Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 7fed Mawrth, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S. Curry, A. Davies, D. Harries, J.P Jenkins, G. Jones, T.J. Jones, D. Nicholas, ac A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.M. Allen

10.1 – Rhybudd o Gynnig

Y newid yn y ddeddfwriaeth yn cael effaith arni'n bersonol.

L. Bowen

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei fam yn gweithio yn Ysgol Llangynnwr, a'i ddyweddi yn gweithio yn Uned Gyfieithu'r Cyngor.

C. Campbell

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei frawd a'i chwaer-yng-nghyfraith yn athrawon.

D.M. Cundy

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Sawl perthynas iddo'n gweithio i'r Cyngor.

C.A. Davies

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei chwaer yn gweithio yn Ysgol y Strade.

H. Davies

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol

Ei fab yn gweithio i Ysbyty Glangwili.

J.A. Davies

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei fab yn athro yn Ysgol y Strade.

T.A.J. Davies

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol yn chwaer-yng-nghyfraith iddo.

E. Dole

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei fab yn gweithio i'r Awdurdod.

J.S. Edmunds

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Aelodau o'i deulu'n gweithio i'r Awdurdod.

P.M. Edwards

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Awdurdod.

D.C. Evans

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei wraig yn gweithio i'r Cyngor.

L.D. Evans

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei ferch yn athrawes yn y sir.

J. Gilasbey

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol

Ei nith yn Nyrs Staff yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

T. Higgins

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei chwaer-yng-nghyfraith a'i nith yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgell a'i merch yn Nyrs Staff yng Ngwasanaethau Cymunedol Eastgate.

A. James

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol

Ei wraig yn Brif Nyrs yn y Gymuned.

R. James

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019.

Ei bartner yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgell.

A.C. Jones

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol a 10.1 – Rhybudd o Gynnig

Y newid mewn deddfwriaeth yn cael effaith arni'n bersonol a'i merch-yng-nghyfraith yn nyrsio yn Ysbyty Glangwili.

B.W. Jones

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019.

Ei mab yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn

D. Jones

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019.

Ei chwaer a'i brawd-yng-nghyfraith yn gweithio ym myd addysg.

 

M.J.A. Lewis

10.1 – Rhybudd o Gynnig

Y newid yn y ddeddfwriaeth yn cael effaith arni'n bersonol.

K. Lloyd

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019.

Ei nith yn gweithio i'r Cyngor.

K. Madge

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol a 13 – Datganiad Polisi Tâl 2018-2019

Ei wraig yn nyrs staff yn Ysbyty Dyffryn Aman a'i ferch yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

S. Matthews

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019

Ei dwy ferch yn gweithio ym myd addysg.

E. Morgan

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol

Ei ferch yn gweithio i Hywel Dda.

B.A.L. Roberts

5 – Cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol

Ei merch yn Ymwelydd Iechyd yn y Bwrdd Iechyd Lleol. Yn aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned hefyd.

A. Vaughan-Owen

13 – Datganiad Polisi Tâl 2018/2019.

Ei wraig yn athrawes.

 

Datganiadau gan Swyddogion

 

Datganwyd buddiant yng nghofnod 10.1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchwyd yn ddiffuant i holl staff yr Adran Priffyrdd am eu gwaith caled yn sicrhau bod ffyrdd y sir yn glir yn ystod y tywydd garw a gafwyd wythnos diwethaf. Diolchwyd hefyd i staff Adran yr Amgylchedd am glirio'r palmentydd ddydd Gwener i wneud yn si?r eu bod yn ddiogel i bobl gerdded arnynt.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i nifer o drigolion ifanc o ardal Cydweli a Mynyddygarreg sy’n rhagori yn eu chwaraeon.

 

 

 

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 14EG CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 14 Chwefror, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

5.

CYFLWYNIAD GAN FWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA YNGHYLCH EI RAGLEN TRAWSNEWID GWASANAETHAU CLINIGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr H. Davies, J. Gilasbey, A. James, A. C. Jones, K. Madge, E. Morgan a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r cynrychiolwyr canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a oedd wedi cael gwahoddiad i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol:-

 

Ms Bernardine Rees, Cadeirydd

Mr Steve Moore, Prif Weithredwr

Dr. Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a'r Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol

Ms Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol

Ms Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Trawsnewid

Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Trawsnewid Clinigol, Arweinydd Clinigol yr Uned Mân-anafiadau, Ysbyty’r Tywysog Philip

 

Dr Eiry Edmunds, Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili

Dr Goshal, Meddyg Anadlol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Mr Jeremy Williams, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys a Chyfarwyddwr Clinigol Gofal heb ei Drefnu

Ms Lisa Davies, Prif Reolwr y Prosiect

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod nifer o faterion strategol hirdymor yr oedd angen mynd i'r afael â hwy. Roedd y canlynol ymysg y prif ysgogwyr ar gyfer newid:-

 

-  anghydraddoldebau ac amrywiadau o ran gofal;

-  galw a sbardunir gan ddemograffeg;

-  recriwtio a chadw staff;

-  pwysau o ran perfformiad e.e. amseroedd aros;

-  rhai adeiladau a chyfleusterau wedi dyddio/TG/gwybodeg/seilwaith;

-  pellenigrwydd a gwledigrwydd – mynediad i wasanaethau.

 

Cydnabuwyd pwysigrwydd proses ymgynghori eang, hollgynhwysol, ac i'r perwyl hwn roedd Consultation Institute, sy'n arweinwyr byd ym maes ymgysylltu ac ymgynghori, wedi'u penodi i helpu/cynghori ar y broses ymgynghori.  Cafwyd Sgwrs Fawr haf y llynedd â'r staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, partneriaid a'r cyhoedd.  Hwn oedd Cam Darganfod (gwrando ac ymgysylltu) y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.

 

Roedd y rhaglen wedi'i hen sefydlu bellach yn dilyn llofnodi Adroddiad Allbwn Achos dros Newid Cam 1 yng Nghyfarfod y Bwrdd Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2017.  Roedd y rhaglen bellach wedi cyrraedd y cam nesaf, Cam 2 – Dylunio a bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cam hwn yn cael ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos o 19 Ebrill, 2018 hyd at 12 Gorffennaf, 2018.

 

Y canlynol yw egwyddorion allweddol y Model Gofal ac Iechyd newydd arfaethedig:-

 

·       Cwmpasu'r system iechyd a gofal gyfan, a'r tu hwnt;

·       Dull iechyd poblogaeth sy'n ceisio diwallu anghenion gofal lleol a helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain;

·       Ategwyd gan asesiad risg o'r boblogaeth gyfan i sicrhau ymyriadau rhagweithiol sy'n cynnal llesiant, osgoi salwch, neu'n osgoi dirywiad;

·       Egwyddor craidd y model yw cynghori, cefnogi a thrin pobl yn eu cartref eu hunain neu fan cymunedol lle bo modd;

·       Derbyniadau i'r ysbyty ond yn digwydd pan fo hynny'n hollol angenrheidiol yn feddygol;

·       Yn ganolog i'r model gofal newydd y mae Rhwydweithiau Cymunedol a gefnogir gan Hybiau Cymunedol, lle gellir darparu nifer o wasanaethau gofal ac iechyd integredig (yn cynnwys y 3ydd sector) o un lleoliad;

·       Yr hybiau hyn fydd y mannau gorau hefyd i gynllunio gofal cyndriniaethol a dilynol, yn ogystal â darparu gwasanaethau arbenigol a gynlluniwyd i bobl sy'n byw â chyflyrau hirdymor;

·       Ni fydd Hybiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Am 12.00pm gohiriwyd y cyfarfod am egwyl o 5 munud.

 

7.

Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r cyfarfod ailddechrau am 12.05pm.

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

9.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN PROSSER I'R CYNGHORYDD DAVID JENKINS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL AR GYFER ADNODDAU

“Yng nghyllideb Plaid a’r aelodau annibynnol ar gyfer 2018 / 2019, roeddech wedi cyhoeddi cynnydd yn uwch na chwyddiant o 10 ceiniog y pryd am brydau ysgol.

 

Ar ôl imi gwestiynu pa mor ddoeth yr oedd y penderfyniad hwn a'r effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar deuluoedd sy'n gweithio'n galed yn Sir Gaerfyrddin, safodd yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros addysg a gwneud tro pedol ar yr hyn roeddech wedi'i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, “Roeddem wedi penderfynu eleni na fyddai cynnydd o ran cost prydau ysgol, ond yn y trafodaethau a gefais gyda'r cyfarwyddwr a'r swyddogion, derbyniwyd y llynedd y dylai fod cynnydd o 10 ceiniog. Wel, gallaf ddweud wrthych fy mod i'n ymdrechu, ynghyd â'r swyddogion, i gadw cost prydau ysgol yn £2.50. Nid wyf yn credu y byddwn yn gweld cynnydd o ran cost prydau ysgol eleni. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau hynny.”

A allwch chi gadarnhau i ni ac i drigolion Sir Gaerfyrddin faint y bydd yn rhaid i rieni ei dalu yn 2018 / 2019 am bryd eu plentyn, neu a fyddwch yn gwneud tro pedol ar eich tro pedol?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yng nghyllideb Plaid-Gr?p Annibynnol ar gyfer 2018/19, cyhoeddwyd gennych gynnydd uwch na chwyddiant o 10c y pryd ar gyfer ciniawau ysgol. Wedi imi gwestiynu doethineb y penderfyniad hwn a'i effaith ar deuluoedd gweithgar Sir Gaerfyrddin, sefyllodd yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros addysg ar ei draed a gwneud tro pedol o ran yr hyn ddywedsoch chi, ac rwy'n dyfynnu "Roeddem wedi penderfynu eleni na fyddai cynnydd ym mhrisiau prydau ysgol, ond mewn trafodaethau rwyf wedi eu cael gyda'r cyfarwyddwr a'r swyddogion, cafodd ei basio y llynedd y dylai cynnydd o 10c fod wedi bod. Wel gallaf ddweud wrthych nawr fy mod yn ceisio fy ngorau gyda'r swyddogion i gadw pris y prydau ysgol yn £2.50.  Nid wy'n credu y byddwn ni'n gweld cynnydd ym mhris prydau ysgol eleni. Dyna'r hyn rydym yn gweithio'n galed i'w gyflawni." A allwch chi gadarnhau i ni a thrigolion Sir Gaerfyrddin pa bris y bydd yn rhaid i rieni ei dalu yn 2018/19 ar gyfer prydau eu plant, neu a fyddwch chi'n gwneud tro pedol ar eich tro pedol?”

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

“Yn eich cwestiwn rydych yn datgan “Yng nghyllideb Plaid-Gr?p Annibynnol ar gyfer 2018/19, cyhoeddwyd gennych gynnydd uwch na chwyddiant o 10c y pryd ar gyfer ciniawau ysgol" a chwestiynwyd gennych ddoethineb y penderfyniad hwn. Hoffwn nodi yn y lle cyntaf fod y cynnydd rydych yn cyfeirio ato wedi'i gynnwys fel rhan o broses pennu'r gyllideb yn 2016, pryd yr oedd y gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei hystyried a'i phennu. Yn eich araith rhoddwyd pwys o'r mwyaf gennych ar y ffaith bod hwn yn gynnydd o 10c uwch na chwyddiant ar bob pryd, gan grybwyll yr effaith byddai'n ei chael ar deuluoedd gweithgar Sir Gâr. Gofynnaf i chwi ai'r un teuluoedd yw'r rhain â'r rhai oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin yn 2015, pryd y bu i'r Awdurdod Lleol, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, dan arweiniad y Gr?p Llafur bryd hynny, wrth bennu'r gyllideb ar gyfer 2015/16 a 2016/17, hefyd gynyddu pris prydau ysgol 10c uwch na chwyddiant. Mae hefyd yn werth nodi eich bod, yn eich ymateb yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb, wedi cynnig cynyddu'r Dreth Gyngor i 4.95%, a thrwy hynny roi baich ychwanegol o £400K ar deuluoedd gweithgar Sir Gaerfyrddin. Yn ôl ym mis Mawrth 2015 y Cynghorydd Jeff Edmunds oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, â chyfrifoldeb dros bennu'r gyllideb, cyn dod yn Arweinydd y Gr?p Llafur ym mis Mai'r flwyddyn honno, a wnaeth orfod ildio maes o law i lefydd ar feinciau'r wrthblaid. Mae'n ymddangos i mi bod yr aelodau gyferbyn yn colli'u cof, ddim yn siarad â'i gilydd, neu wedi penderfynu cofio'r hyn sy'n gyfleus yn unig mewn perthynas â digwyddiadau'r gorffennol.  Yn ystod y broses o bennu cyllideb 2015, datgelodd Plaid fod swm o £20 miliwn heb ei neilltuo yn y Gronfa Gyfalaf a Glustnodwyd. Nid oedd y weinyddiaeth Lafur ar y pryd fel petaent yn ymwybodol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.1

9.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL AR GYFER GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“Yn ystod cyfarfod y Cyngor Sir ar 14 Chwefror 2018, atebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nifer o gwestiynau ar eich rhan, ond nid oedd yn gallu dweud faint y mae'r cyngor wedi'i dalu hyd yma i ymgynghorwyr am y prosiect i sefydlu Llesiant Delta Wellbeing Ltd. A allech roi'r wybodaeth hon nawr? Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y cyfarfod y bydd trefniant Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu (TUPE) yn diogelu telerau ac amodau'r staff am y diwrnod trosglwyddo yn unig.  Gan y bydd y cwmni newydd ym mherchnogaeth lwyr y cyngor, pam na allwn sicrhau y bydd telerau unrhyw staff a drosglwyddir yn cael eu diogelu am oes y cwmni?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ystod cyfarfod y Cyngor Sir ar 14 Chwefror, 2018, atebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nifer o gwestiynau ar eich rhan, ond ni allai ddweud faint roedd y Cyngor wedi ei dalu hyd yn hyn i ymgynghorwyr am y prosiect i sefydlu Llesiant Delta Wellbeing Ltd. Ydych chi'n gallu darparu'r wybodaeth hon nawr? Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y cyfarfod y bydd TUPE ond yn diogelu telerau ac amodau'r staff ar gyfer y diwrnod trosglwyddo.  Gan mai'r Cyngor fydd yn berchen ar y cwmni newydd yn ei gyfanrwydd, pam na allwn sicrhau bod telerau unrhyw staff a drosglwyddir yn cael eu diogelu tra bydd y cwmni?”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

“Y swm yw £28,035 ac er eglurhad, nid dyna'r hyn ddywedodd y Cyfarwddwr Cymunedau. Mae'n destun pryder mawr i mi y byddwch yn achosi gofid diangen i'r staff drwy godi'r mater hwn eto. Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod y rhain yn bobl go iawn, ac na ddylid gwneud iddynt ofidio'n ddiangen er mwyn ennill mantais wleidyddol ganfyddedig.  Felly i ailadrodd, fe'i gwnaethpwyd yn gwbl glir gennyf i a'r Cyfarwyddwr, y bydd y weinyddiaeth hon yn parhau, fel y mae wastad wedi ei wneud, i ddiogelu telerau ac amodau'r staff ar ôl trosglwyddo, a chan fod y Cyngor yn berchen y cwmni yn ei gyfanrwydd, ac mai'r Cyngor yw'r unig gyfranddaliwr, dim ond y Cyngor allai newid y sefyllfa hon. Gobeithio bod hyn yn ateb eich pryderon. Roedd yn galondid i mi bod y mwyafrif o'r cynghorwyr ar bob ochr yn deall hyn ac wedi pleidleisio yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor i ddiogelu'r gwasanaeth rhagorol hwn mewn cyfnod o newid.  Y dewis arall fyddai gweld gwasanaeth gwerthfawr yn Sir Gaerfyrddin yn dirywio; rhywbeth nad yw'r un ohonom yn ei ddymuno.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Rwyf yn anghytuno, cafodd fy nyfyniad bod TUPE ond yn berthnasol ar gyfer y diwrnod cyntaf o drosglwyddo, ei ddatgan gan y Cyfarwyddwr. Rwyf yn falch eich bod yn gwneud yr ymrwymiad hwn. Fel y mae'r achos busnes yn ei nodi'n glir, daw llwyddiant Llinell Gofal yn sgil staff sydd wedi ein gwasanaethu'n dda dros y blynyddoedd, ac nid ydynt wedi ceisio newid eu cyflogwr ond maent yn cael eu trosglwyddo fel bod y Cyngor Sir, drwy'r cwmni newydd, yn gallu gwerthu ei wasanaethau i ddarpar gwsmeriaid newydd. Felly rwy'n gobeithio ein bod yn dweud yn awr y bydd y staff yn cadw'r un hawliau tra bydd y cwmni, yn yr un modd â phe na byddent wedi eu trosglwyddo.”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

“Mae'r gwe-gamera'n cefnogi'r hyn rwyf wedi ei ddweud o ran yr hyn ddywedodd y Cyfarwyddwr yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor. Fel rwyf newydd ei ddweud, rydym yn diogelu telerau ac amodau pob aelod o staff, yn arbennig mewn perthynas â TUPE.”

 

10.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD CARL HARRIS

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

·        Yn cydnabod ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb yn y Pensiwn Gwladol (WASPI);

·        Yn cydnabod bod llawer o fenywod Sir Gaerfyrddin a aned yn yr 1950au bellach yn wynebu heriau sylweddol wrth geisio dal dau ben llinyn ynghyd;

·        Yn deall nad yw menywod WASPI eisiau gostwng yr oedran ymddeol ond yn hytrach eu bod eisiau gweld trefniadau pontio teg o ran y pensiwn gwladol i bob menyw yr effeithiwyd arni gan y cyfreithiau pensiwn gwladol;

·        Yn penderfynu cefnogi ymgyrch WASPI a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar ran menywod Sir Gaerfyrddin.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr S.M. Allen, A.C. Jones a M.J.A. Lewis a Ms L. Rees Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi gadael y Siambr cyn iddi gael ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Carl Harris:-

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

·       Yn cydnabod ymgyrch Menywod erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI);

·       Yn cydnabod bod llawer o fenywod Sir Gaerfyrddin, a gafodd eu geni yn y 1950au, bellach yn wynebu heriau aruthrol wrth geisio cael dau ben llinyn ynghyd;

·       Yn gwerthfawrogi nad yw menywod WASPI yn dymuno gostwng oedran pensiwn y wladwriaeth, ond yn hytrach yn dymuno cael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfau'r pensiwn gwladol;

·       Yn penderfynu cefnogi ymgyrch WASPI a chyflwyno sylwadau ar ran menywod Sir Gaerfyrddin i Lywodraeth y DU.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

11.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM FLWYDDYN ARIANNOL 2018/19 pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am 2018/19, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn seiliedig ar fanylion y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a'r praeseptau a nodwyd i'r Cyngor Sir gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a'r Cynghorau Tref a Chymuned.

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2018/19 yn cael eu mabwysiadu.

 

 

12.

HYD Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Am 1:00pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu trafod yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

 

13.

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2018-2019 pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

1.       Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, C.A. Campbell, D.M. Cundy, C.A. Davies, J.A.    Davies, T.A.J. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, D.C. Evans, L.D. Evans, T. Higgins, R. James, B.W. Jones, D. Jones, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews ac A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.

2.       Roedd pob swyddog a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon ac felly nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod tra cafodd yr eitem ei thrafod a thra penderfynid yn ei chylch, ac eithrio y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn deillio o'r adroddiad, ond gadawodd cyn cynnal y bleidlais, Pen-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, a arhosodd yn y cyfarfod i gymryd cofnodion, a'r Swyddog Gweddarlledu.]

Atgoffwyd y Cyngor ei bod yn ofynnol, o dan ddarpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i bob Awdurdod Lleol lunio datganiad polisi tâl am flwyddyn ariannol 2018-19 a phob blwyddyn ariannol ddilynol. 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor llawn gymeradwyo'r datganiad polisi tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac ni ellid dirprwyo hynny i Weithrediaeth yr Awdurdod.  Rhaid i'r polisi fanylu ar bolisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

Mandad Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, yw rhoi mewnbwn o ran llunio Datganiad Polisi Tâl ac mae unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r Panel hwnnw wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol, i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl am 2018-19 yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

 

 

14.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN YR EITEM CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

14.1

GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR I'R SAWL SY'N GADAEL GOFAL pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 26 Chwefror, 2018 wedi ystyried adroddiad yn ymwneud â Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i'r sawl sy'n gadael gofal (gweler Cofnod 11), a wedi gwneud argymhelliad yn ei gylch i’w hystyried gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“mabwysiadu polisi sy'n eithrio'r rhai sy'n gadael gofal, o 18 hyd at 25 oed, rhag talu'r Dreth Gyngor.