Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan gynghorwyr G. Davies, K. Davies, D. Harries, C.J. Harries a B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T.A.J. Davies

8.1 – Rhybudd o Gynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd T. Higgins

Mae ei frawd yng nghyfraith yn berchen ar gynelau c?n trwyddedig.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorwyr am fod yn bresennol yn ystod rhan olaf y cyfarfod diwethaf pan roddwyd rhyddid y Sir i D.T.Davies Dryslwyn;

 

·         Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r canlynol

 

ØY Cynghorydd Andrew James a Sian ei wraig a'r teulu ar farwolaeth mam Sian;

ØY Cynghorwyr Fozia Akhtar a Shahana Najmi ar farwolaeth eu tad;

ØY Cynghorydd Alun Lenny a'i wraig Ann a'r teulu ar farwolaeth mam Ann;

ØY Cynghorydd Jim Jones a'i frawd Graham, ar farwolaeth eu chwaer;

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:

 

Ø  Y Cynghorydd Karen Davies ar gael ei hethol yn Gynghorydd i gynrychioli Ward Saron;

Ø  perfformiodd Cerddorfa Jazz Ieuenctid y Sir a Chôr Merched Sir Gâr yn rowndiau terfynol cenedlaethol Cystadleuaeth G?yl Genedlaethol Music for Youth ym mis Gorffennaf  yn Birmingham;

Ø  Y Bant Chwyth Sirol a fu'n perfformio yn y rownd derfynol genedlaethol;

Ø  Y Cynghorydd John James a gafodd ei benodi yn Gadeirydd Cynorthwyol PATROL (Rheoliadau Traffig a Pharcio y tu allan i Lundain) (Cymru) ym mis Gorffennaf;

Ø  Hefin a Gwennan Evans, Pwllagddu, Llanwrda, sydd yn ddiweddar wedi dod yn Bencampwyr Byd ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau'r Byd a gynhaliwyd ym mis Awst ym Manceinion;

Ø  Yr enillwyr canlynol yng Ngwobrau Arwyr Lleol Radio Sir Gaerfyrddin:  

Gwobr Cymydog Da – Linda Owen;

Athro/Athrawes y Flwyddyn – Karen Armstrong;

Hyrwyddwr Cymunedol – Louise Robinson;

Plentyn Dewr – Cameron Fulham;

Gofalwr y Flwyddyn – Yvonne Jones;

Mam y Flwyddyn – Pat Thomas;

Tad y Flwyddyn – Steve Walker;

Busnes Cymunedol y Flwyddyn - Caffi Cymunedol iSmooth

Dewrder Eithriadol – Lacey Maria Rees;

Codwr Arian y Flwyddyn – Ray Slade;

Seren Chwaraeon y Flwyddyn – Ollie Griffith-Salter;

Cyflawniad Eithriadol – D.T. Davies;

 

Ø  Geraint Thomas ar ennill y Tour de France;

Ø  Tîm Pêl-droed Ysgolion Caerfyrddin dan 12 ar ei lwyddiant yng Nghynghrair Pencampwyr Iau'r Gogledd Orllewin 2018;

 

·                Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd John James, Porth Tywyn, yn codi ariana ar gyfer Nyrsys Macmillan sy'n rhoi cefnogaeth mawr ei angen ar gleifion canser a'u teuluoedd. Byddai'r Cynghorydd James yn cymryd rhan yn yr ymgyrch 'Brave the Shave' drwy eillio ei farf yng Nghlwb Rygbi Porth Tywyn am 9pm, ddydd Sadwrn, 29 Medi;

 

·                Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi mynd iddynt wrth gynrychioli'r Cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys:

 

Ø  Sioeau Amaethyddol – Llangadog, Llanarthne, Llandyfaelog – mynegodd y Cadeirydd hefyd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Gareth Thomas ar ei lwyddiant yn Sioe Frenhinol Cymru;

Ø  Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli;

Ø  Beicio – Cylchffordd Gaeedig Pen-bre

Ø  Taith Prydain – diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n ymwneud â'r fenter wych hon;  

·                Tynnwyd sylw'r Cyngor ar lwyddiant yr Apêl Teganau Nadolig yn y blynyddoedd blaenorol, a fu'n rhoi help i bobl a oedd yn wynebu amserau ariannol anodd yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.  Yn debyg i'r hyn a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol, gofynnwyd i Aelodau'r Cyngor roi cyfraniad at yr Apêl.  Gofynnwyd i Aelodau'r Cyngor roi cyfraniad yn unrhyw un o'r mannau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 11EG GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir, yn amodol ar gofnod 3 – Cyhoeddiadau'r Cadeirydd, y dylid nodi bod Mrs Pat Thomas a Mrs Beryl Owens eisoes wedi derbyn Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol gan Jo Cox Cymru.

 

5.

CYFLWYNIAD - GWERTHUSIAD AR OL Y DIGWYDDIAD - TAITH PRYDAIN 2018 pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor gyflwyniad, gan gynnwys deunydd fideo, ar yr adborth a gafwyd yn dilyn ras feiciau Taith Prydain a gynhaliwyd yn ddiweddar a ddechreuodd ym Mharc Gwledig Pen-bre. Amcangyfrifwyd bod yr hyrwyddo a'r sylw i'r digwyddiad, a fyddai'n helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr i'r Sir, fwy na thebyg yn cyfateb i tua £100k petai'r Awdurdod wedi talu am y math hyn i hysbysebu. O ran budd economaidd y digwyddiad, amcangyfrifwyd bod yr incwm ychwanegol ar gyfer busnesau yn y Sir tua £800k yn ystod penwythnos y digwyddiad. Talwyd teyrnged benodol i staff yn yr isadrannau priffyrdd a chwaraeon am eu gwaith yn arwain at y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad ei hun. Cyflwynodd y Prif Weithredwr grys Taith Prydain wedi'i fframio i'r Cadeirydd a oedd wedi'i ddylunio gan Zakia Bella Johnson, disgybl yn Ysgol Saron, ac enillydd y gystadleuaeth i ysgolion a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad. Cyflwynwyd hefyd y crys i bob un o feicwyr Cymru a fu'n cymryd rhan yn y ras.

 

6.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. 

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

“A allaf ofyn beth mae'r Awdurdod hwn yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys unrhyw gamau er mwyn dechrau defnyddio tai gwag unwaith yn rhagor?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

“A gaf i ofyn pa gamau y mae'r Awdurdod hwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys unrhyw gamau i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

“Diolch yn lle cyntaf i'r Cynghorydd McPherson am y cwestiwn pwysig hwn  Fel Aelodau rydych wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â Swyddogion o'r Adran Dai a minnau'r prynhawn hwn mewn seminar er mwyn cael trafodaeth ar ddatblygu cynllun digartrefedd newydd.  Rwy'n gobeithio y byddwch chi gyd yno.

Yr wythnos nesaf ar Agenda'r Pwyllgor Craffu - Cymunedol mae cyfle i Aelodau drafod yn fanwl yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael ag eiddo gwag.  Felly gyda'ch caniatâd chi Gadeirydd, hoffwn roi golwg gyffredinol i chi mewn ymateb i'r cwestiwn.

Yn gyntaf mae ein dull digartrefedd yn syml. Ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu sicrhau trosglwyddo'r cymorth a'r cyngor sy'n berthnasol i bawb.  Bod gennym opsiynau a chamau addas i'w cynnig a rhaid inni gofio wrth gwrs fod sefyllfa pawb yn wahanol.  Pan fydd rhywun yn ddigartref mae'n rhaid i ni gynnig iddynt y llety gorau posibl a gwasanaeth a fydd o gymorth ac o fudd iddynt.  Credaf y gallwn ni gyd dderbyn bod mewn sefyllfa fel hon o bosibl yn un o'r pethau mwyaf anodd y gall unrhyw un ei wynebu.

Er mwyn egluro mewn termau mwy ymarferol, yn ystod 2017/18, roedd 1700 o ddeiliaid tai wedi cysylltu â ni yn yr adran Dai yn gofyn am gymorth gyda'u sefyllfa.  Cafodd dros 90% ohonynt gymorth i aros lle yr oeddent neu eu symud i leoliad mwy addas.  Mae'n bosibl cyflawni hyn oherwydd rydym wedi rhoi llawer o ymdrech i ailstrwythuro ein cefnogaeth, gan ddarparu opsiynau ac atal digartrefedd.  Mae hyn yn golygu y gall ein staff ymyrryd a rhoi cymorth cyn gynted â phosibl er mwyn atal y sefyllfaoedd hyn rhag gwaethygu.  Mae gennym un man cyswllt ar gyfer y digartref sy'n cynnig cymorth arbenigol ac mae hyn drwy weithio'n agos iawn â'n partneriaid hanfodol megis Shelter a'r Wallich, mae gan y partneriaid hyn swyddogion sy'n gweithio ochr yn ochr â ni yn yr adran Dai yn ein swyddfeydd yn Llanelli.  Nod hyn yw sicrhau bod y wybodaeth a'r cymorth cywir yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl â'r partneriaid perthnasol.  Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu cydweithrediad a'u cyfraniad.  Byddwn wrth gwrs yn trafod hyn ymhellach y prynhawn yma. 

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gynyddu ein stoc tai fforddiadwy gyda thros 500 o dai fforddiadwy ychwanegol.  O fewn dwy flynedd rydym eisoes hanner ffordd tuag at ein targed o 1000 o dai ychwanegol.  Rydym yn llwyddo oherwydd rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud pob dim  o fewn ein gallu i roi cyfle i bobl gael cartref fforddiadwy.  Oherwydd ein bod yn gwbl ymwybodol bod angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrthyf ddiwedd mis Gorffennaf, yn dilyn trafodaethau rhwng Cyrff Llywodraethu Ysgol Tremoilet ac Ysgol Llanmiloe, fod trefniadau anffurfiol yn cael eu rhoi ar waith i ddod â’r disgyblion i un safle yn Llanmiloe ar ddechrau’r tymor hwn.

 

Yn ôl y Rhaglen Moderneiddio Addysg, cynllun yr Awdurdod ar gyfer yr ardal yw bod un ysgol ar gyfer Talacharn.

 

Pryd fydd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn rhoi esboniad llawn i’r rhieni lleol ynghylch y cynlluniau ar gyfer yr ardal, fel nad oes rhagor o blant yn cael eu trosglwyddo gan eu rhieni i ysgolion eraill?”

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y Cynghorydd Bill Thomas a'r Cynghorydd Glynog Davies yn absennol o'r cyfarfod felly byddai'r Cynghorydd Thomas yn derbyn ymateb ysgrifenedig i'w gwestiwn gan y Cynghorydd Davies.

 

7.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANN DAVIES I'R CYNGHORYDD PETER HUGHES GRIFFITHS, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DIWYLLIANT, CHWARAEON A THWRISTIAETH

Roedd twristiaeth yn werth £434 miliwn i economi Sir Gaerfyrddin yn 2017 yn ôl astudiaeth a luniwyd ar gyfer y cyngor sir, sef cynnydd o 7.8% ers y flwyddyn flaenorol

Yn ôl yr ymchwil, cafwyd cyfanswm o 6.39 miliwn o ddiwrnodau ymweld, sef cynnydd o 7.2% ers 2016.  Roedd twristiaeth yn 2017 wedi cefnogi 6,343 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y sir, sef cynnydd o 5.3% ers 2016.  Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwerth twristiaeth i’r sir wedi cynyddu £150 miliwn.

A all yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddweud wrthyf sut y cafwyd y ffigurau gwych hyn a beth yw ei ddisgwyliadau ar gyfer 2018?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Roedd twristiaeth werth £434m i economi Sir Gaerfyrddin yn 2017 yn ôl astudiaeth a baratowyd ar gyfer y Cyngor Sir, cynnydd o 7.8% ar y flwyddyn flaenorol. Yn ôl yr ymchwil cafwyd cyfanswm o 6.39 miliwn o ddiwrnodau ymweld sef cynnydd o 7.2% ers 2016. Roedd twristiaeth yn 2017 wedi cefnogi 6,343 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y sir, sef cynnydd o 5.3% ers 2016.  Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwerth twristiaeth i’r sir wedi cynyddu £150 miliwn. A all yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddweud wrthyf sut y cafwyd y ffigurau gwych hyn a beth yw ei ddisgwyliadau ar gyfer 2018?”

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:-

 

“Mae'r cwestiwn ei hun yn dangos y llwyddiant yn y maes penodol hwn a'r cynnydd a welwyd yn y ffigurau yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy'n credu y gallwn dreulio drwy'r bore mewn gwirionedd yn amlinellu'r rheswm dros y llwyddiant sylweddol hwn. Gallaf ddweud yn gyntaf oll ein bod mor hapus gyda'r llwyddiant hwn, rwy'n eistedd wrth ymyl y Cyng. David Jenkins [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau] ac o safbwynt economaidd gellir canmol hyn a'i weld yn amlwg yn y ffigurau a gafwyd yn y cwestiwn. Felly rydym yn meddwl am y lleoliadau a Sir Gaerfyrddin, Sir sydd yn llawn prydferthwch, sir naturiol hardd, ac yn cynnwys profiadau o fod ar lan y môr neu deithio i'r Bannau. Ac wedyn mae gennym hefyd y trefi a'r pentrefi o bob maint ledled y Sir felly mae  gennym botensial gwych yn ein llefydd penodol yn Sir Gaerfyrddin. Ac yn gysylltiedig â hyn, yn yr ardaloedd hynny, mae gennym ddiwylliant bywiog iawn fel rydym wedi clywed y bore yma ac elfen Gymreig iawn iddi a'r iaith y mae ymwelwyr wrth eu bodd â hi. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi datblygu lleoliadau a llety i bobl sy'n eu denu. Mae gennym ddigwyddiadau sy'n eu denu ar draws y Sir, mae gennym amrywiaeth o leoliadau i bobl fwyta, os ydych am gael picnic neu os ydych am bryd o fwyd pum cwrs, mae popeth yma. Dyna yw'r datblygiadau sydd wedi digwydd a gellir gweld hynny yn glir erbyn hyn ar gyfer y bobl hynny sy'n barod i wario. Ond beth am y bobl? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fod pobl dalentog iawn yn y maes hwn ac mae hynny wedi datblygu hefyd yn ogystal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae pobl wedi addasu ar gyfer twristiaeth yn enwedig yng nghefn gwlad a'r sector amaethyddol i gynnig llety a gwasanaethau. Mae'r agwedd hon heb amheuaeth wedi cyfrannu'n economaidd yn ogystal â'r entrepreneuriaid sydd gennym ar draws y sir yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ac yna mae gennym yr elfen hyrwyddo sef ein bod yn hyrwyddo Sir Gaerfyrddin. Rydym heb amheuaeth wedi dal i fyny a siroedd eraill megis Sir Benfro er enghraifft. Rydym wedi canolbwyntio ar farchnata Sir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.3

8.

YSTRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS

“Mae’r Cyngor hwn yn ychwanegu ei gefnogaeth at Ymgyrch Genedlaethol Deddf Lucy i wahardd ffermio c?n bach gan drydydd parti. Bydd y Cyngor hwn yn ychwanegu ei enw at y rhestr gynyddol o sefydliadau cefnogol a bydd yn mynd ati’n rhagweithiol i dynnu sylw ein preswylwyr ar draws y Sir at yr ymgyrch. Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gefnogi’r galw am gamau gweithredu brys ynghylch y mater hwn.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Tina Higgins:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn ychwanegu ei gefnogaeth at Ymgyrch Genedlaethol Deddf Lucy i wahardd ffermio c?n bach gan drydydd parti. Bydd y Cyngor hwn yn ychwanegu ei enw at y rhestr gynyddol o sefydliadau cefnogol a bydd yn mynd ati’n rhagweithiol i dynnu sylw ein preswylwyr ar draws y Sir at yr ymgyrch. Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gefnogi’r galw am gamau gweithredu brys ynghylch y mater hwn.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

8.2

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD EMLYN SCHIAVONE

“Hoffwn gynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymo i gael ei gydnabod yn ffurfiol fel Sir Garedig. Fel rhan o'r agenda Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ar y cyd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ni fu erioed amser gwell i hyrwyddo cydnerthedd a charedigrwydd yn ein cymunedau.

 

Mae'n cael ei gydnabod yn gyffredinol fod bod yn garedig yn llesol i'r sawl sy'n  garedig, yn ogystal â'r rheiny y maent yn garedig iddynt. Mae'r ysgogiad i hyrwyddo cysylltwyr caredigrwydd yn ein cymunedau yn hynod berthnasol o ran mynd i'r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd; dau beth y derbynnir bellach eu bod yn cyfrannu at iechyd a llesiant gwael.

 

Mae menter Mae Sir Gaerfyrddin yn Garedig yn creu ac yn cryfhau cysylltiadau yn y gymuned. Gellir gwella ar hyn ymhellach drwy ddatblygu sesiynau ymwybyddiaeth o Garedigrwydd a hybu Hyrwyddwyr Sir Gaerfyrddin Garedig.

 

Mae cyflwyno rhagnodwyr cymdeithasol ynghlwm wrth feddygfeydd meddygon teulu yn enghraifft o fynd i'r afael ag anghenion. Yn yr un modd, mae Sefydliad Jo Cox yn cyllido swydd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd drwy wneud pethau caredig yn y gymuned. Gall prosiectau sy'n pontio'r cenedlaethau greu cysylltiadau cadarnhaol rhwng aelodau h?n ac ifanc ein cymunedau.

 

Gofynnaf gyda pharch i'r Cyngor gefnogi'r cynnig hwn.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Emlyn Schiavone:-

 

“Hoffwn gynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymo i gael ei gydnabod yn ffurfiol fel Sir Garedig. Fel rhan o'r agenda Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ar y cyd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ni fu erioed amser gwell i hyrwyddo cydnerthedd a charedigrwydd yn ein cymunedau. Mae'n cael ei gydnabod yn gyffredinol fod bod yn garedig yn llesol i'r sawl sy'n  garedig, yn ogystal â'r rheiny y maent yn garedig iddynt. Mae'r ysgogiad i hyrwyddo cysylltwyr caredigrwydd yn ein cymunedau yn hynod berthnasol o ran mynd i'r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd; dau beth y derbynnir bellach eu bod yn cyfrannu at iechyd a llesiant gwael.

Mae menter Mae Sir Gaerfyrddin yn Garedig yn creu ac yn cryfhau cysylltiadau yn y gymuned. Gellir gwella ar hyn ymhellach drwy ddatblygu sesiynau ymwybyddiaeth o Garedigrwydd a hybu Hyrwyddwyr Sir Gaerfyrddin Garedig.

Mae cyflwyno rhagnodwyr cymdeithasol ynghlwm wrth feddygfeydd meddygon teulu yn enghraifft o fynd i'r afael ag anghenion. Yn yr un modd, mae Sefydliad Jo Cox yn cyllido swydd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd drwy wneud pethau caredig yn y gymuned. Gall prosiectau sy'n pontio'r cenedlaethau greu cysylltiadau cadarnhaol rhwng aelodau h?n ac ifanc ein cymunedau

.

Gofynnaf gyda pharch i'r Cyngor gefnogi'r cynnig hwn.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

8.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES

“Bod y Cyngor hwn yn mabwysiadu polisi sy’n cyflwyno arwyddion yn yr holl fannau wrth ymyl y ffordd a gydnabyddir ar gyfer cadwraeth gan yr Awdurdod Lleol hwn a, lle bynnag y bo’n bosibl, hysbysfyrddau sy’n rhoi gwybodaeth am yr holl fanteision i’r ardal a neilltuir ar gyfer cadwraeth. Hefyd, bod y Cyngor yn mynd at Gynghorau Tref a Chymuned a’u hannog i wneud yr un peth.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn mabwysiadu polisi sy’n cyflwyno arwyddion yn yr holl fannau wrth ymyl y ffordd a gydnabyddir ar gyfer cadwraeth gan yr Awdurdod Lleol hwn a, lle bynnag y bo’n bosibl, hysbysfyrddau sy’n rhoi gwybodaeth am yr holl fanteision i’r ardal a neilltuir ar gyfer cadwraeth. Hefyd, bod y Cyngor yn mynd at Gynghorau Tref a Chymuned a’u hannog i wneud yr un peth."

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau, yn enwedig o ran y goblygiadau ariannol, ac yn dilyn hyn cytunodd y Cynghorydd James, gyda chefnogaeth ei eilydd, i dynnu'r Rhybudd yn ôl a chyfeirio'r mater at Gr?p Gorchwyl a Gorffen presennol y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran adolygu'r ddarpariaeth cynnal a chadw priffyrdd perthi ac ymylon. Yn dilyn hyn byddai argymhellion y Gr?p yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

9.

GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL DRAFFT – CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli. Pe byddai'n cael ei fabwysiadu byddai'r Gorchymyn yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd o fewn ardal ofodol benodol yng nghanol y dref i symud ymlaen heb fod yr angen am ganiatâd cynllunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“9.1 Derbyn y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli;

9.2   Cymeradwyo'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad;

9.3  Cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno;

9.4 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol;

9.5 Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.”

 

10.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

22 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

10.2

2 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

10.3

30 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

11.

YSTYRIED ARGYMHELLAD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATER CANLYNOL:- pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod ar 11 Mehefin, 2018 (cofnod 7), wedi ystyried y mater o symud tuag at system gyfathrebu ddi-bapur gyda'r holl gynghorwyr yn unol â'r Rhybudd o Gynnig a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 14 Ionawr 2015. Yn dilyn hyn:

 

“PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR fod yr Awdurdod yn dechrau mabwysiadu system gyfathrebu ddi-bapur gyda'r holl Gynghorwyr, a fydd ar waith o 1 Ionawr 2019, a bod rhaglen hyfforddiant briodol yn cael ei threfnu cyn y dyddiad hwn.”

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wrth y Cyngor, yn dilyn ei gyfarfod ym mis Mehefin bod nifer o aelodau wedi mynegi pryderon am yr amserlen fer a gynigwyd a'r problemau sydd angen mynd i'r afael â hwy megis band eang gwael mewn rhannau eraill o'r Sir a'r angen am hyfforddiant pellach i rai aelodau. Cafodd rhai o'r pryderon hyn eu hailadrodd gan yr Aelodau ac felly cafodd ei gynnig, a'i eilio, bod y dyddiad a nodir yn yr argymhelliad uchod, o ran dechrau gweithio'n ddi-bapur, yn newid i 2 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD bod yr Awdurdod yn dechrau mabwysiadu system gyfathrebu ddi-bapur gyda'r holl Gynghorwyr, a fydd ar waith o 2 Medi 2019, er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a bod rhaglen hyfforddiant briodol yn cael ei threfnu cyn y dyddiad hwn.

 

12.

CYD-BWYLLGOR DINAS-RANBARTH BAE ABERTAWE - AELODAETH pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid penodi'r aelodau canlynol i wasanaethu ar y Pwyllgor Craffu ar y cyd Dinas-ranbarth Bae Abertawe:

 

Gr?p Llafur – Cynghorydd Rob James

Gr?p Plaid Cymru – Cynghorydd Darren Price

Gr?p Annibynnol – Cynghorydd Giles Morgan

 

13.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD

Yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 4 (2) cyflwynwyd yr enwebiadau canlynol i’r Prif Weithredwr:-

Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen - Gr?p Plaid Cymru

Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn dilyn swydd wag canol tymor ac yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor, benodi'r Cynghorydd Aled Vaughan-Owen yn is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

14.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

14.1 nodi y bydd y Cynghorydd Karen Davies yn ymgymryd â swydd wag gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

 

14.2 nodi y bydd y Cynghorydd Karen Davies yn ymgymryd â swydd wag gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

 

14.3 nodi y bydd y Cynghorydd Susan Phillips yn ymgymryd â swydd wag  gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Trwyddedu;

 

14.4 nodi y bydd y Cynghorydd John Prosser yn cymryd lle'r Cynghorydd Suzy Curry fel un o gynrychiolwyr y gr?p Llafur ar y Pwyllgor Cynllunio;

 

14.5 nodi y bydd y Cynghorydd Andre McPherson yn lle'r Cynghorydd John Prosser fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau