Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S.M. Allen, L.R. Bowen, H.L. Davies, K. Davies, W.R.A Davies, D.C Evans, C.J. Harris, A.D. Harries, P.M. Hughes, A. James, T.J. Jones, D. Nicholas, D.E Williams a D.T. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei ferch yn gweithio i'r Cyngor ac yn aelod o'r CPLlL. (Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

D. M Cundy

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n rhan o'r Cynllun Pensiwn fel Cynghorydd Sir ac mae ganddo berthnasau a fydd yn fuddiolwyr y Cynllun Pensiwn.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

K. Lloyd

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n aelod o'r gronfa o ganlyniad i gyflogaeth flaenorol mewn llywodraeth leol.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

P.M. Edwards

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n derbyn pensiwn o'r gronfa.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

S. Mathews

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n derbyn pensiwn o'r gronfa bensiwn.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

S.A. Curry

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei g?r yn aelod o'r cynllun pensiwn.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

T.M. Higgins

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei nith a'i chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio yn y gwasanaeth llyfrgell.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

R. James

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei bartner yn aelod o'r Gronfa Bensiwn.

R.E. Evans

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn y gwasanaeth llyfrgell.

D. Jones

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn y gwasanaeth addysg.

E. Dole

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Buddiant Personol.

D. Price

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei fam yn aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

J.E. Williams

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n derbyn pensiwn Cynghorydd.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

G.H. John

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n aelod o'r gronfa bensiwn.

A. Vaughan Owen

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ganddo fuddsoddiad pensiwn hanesyddol ym Mhensiynau Dyfed ac mae gan ei wraig bensiwn yng Nghynllun Pensiwn Dyfed.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

A.D.T. Speake

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae ei wraig yn aelod o'r CPLlL.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

S.J.G. Gilasbey

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae perthynas yn aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

(Caniatawyd gollyngiad i siarad a phleidleisio)

E. Morgan

7.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James.

Mae'n aelod o'r gronfa o ganlyniad i gyflogaeth flaenorol mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys:

 

o   Seremoni Agor ac Enwi a drefnwyd gan RNLI Porth Tywyn.

o   Parêd y Gwarchodlu Cymreig, a oedd yn arfer eu hawl i orymdeithio drwy Dref Caerfyrddin a chyngerdd Band y Gwarchodlu Cymreig.

o   G?yl Ddefaid Llanymddyfri.

o   Gwasanaeth Dinesig Cyngor Dinas Abertawe.

o   Seremoni Ddinasyddiaeth a drefnwyd gan y Cyngor i groesawu tri dinesydd newydd a'u teuluoedd.

o   Gwasanaeth arbennig Porthfaer Talacharn.

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Gronfa Bensiwn Dyfed ar ennill y wobr am "Gronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Flwyddyn, gydag asedau dros £2.5m biliwn" yn Seremoni Gwobrau Buddsoddi'r LAPF yn ddiweddar.  Cafodd Partneriaeth Pensiwn Cymru, yr oedd yr awdurdod yn rhan ohoni, ei chanmol yn fawr hefyd yng nghategori Cronfa'r Flwyddyn.

 

·         Mynegodd y Cynghorydd Carys Jones, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei llongyfarchiadau i Jessica Rennie o Llansteffan a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn (Masnach) yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle.  Dylid cydnabod llwyddiant Jessica o ran hyrwyddo arferion adeiladu da, hyrwyddo cyfleoedd am brentisiaethau yn y Sir a hefyd hyrwyddo cyfleoedd i fenywod mewn diwydiant sy'n gysylltiedig yn bennaf â dynion.

 

·         Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorwyr Colin Evans a Dorian Williams yn dilyn eu llawdriniaethau.

 

·         Nodwyd bod llythyr o ddiolch wedi'i dderbyn gan Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y Cynghorydd Howard Barett), gan ddiolch i'r Cyngor am gefnogi'r Rhybudd o Gynnig yng nghyfarfod mis Medi ynghylch gwahodd ysgolion i gynnal munud o dawelwch yn flynyddol ar fore 21 Hydref er cof am drychineb Aberfan ym 1966.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 11EG MEDI, 2019 pdf eicon PDF 441 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 yn gofnod cywir.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR GREG PARKER I'R CYNGHORYDD ELWYN WILLIAMS, CADEIRYDD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED

"Ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Chwefror 2019, a yw'r Cyngor yn ymwybodol y gallant ddarparu buddsoddiad mwy cadarn ag elw ganwaith yn uwch ar gyfer ei aelodau, a phweru Sir Gaerfyrddin gyfan drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, drwy symud ei fuddsoddiadau pensiwn o gwmnïau tanwydd ffosil ac ail-fuddsoddi'n uniongyrchol mewn ynni adnewyddadwy? Caiff hyn ei egluro yng 'Nghynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd' gan Ynni Sir Gâr http://www.carmarthenshireenergy.org/YSG/climate-emergency?Language=Cymraeg. Drwy arloesi yn y model hwn, gall y Cyngor osod esiampl yn genedlaethol ac yn fyd-eang ar gyfer pweru'r byd yn gyfan gwbl drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2045 heb angen cyllid newydd."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Chwefror 2019, a yw'r Cyngor yn ymwybodol y gallai ddarparu buddsoddiad mwy cadarn ag elw ganwaith yn uwch ar gyfer ei aelodau, a phweru Sir Gaerfyrddin gyfan drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, drwy symud ei fuddsoddiadau pensiwn o gwmnïau tanwydd ffosil ac ail-fuddsoddi'n uniongyrchol mewn ynni adnewyddadwy? Caiff hyn ei egluro yn y 'Cynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd' gan Ynni Sir Gâr http://www.carmarthenshireenergy.org/YSG/climate-emergency?Language=Cymraeg. Drwy arloesi yn y model hwn, gall y Cyngor osod esiampl yn genedlaethol ac yn fyd-eang ar gyfer pweru'r byd yn gyfan gwbl drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2045 heb fod angen cyllid newydd."

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth Mr Parker, gan nad oedd y Cynghorydd Elwyn Williams yn bresennol oherwydd ei fod i ffwrdd ar fusnes y Cyngor, y byddai ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn yn cael ei ddarparu.

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES:- pdf eicon PDF 99 KB

“Mae'r Cyngor hwn yn:

 

·         Nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol yn gynharach eleni, gan ymrwymo i wneud y Cyngor Sir yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030.

·         Nodi casgliadau'r Panel Rhynglywodraethol ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) "ein bod yn gweld canlyniadau cynhesu byd-eang 1°C yn barod drwy dywydd mwy eithafol, codiad yn lefel y môr ac iâ môr yn toddi yn yr Arctig";

·         Nodi bod adroddiad yr IPCC yn nodi bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid byd-eang fod ar eu huchaf erbyn 2020 er mwyn cadw'r blaned yn is nag 1.5C;

·         Nodi ymgyrchoedd ac ymchwil Extinction Rebellion, Cyfeillion y Ddaear ac eraill, ynghylch daliadau cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys Dyfed, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;

·         Credu nad yw'r cynlluniau presennol yn agos at fod yn ddigon cryf i gadw'r tymheredd o dan y lefelau a elwir yn ddiogel.

·         Galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil o fewn y 2 flynedd nesaf a buddsoddi'r cronfeydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr E. Dole, G.R. Jones, G.H. John, M.J.A. Lewis, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone a J. Tremlett wedi datgan buddiant yn y mater hwn a gadawsant Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno. Gadawodd yr holl swyddogion a oedd yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn (ar wahân i Ben-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn aros i gymryd nodiadau a Chynorthwyydd y Gwasanaethau Aelodau) Siambr y Cyngor hefyd]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

Mae'r Cyngor hwn yn:

  • Nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol yn gynharach eleni, gan ymrwymo i wneud y Cyngor Sir yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030.
  • Nodi casgliadau'r Panel Rhynglywodraethol ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) "ein bod yn gweld canlyniadau cynhesu byd-eang 1°C yn barod drwy dywydd mwy eithafol, codiad yn lefel y môr ac iâ môr yn toddi yn yr Arctig";
  • Nodi bod adroddiad yr IPCC yn nodi bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid byd-eang fod ar eu huchaf erbyn 2020 er mwyn cadw'r blaned yn is nag 1.5C; Tudalen 3
  • Nodi ymgyrchoedd ac ymchwil Extinction Rebellion, Cyfeillion y Ddaear ac eraill, ynghylch daliadau cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys Dyfed, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;
  • Credu nad yw'r cynlluniau presennol yn agos at fod yn ddigon cryf i gadw'r tymheredd o dan y lefelau a elwir yn ddiogel.
  • Galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil o fewn y ddwy flynedd nesaf a buddsoddi'r cronfeydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd C. Jones a chafodd ei eilio:

 

“Mae'r Cyngor hwn yn:

·         Nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol yn gynharach eleni, gan ymrwymo i wneud y Cyngor Sir yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030;

·         Nodi casgliadau'r Panel Rhynglywodraethol ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) "ein bod yn gweld canlyniadau cynhesu byd-eang 1°C yn barod drwy dywydd mwy eithafol, codiad yn lefel y môr ac iâ môr yn toddi yn yr Arctig";

·         Nodi bod adroddiad yr IPCC yn nodi bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid byd-eang fod ar eu huchaf erbyn 2020 er mwyn cadw'r blaned yn is nag 1.5C;

·         Nodi ymgyrchoedd ac ymchwil Extinction Rebellion, Cyfeillion y Ddaear ac eraill, ynghylch daliadau cronfa Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys Dyfed, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;

·         Credu nad yw'r cynlluniau presennol yn agos at fod yn ddigon cryf i gadw'r tymheredd o dan y lefelau a elwir yn ddiogel;

·         Yn croesawu'r ffaith bod Cronfa Bensiwn Dyfed eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy fel rhan o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ei hymrwymiad i Newid yn yr Hinsawdd gan gydnabod ei gyfrifoldebau ymddiriedol cyffredinol;

·         Yn galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ystyried lleihau ei buddsoddiad mewn tanwyddau ffosil.”

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GARY JONES:-

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

 

·         Cydnabod bod Rheoliadau Mynediad i Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 wedi creu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod bysiau cyhoeddus y telir amdanynt yn darparu lle i ddefnyddwyr cadair olwyn, o Ionawr 2020 ymlaen.

·         Pryderu na chafodd nifer o rieni a disgyblion wybod na fyddai disgyblion yn gallu teithio ar eu llwybr arferol i'r ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon ac yn credu bod yn rhaid cysylltu â'r rheiny yr effeithir arnynt hyd yn hyn erbyn diwedd y tymor hwn i sicrhau eu bod yn deall y newidiadau sydd ar y gweill.

·         Sicrhau bod disgyblion yn gallu teithio i'r ysgol ac yn ôl mewn modd diogel ac sy'n gydnaws â'r amgylchedd.

·         Galw ar y Bwrdd Gweithredol i ddarparu cludiant am ddim i bawb yr effeithiwyd arnynt ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, gan adolygu darpariaeth i fyfyrwyr yn y dyfodol.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gary Jones:-

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

  • Cydnabod bod Rheoliadau Mynediad i Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 wedi creu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod bysiau cyhoeddus y telir amdanynt yn darparu lle i ddefnyddwyr cadair olwyn, o Ionawr 2020 ymlaen.
  • Pryderu na chafodd nifer o rieni a disgyblion wybod na fyddai disgyblion yn gallu teithio ar eu llwybr arferol i'r ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon ac yn credu bod yn rhaid cysylltu â'r rheiny yr effeithir arnynt hyd yn hyn erbyn diwedd y tymor hwn i sicrhau eu bod yn deall y newidiadau sydd ar y gweill.
  • Sicrhau bod disgyblion yn gallu teithio i'r ysgol ac yn ôl mewn modd diogel ac sy'n gydnaws â'r amgylchedd.
  • Galw ar y Bwrdd Gweithredol i ddarparu cludiant am ddim i bawb yr effeithiwyd arnynt ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, gan adolygu darpariaeth i fyfyrwyr yn y dyfodol.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn erbyn y Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

8.

CYFLWYNIAD GAN WASANAETH TAN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K.V Broom, J.M Charles, E.G. Thomas ac R.E. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach]

 

Croesawyd y Prif Swyddog Tân, Chris Davies, a'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Iwan Cray, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Tân drosolwg ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol:

 

·         Ardal ddaearyddol y Gwasanaeth a heriau cysylltiedig

·         Strwythur rheoli gan gynnwys Bwrdd Gweithredol y Cyfarwyddwyr a chwe Ardal Reoli sirol

·         Yr Awdurdod Tân

·         Arbedion ariannol oedd wedi'u gwneud eisoes

·         Dyletswyddau Statudol y Gwasanaeth.

·         Digwyddiadau a Heriau Gweithredol

·         Perfformiad o ran tanau bwriadol, tanau damweiniol mewn preswylfeydd, marwolaethau ac anafiadau a damweiniau traffig ffyrdd

·         Newidiadau gwariant gwirioneddol ac o ran gwerth cyhoeddus

·         Asesiad Strategol ac Adolygiad o'r Gwasanaeth

·         Canlyniadau arolwg diweddar ynghylch barn y cyhoedd

·         Trosolwg o'r gyllideb gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd/diraddio gwasanaethau

·         Cyllideb Arfaethedig ar gyfer 2020/21

 

Ar ôl y cyflwyniad cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb a soniwyd y dylai Llywodraeth Cymru lobïo'r Llywodraeth Ganolog i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei sicrhau i gynnal gwasanaethau.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r Prif Swyddog Tân a'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol am y cyflwyniad ac am y gwaith amhrisiadwy a wneir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

9.

ADOLYGU DOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 477 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar yr adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio. Gwnaeth Adran 18C o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 17 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013) gyflwyno dyletswydd i adolygu pob dosbarth a man pleidleisio seneddol bob 5 mlynedd.

 

Cynhaliwyd adolygiad rhagarweiniol o'r dosbarthau pleidleisio a'r mannau pleidleisio presennol o 3 Medi 2018 a daeth i ben ar 12 Hydref 2018. Fel rhan o'r gwaith o baratoi cynllun arfaethedig diwygiedig o'r Dosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio, bu'r Swyddog Canlyniadau'n ystyried, fel ystyriaethau allweddol, hwylustod i etholwyr a hygyrchedd i bleidleiswyr ag anableddau.

 

Dechreuodd y broses adolygu ar 23 Ionawr 2019 gydag ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, ymgynghori â phob parti â diddordeb a chyhoeddi Hysbysiad Cyhoeddus o'r Adolygiad ynghyd ag atodlenni'r cynllun presennol a'r cynllun arfaethedig a oedd yn tynnu sylw at y newidiadau a argymhellwyd.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau oedd 27 Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar yr Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio.

10.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2018/19. pdf eicon PDF 553 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi (gweler cofnod 6), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19.

10.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2018/19 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi (gweler cofnod 7), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2018/19. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd ag asesiad ar y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20. 

 

Mynegodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Phlant eu gwerthfawrogiad i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i staff am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol  Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2018/19.

10.3

CYTUNDEB DIWYGIEDIG CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi (gweler cofnod 16), wedi ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gadarnhad o'r gwelliannau i gytundeb Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dilyn canlyniadau adolygiadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a'r rhanbarth ei hun a dderbyniwyd gan y Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth 2019. Roedd yr adolygiadau wedi cynnwys argymhellion a oedd yn gofyn am ddiwygiadau i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor gwreiddiol a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2018.  Cafodd yr adroddiad ei gynnig a'i eilio.

 

Cyfeiriwyd at gyfarfod Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019 pan ystyriwyd adroddiad diweddaru ar y Cytundeb Cydweithio.  Dywedwyd bod y Cyd-bwyllgor Craffu wedi cytuno'n unfrydol i ofyn am i'r Cyd-bwyllgor gynnwys 3 diwygiad ychwanegol i'r cytundeb (Cymal 9.3 a Chymalau 2.2 a 7 o Atodlen 12) a chynigiwyd y rhain yn ffurfiol fel diwygiad i'r adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw gais o'r fath wedi ei roi gerbron y Cydbwyllgor i'w ystyried a dywedwyd ymhellach nad oedd unrhyw ohebiaeth na chofnodion drafft wedi'u dosbarthu a'u cymeradwyo gan Aelodau'r Cyd-bwyllgor Craffu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wrth y Pwyllgor fod copïau o lythyr oddi wrth Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu a chofnodion drafft y Cyd-bwyllgor Craffu wedi'u dosbarthu i'r Swyddogion Monitro y diwrnod blaenorol, ond nid oedd y Swyddogion Monitro wedi cael y cyfle i'w drafod oherwydd y byr rybudd.  Fodd bynnag, at ddibenion egluro, darllenodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith gynnwys y cofnodion drafft i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cofnodion craffu ar y cyd drafft yn gofyn yn glir i'r Cyd-bwyllgor ystyried y gwelliannau hyn, felly byddai angen i unrhyw ddiwygiad arfaethedig gael ei ystyried gan y Cyd-bwyllgor ei hun yn gyntaf.  Pe byddai cytundeb ar y diwygiadau hynny, byddai angen i bob un o'r 4 awdurdod lleol ystyried a mabwysiadu'r newidiadau arfaethedig.

 

Yn dilyn pleidlais, collwyd y gwelliant.

 

PENDERFYNWYD:

 

10.3.1 cymeradwyo'r gwelliannau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor fel y'u nodwyd yn Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad;

10.3.2 awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe i wneud gweithred o amrywiad er mwyn gweithredu'r newidiadau i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor.

HYD Y CYFARFOD

Am 12:55pm wrth ystyried yr adroddiad uchod, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

 

10.4

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2018/19 - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 700 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi (gweler munud 20) wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2018/19 - Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Leol (CDLl) 2005, ac roedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

10.4.1

cael a derbyn cynnwys yr pedwerydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019;

10.4.2

bod y canfyddiadau a'r dystiolaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn yn cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o baratoi CDLl diwygiedig 2018-2033, a llywio'r broses o gasglu tystiolaeth;

10.4.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 23AIN, MEDI, 2019. pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

12.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cael hysbysiad bod y Cynghorydd Colin Evans wedi ymddiswyddo o'r Gr?p Llafur ac wedi ymuno â Gr?p Plaid Cymru wedyn, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi'r newidiadau ôl-ddilynol i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor ac yn adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu y byddai angen i'r Gr?p Annibynnol ildio sedd ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i Gr?p Plaid Cymru a byddai angen i'r Gr?p Llafur ildio sedd i'r Gr?p Annibynnol Newydd ar Banel Ymgynghorol y Cyngor ynghylch y Polisi Tâl.

 

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer y trefniadau newydd o ran cynrychiolaeth ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Phanel Ymgynghorol y Cyngor ynghylch y Polisi Tâl.

 

PENDERFYNWYD:

 

12.1    Bod y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod o Gr?p Plaid, yn cymryd lle'r Cynghorydd Jim Jones, Aelod o'r Gr?p Annibynnol, ar Banel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys.

12.2    Bod y Cynghorydd Jeff Edmunds, Aelod o'r Gr?p Annibynnol Newydd, yn cymryd lle'r Cynghorydd John Prosser ar Banel Ymgynghorol y Cyngor ynghylch y Polisi Tâl.

13.

AELODAU' R PWYLLGORAU:-

Dogfennau ychwanegol:

13.1

DERBYN HYSBYSIAD GAN GRWP PLAID CYMRU YNGHYLCH PENODI AELOD YN LLE'R CYNGHORYDD EMLYN SCHIAVONE AR Y PWYLLGOR ARCHILIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Cyngor fod yr eitem wedi cael ei thynnu'n ôl.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau