys rhestr o weithgareddau cadarnhaol yr ydym yn gobeithio eu trefnu i gynyddu ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig ac mae chwifio baneri a goleuo adeiladau yn rhan o hynny ond nid dyna'r unig ffordd y byddwn yn dathlu. Felly i sôn yn gyflym iawn, bydd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym mis Hydref, Mis Hanes Pobl Dduon hefyd ym mis Hydref, ym mis Tachwedd rydym yn dathlu Diwrnod y Rhuban Gwyn sy'n mynd yn fwy poblogaidd bob blwyddyn, Diwrnod AIDS y Byd ym mis Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror, Diwrnod Cofio'r Holocost ym mis Ionawr ac ati, bydd Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia hefyd ym mis Mai. Felly rydym wedi treulio tipyn o amser yn edrych ar y calendr o ddigwyddiadau sy'n cael eu dathlu nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU a ledled y byd hefyd ac rydym am fod yn rhan o'r neges honno ein bod yn dymuno i fod yn gymdeithas goddefgar ac amrywiol. Felly, gobeithio y bydd yr amserlen hon yn cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Hydref ac rwy'n eithaf hyderus y bydd yn cael ei phasio a bydd yn rhan o'n calendr digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd y calendr yn un newidiol felly os hoffai unrhyw aelodau gynnwys unrhyw ddigwyddiadau ychwanegol ac os yw'r cyllid yn caniatáu hynny yna byddwn yn hapus  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

7.

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

‘Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ein hysgolion i gynnal munud o dawelwch ar fore Hydref 21 bob blwyddyn er cof am y 144 o blant, athrawon ac eraill a laddwyd ar y dyddiad hwnnw yn Aberfan yn 1966, yn ogystal â'r miloedd dirifedi a fu farw yn y diwydiant glo yn y sir hon a sawl rhan arall o Gymru. Rydym hefyd yn gwahodd siroedd eraill Cymru a'u hysgolion i ystyried cynnal gweithred debyg o goffadwriaeth.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:-

 

"Cofio Aberfan a Phris Glo - Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ein hysgolion i gynnal munud o dawelwch ar fore 21 Hydref bob blwyddyn er cof am y 144 o blant, athrawon ac eraill a laddwyd ar y dyddiad hwnnw yn Aberfan yn 1966, yn ogystal â'r miloedd dirifedi a fu farw yn y diwydiant glo yn y sir hon a sawl rhan arall o Gymru. Rydym hefyd yn gwahodd siroedd eraill Cymru a'u hysgolion i ystyried cynnal gweithred debyg o goffadwriaeth."

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig. Dywedwyd wrth yr Aelodau, os y byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

8.

AELOD ALLANOL A PHLEIDLAIS I'R PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Archwilio i estyn cyfnod penodiad Mrs Julie James yn Aelod Pleidleisio Allanol y Pwyllgor Archwilio am gyfnod pellach o 3 blynedd, hyd at ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.

 

9.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Aelod o'r Gr?p Llafur a oedd wedi ymuno â Gr?p Plaid Cymru.

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

9.1          fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Llafur, a Gr?p Plaid Cymru, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad;

9.2          yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2 (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil argymhelliad 1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

9.3          nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Annibynnol Newydd a'r aelod heb gysylltiad pleidiol;

9.4          yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi bod y trefniadau presennol ar gyfer dyraniad y 5 Cadeirydd Craffu yn parhau'r un fath.

 

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

GRWP GORCHWYL MATERION GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN: ADRODDIAD AC ARGYMHELLION pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2019 (gweler cofnod 9), wedi ystyried adroddiad gan Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin a oedd, yn dilyn adolygiad ynghylch y materion allweddol a oedd yn wynebu cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin wrth symud ymlaen, yn cynnwys nifer o argymhellion.

Croesawyd yr adroddiad gan yr aelodau a diolchwyd i bawb a oedd wedi cyfrannu at waith y Gr?p.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“10.1.1 bod adroddiad ac argymhellion terfynol y Gr?p Gorchwyl yn cael eu cymeradwyo;

  10.1.2 y dylid sefydlu Panel Ymgynghorol Materion Gwledig i ddilyn gwaith y Gr?p Gorchwyl;

   10.1.3 cynllun gweithredu i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar bob un o'r argymhellion, gan fonitro cynnydd drwy'r Panel Ymgynghorol."

 

 

10.2

ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 766 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynllun i ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu pryd a ble y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu, yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu a fyddai'n cael eu defnyddio. Roedd yn amlinellu hefyd sut y byddai'r cynllun yn cefnogi blaenoriaethau adfywio ledled y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“10.2.1 ail-gadarnhau’r egwyddorion cyflawni allweddol ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy llwyddiannus;

10.2.2 cytuno ar yr ystod o fodelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu dros 900 o dai Cyngor newydd, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau tai mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir;

  10.2.3 cadarnhau y bydd y tai Cyngor newydd yn cael eu darparu drwy ddefnyddio'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy sy'n rhan o'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy;

  10.2.4 cytuno ar strwythur y cyfnodau blaenoriaeth a ddefnyddir i bennu pryd bydd y safleoedd adeiladu newydd yn cael eu datblygu;

  10.2.5. cadarnhau'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer symud datblygiadau o Gam B a Cham C i Gam A;

  10.2.6. cytuno ar y rhaglen gyflawni am y tair blynedd gyntaf ar gyfer adeiladu tai Cyngor newydd yn y Sir, gan fuddsoddi dros £53m a darparu dros 300 o dai Cyngor newydd.”

 

10.3

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2018-19 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2019 (gweler Cofnod 12), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol 2018/2019 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth, a oedd wedi'i lunio er mwyn cydymffurfio â Chôd Ymarfer CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys yn y Sector Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“bod Adroddiad Blynyddol 2018/19 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei dderbyn.”

 

11.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

1AF GORFFENNAF, 2019; pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2019.

 

11.2

29AIN GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2019.

 

12.

CYMERADWYO'R NEWID CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiad canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:

 

PENDERFYNWYD y byddai'r Cynghorydd Dot Jones yn llenwi sedd wag y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Apeliadau.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau