Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 9fed Ionawr, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S. Allen, L. Bowen, H. Davies, K. Davies, J. Jones, A. Lenny, S. Najmi a B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

A. Speake      

8.– Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2019/20

Mae'n derbyn pensiwn anabledd rhyfel.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd gyfarchion i'r Cynghorwyr J. James a J. Prosser wrth iddynt ddychwelyd ar ôl eu llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunodd wellhad buan iddynt;

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'r Is-gadeirydd wedi cael y fraint o gynrychioli'r Cyngor mewn nifer o ddigwyddiadau a'u bod yn gobeithio y byddant yn cael eu gwahodd i'r wardiau hynny nad ydynt wedi ymweld â nhw hyd yn hyn yn ystod y misoedd nesaf;

·         Nododd y Cadeirydd ei fod wedi cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar ?yl San Steffan i godi arian ar gyfer elusen. Diolchodd i'w holl noddwyr yn ogystal ag Eira Evans am ddarparu'r ffurflenni nawdd;

·         Wedi dadorchuddio'r plac glas cyntaf yn nhref Llanymddyfri, diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Handel Davies a Chyngor Tref Llanymddyfri am eu gweledigaeth. Mae'r plac yn coffáu y Ficer Rhys Prichard. Bu i'r Cadeirydd annog Cynghorwyr sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig i ganfod a oes pobl neu adeiladau yn eu wardiau sydd â gwerth hanesyddol iddynt ond sy'n cael eu hanghofio;

·         Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r Cynghorydd Jim Jones yn dilyn marwolaeth ei frawd Graham, ac â'r Cynghorydd Bill Thomas a'i bartner Catherine yn dilyn marwolaeth mam Catherine;

·         Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch:

-        Dylan Morgan, disgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Bro Dinefwr a oedd wedi ennill pedair medal aur ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Nofio Cymru 2018. Dylan bellach yw Pencampwr Cymru yn y cystadlaethau nofio 50m Dull Rhydd, 100m Dull Rhydd, 50m ar y Cefn a 100m ar y Cefn;

-        Mark Drakeford, a gafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin, ar gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru;

·         Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r trigolion canlynol o Sir Gaerfyrddin a wobrwywyd yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd:

 

Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

·         Barry Liles am ei wasanaethau i sgiliau a phobl ifanc Cymru. Roedd Mr Liles, a fu'n Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chyn Brifathro a Phrif Swyddog Coleg Sir Gâr, yn Hyrwyddwr Sgiliau Cymru;

·         Dr Nicola Phillips am ei gwasanaethau i ffisiotherapi. Er bod Dr Phillips yn byw yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr, hi yw merch Gordan Phillips, sef cwrwglwr ymddeoledig o Gaerfyrddin;

 

Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

·         Michael Thomas John Ponton o Lan-gain, cyn Aelod Annibynnol (Cymuned) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, am ei wasanaethau i ofal iechyd;

·         Nikki Symmons, pennaeth Ysgol Heol Goffa, Llanelli, am ei gwasanaethau i addysg;

 

Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

·         Cairn Newton-Evans o Lanelli, Prif Swyddog Arbennig Heddlu Dyfed-Powys, am ei wasanaethau i'r heddlu a'r gymuned LGBT yng Nghymru.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 12FED RHAGFYR 2018. pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 yn gofnod cywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG & PHLANT

“Os bydd rhywun yn yfed can o Coke bob dydd am fis, bydd yn bwyta'r hyn sy'n gyfwerth â llond bag o siwgr.  Hefyd diodydd byrlymog yw'r ffynhonnell fwyaf o siwgr i blant rhwng 11 a 18 oed. Felly os ydych am fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant o ddifrif, mae'n dechrau gyda pop byrlymog.

 

Fel rhan o'r Fenter Ysgolion Iach, mae'r ysgol yn fy ward i, Felin-foel, sef Ysgol y Felin, yn gofyn i unrhyw ddisgyblion sy'n dod â diodydd byrlymog i'r ysgol eu rhoi i staff yr ysgol a'u casglu wedyn ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

 

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gefnogi'r ymgyrch Dim Diodydd Byrlymog ym mis Chwefror ac annog yr holl ysgolion yn Sir Gaerfyrddin i roi cynnig ar hyn am fis?  Bydd hyn hefyd yn gyfle i hyrwyddo manteision yfed d?r yn lle pop byrlymog”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y Cynghorydd Bill Thomas yn absennol o'r cyfarfod felly byddai'n derbyn ymateb ysgrifenedig i'w gwestiwn gan y Cynghorydd Glynog Davies.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Andre Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18 i'r Cyngor.

Diolchodd Mr Morgan i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei flaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2017/18. Roedd y rhain yn cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad, Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ac adolygu Polisi Datgelu Camarfer yr Awdurdod. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi derbyn Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'i goflyfr Côd Ymddygiad ynghyd â phenderfyniadau achos gan Banel Dyfarnu Cymru a phenderfyniadau achos Pwyllgorau Safonau eraill.

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Morgan am ei gyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau.

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2017 a 31 Mawrth 2018.

 

8.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR, 2019/20 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr cyn i'r eitem hon gael ei thrafod.]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 a chafodd wybod bod Llywodraeth San Steffan, yn 2013, wedi creu cynllun lleol yn lle Cynllun Budd-dal y Dreth Gyngor cenedlaethol. Adroddwyd bod y cynghorau, yn Lloegr, yn gweithredu eu cynlluniau eu hunain; fodd bynnag, roedd y sefyllfa yn wahanol yng Nghymru gyda'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru a datblygodd cynllun Cymru gyfan, a oedd wedi bod ar waith ers yr adeg honno. Er bod y cynllun wedi'i sefydlu ar sail Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn.

 

Atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yr aelodau fod yn rhaid i awdurdodau lleol ail-fabwysiadu'r cynllun yn flynyddol, er gwaethaf y ffaith mai un cynllun Cymru gyfan ydoedd, os oeddent am fanteisio ar y pwerau disgresiwn cyfyngedig oedd ganddynt i amrywio'r cynllun safonol mewn perthynas â'r tri maes a amlinellir yn yr adroddiad. Atgoffwyd yr aelodau ganddo fod Cyngor Sir Caerfyrddin, ers i'r cynllun gael ei gyflwyno, wedi defnyddio ei bwerau disgresiwn (yn yr un modd â'r rhan fwyaf o awdurdodau Cymru) ac wedi diystyru'n llawn unrhyw Bensiynau Anabledd, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a thaliadau tebyg wrth gyfrifo hawliad. Atgoffwyd yr aelodau ganddo y byddai Sir Gaerfyrddin, trwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, yn parhau i ddiystyru'r taliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor ar gyfer 2019/20:

 

8.1

Yn mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn:

a)      Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a

b)      Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014

8.2

Yn gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawliad) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2019

8.3

Yn parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad.

 

 

9.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

STRATEGAETH DDIGARTREFEDD RANBARTHOL pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018, wedi ystyried adroddiad ar Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol arfaethedig a oedd yn nodi'r themâu a'r blaenoriaethau allweddol ynghylch sut y byddai Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn atal digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd mai nod y strategaeth oedd sicrhau bod digon o ddewisiadau a chyfleoedd ar gael i bobl leol gael mynediad at dai fforddiadwy neu dai cymdeithasol i'w galluogi i aros yn y gymuned o'u dewis.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Bod y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol yn cael ei chymeradwyo”

 

9.2

ADRODDIAD RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH CANOL BLWYDDYN EBRILL 1AF 2018 I MEDI 30AIN 2018 pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, wedi cymeradwyo'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2018 hyd at 30 Medi 2018, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror 2018 - cofnod 10).

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol

 

‘derbyn yr adroddiad’.

 

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-.

Dogfennau ychwanegol:

10.1

3YDD RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2018.

 

10.2

17EG RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2018.