Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 10fed Hydref, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, H.A.L. Evans, A. Fox, C.J. Harris, P.M. Hughes, C. Jones, T.J. Jones, M.J.A. Lewis, S. Najmi a D. Nicholas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.D.T. Speake

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Tudalen 33 – Plant sy'n Derbyn Gofal – yn trafod â swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

K. Madge

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol

B.A.L. Roberts

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Ei mab-yng-nghyfraith yn weithiwr cymdeithasol

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Croesawyd y Cynghorydd Karen Davies gan y Cadeirydd i'w chyfarfod cyntaf o'r Cyngor yn dilyn cael ei hethol yn yr is-etholiad ar gyfer Ward Saron

·        Dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Cynghorydd Hazel Evans a oedd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar

 

·        Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch:

 

Ø  Y Cynghorwyr L. Evans a G. Thomas, ynghyd ag aelodau o deuluoedd cynghorwyr eraill, ar gwblhau Hanner Marathon Caerdydd;

Ø  Dewi Griffiths o Lanfynydd ar orffen Hanner Marathon Caerdydd yn yr amser cyflymaf gan Gymro;

Ø  Adam Price A.C. o Lanegwad ar gael ei ethol yn Arweinydd Cenedlaethol newydd Plaid Cymru

 

·        Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys:

 

Ø  Dadorchuddio ffenestr wydr liw yn Ysgol Llansteffan;

Ø  Dathlu 20 mlynedd Band Cymunedol Nantgaredig;

Ø  The Friends of Loud Applause Rising Stars;

Ø  Cystadlaethau Chwyrlïo Baton Cymru yng Nghydweli;

Ø  Dathlu 150 mlynedd Capel Saron Llanarthne;

Ø  Digwyddiad gan y Ffermwyr Ifanc i ddynodi ymddeoliad trefnydd y sir, Eirios Thomas.

·        Soniodd y Cadeirydd mai 10 Hydref oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd bob blwyddyn, ac mai'r amcan cyffredinol oedd codi materion iechyd meddwl o gwmpas y byd ac ysgogi ymdrechion i gefnogi iechyd meddwl.

·        Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y drasiedi ddiweddar yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, gan ganmol staff y Cyngor am y cymorth roeddent wedi ei roi i bawb yr oedd hynny wedi effeithio arnynt. Roedd y Cyngor hefyd yn cydweithio'n agos â'r Heddlu yn ei ymchwiliadau.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 12FED MEDI, 2018. pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 12 Mawrth, 2018 yn gywir, yn amodol ar newid datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd T.A.J. Davies yng nghofnod 2 i enw'r Cynghorydd B.D.J. Philips.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS YR AMGYLCHEDD

“Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i sicrhau bod datblygwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau o ran sicrhau bod ffyrdd ar ystadau newydd yn cyrraedd y safon er mwyn i'r Cyngor eu mabwysiadu?"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd, gan nad oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, sef y Cynghorydd Hazel Evans, yn bresennol yn y cyfarfod, byddai'r  Cynghorydd Higgins yn cael ymateb ysgrifenedig i'w chwestiwn.

 

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BETSAN JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Flwyddyn yn ôl roedd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru yn cael eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Cafodd staff yn y sefydliadau hyn dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

 

Cafodd chwech o'r gwobrau eu hennill gan ysgolion Sir Gaerfyrddin – mwy nag unrhyw gyngor sir unigol arall. 

 

Yr ysgolion oedd:

 

Ysgol Bryngwyn, Ysgol Heol Goffa, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Gynradd y Bynie, Ysgol Gynradd Parcyrhun ac Ysgol Gynradd Saron.

 

A allwn ni ddisgwyl gweld ysgolion o'r sir hon yn cael eu cydnabod yn y seremoni eleni?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Flwyddyn yn ôl cafodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Derbyniodd staff o'r sefydliadau hyn dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

 

Cafodd chwech o'r gwobrau eu hennill gan ysgolion Sir Gaerfyrddin – mwy nag unrhyw gyngor sir unigol arall, sef: 

 

Ysgol Bryngwyn, Ysgol Heol Goffa, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Gynradd y Bynea, Ysgol Gynradd Parcyrhun ac Ysgol Gynradd Saron.

 

A oes disgwyl y bydd ysgolion o'r sir hon yn cael eu cydnabod yn y seremoni eleni?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Betsan Jones am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn amserol iawn oherwydd bydd Estyn yn cynnal ei seremoni ar gyfer 2017/18 i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant ddydd Gwener hyn. Fel y dywedoch Bethan, roedd y llynedd yn flwyddyn wych i ni gan fod chwe ysgol yn Sir Gâr wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled, a hefyd sylwch, am safon uchel yr arweinyddiaeth. Mae hwn yn rhywbeth sy'n ddisgwyliedig gennym mewn ysgolion bellach, ac mae angen gweledigaeth glir arnom hefyd, yn ogystal ag ymrwymiad i wella. Dyna beth sy'n mynd i godi'r safonau yn ein hysgolion, a dyna pam y cafodd yr ysgolion hyn eu cydnabod. Dyma'r hyn sydd ei angen ym mhob ysgol er mwyn i ni wella safonau addysg ac ennill rhagoriaeth yn dilyn arolygiad. Cafodd 34 o ysgolion eu cydnabod ac roedd chwech ohonynt o Sir Gaerfyrddin, ac mae hynny'n dipyn o glod inni fel sir. Rydym yn siarad am ragoriaeth fan hyn, felly beth yw'r rhagoriaeth hon? Bydd Estyn yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill a gafodd ragoriaeth mewn tri maes arolygu penodol. Dyna'r hyn sy'n rhoi'r statws rhagoriaeth hwn iddynt. Maent wedi cael rhagoriaeth mewn tri maes arolygu neu fwy yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18, a phleser gennyf yw dweud y bydd gan Sir Gaerfyrddin bedwar cynrychiolydd yn y digwyddiad ddydd Gwener, sef pedair ysgol unwaith eto. Ni fyddai'n briodol i mi gyhoeddi heddiw pwy yw'r ysgolion hynny sy'n mynd i gael cydnabyddiaeth, ond mae'r Cyfarwyddwr Addysg a minnau wedi eu llongyfarch ar eu llwyddiant, ac mae'r ffaith bod pedair ysgol yn cael eu cydnabod yn genedlaethol unwaith eto yn golygu ein bod yn cynnal y safonau uchel wrth gwrs.  Nid mater bach yw sicrhau rhagoriaeth, ac mae'n briodol ein bod yn parchu ein penaethiaid, sy'n gweithio'n hynod o galed, a'u staff am y gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu hysgolion. Maent yn gwneud ymrwymiad i blant a phobl ifanc ac maent yn sicrhau bod cyfleoedd rhagorol i'r rheiny sy'n derbyn addysg. Hoffwn hefyd ddiolch i lywodraethwyr ysgolion a rhieni, ac mae llawer ohonoch yma yn llywodraethwyr eich hunain, ac yn rhieni yn ogystal o bosibl. Felly diolch i chi am eich cefnogaeth. Gaf i hefyd ddiolch i staff y Cyngor, yn enwedig rhai'r Adran Addysg, am eu cefnogaeth ddiflino i'n hysgolion. Rwyf am gyfeirio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

6.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DORIAN WILLIAMS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

Roedd y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a grëwyd gan y weinyddiaeth hon yn 2016 yn pennu targed clir ac uchelgeisiol iawn, sef darparu mwy na 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Pa gynnydd a wnaed hyd yma?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Bu i'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a sefydlwyd gan y weinyddiaeth hon yn 2016 bennu targed clir ac uchelgeisiol iawn o ddarparu mwy na 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Williams am eich cwestiwn. Mae'n gwestiwn perthnasol iawn, ac mae'n rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud (ac a fydd yn dal i gael ei wneud) i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y sir.

 

Yn ôl yn 2016 pennwyd targed uchelgeisiol gan y weinyddiaeth hon i ddarparu mwy na 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Erbyn hyn mae dwy flynedd ers cychwyn y rhaglen, ac, yn ogystal â bod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed, rwyf yn falch iawn o allu dweud ein bod yn hyderus y bydd nifer y tai newydd yn sylweddol uwch na'r hyn fwriadwyd gennym i ddechrau. Rwyf yn hyderus y gallwn ddarparu mwy o ddewis drwy gynyddu nifer yr opsiynau ar gyfer rhentu cartrefi a chartrefi sydd ar werth ar draws y sir. Hyd yma, rydym wedi darparu bron 550 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir, gan wneud hynny drwy brynu tai yn y sector preifat, ailddechrau defnyddio eiddo gwag, a rheoli cartrefi rhent preifat ychwanegol ar gyfer landlordiaid, cartrefi newydd drwy weithio gyda chymdeithasau tai a chartrefi fforddiadwy fel rhan o ddatblygiadau mwy. Dros y tair blynedd nesaf, ein bwriad yw darparu 700 yn rhagor o dai drwy ddefnyddio'r dulliau hyn. Rwyf yn si?r eich bod wedi sylwi nad yw'r ffigurau hyn yn cynnwys ein cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd, ond gallaf eich sicrhau bod y datblygiadau hyn yn mynd rhagddynt. Bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar safle Garreglwyd ym Mhen-bre dros yr wythnosau/misoedd nesaf a bydd datblygiad Dylan, yn y Bryn yn dilyn cyn Nadolig. Bydd y datblygiadau hyn yn darparu bron 50 o dai cyngor newydd i'w rhentu. Rwyf yn si?r bod rhai ohonoch chi, fel Aelodau, wedi clywed yn ddiweddar am y bwriad i lacio rheolau'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae hyn yn golygu y byddwn o bosibl yn gallu cael benthyg mwy o arian i adeiladu mwy o dai cyngor. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn datblygu rhaglen uchelgeisiol i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar hyn, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi manylion y rhaglen honno i chi yn y Cyngor. Bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi creu cwmni tai newydd, sef Cartrefi Croeso. Bydd pum cant o dai yn cael eu darparu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r cwmni eisoes wedi paratoi cynlluniau mewn saith lleoliad gan gynnwys datblygiadau mewn ardaloedd gwledig. Bydd y cwmni yn darparu ystod o opsiynau, a fydd yn addas i anghenion yr ardal. Un enghraifft yw tai mewn ardaloedd gwledig a fydd yn fforddiadwy i'w prynu, er mwyn helpu pobl leol i aros yn eu hardaloedd lleol. Mae'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.3

7.

YSTRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

“Rydym yn galw ar y Cyngor i gefnogi a hyrwyddo’r ymgyrch i drechu tlodi misglwyf yn Sir Gaerfyrddin”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:

 

“Rydym yn galw ar y Cyngor i hyrwyddo'r ymgyrch i drechu tlodi misglwyf yn Sir Gaerfyrddin”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

7.2

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS

Mae Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) yn gorff rhynglywodraethol sy'n ceisio ennyn cefnogaeth wleidyddol a chefnogaeth arweinwyr cymdeithasol i'r angen i gofio'r Holocost, ac am addysg ac ymchwil yr Holocost.  Sefydlwyd yr IHRA gan Göran Persson, cyn-Brif Weinidog Sweden, yn 1998. Ei nod oedd sefydlu sefydliad rhyngwladol a fyddai'n ehangu addysg yr Holocost ledled y byd a chynnal fforwm rhyngwladol o lywodraethau oedd â diddordeb mewn trafod addysg yr Holocost.  Roedd cynrychiolwyr o 46 o lywodraethau yn bresennol yn y Fforwm a gynhaliwyd yn Ionawr 2000.

 

Lluniwyd Datganiad Fforwm Rhyngwladol Stockholm ar yr Holocost yn sgil trafodaethau'r Fforwm ac mae'n sylfaen i Gynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost. Mae'n ceisio cydnabod maint effaith yr Holocost ac yn cynnwys addewidion i gryfhau'r ymdrechion i hyrwyddo cofio, addysg ac ymchwil.

 

Cefnogir diffiniad yr IHRA gan brif gyrff cynrychiadol y Gymuned Iddewig, gan gynnwys Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, y Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig a'r Gyngres Iddewig Ewropeaidd ynghyd â nifer o awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig.

 

Cynigiaf felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

1         yn mabwysiadu Datganiad Stockholm ar Wrth-Semitiaeth:

 

“Gwrth-Semitiaeth yw canfyddiad penodol o Iddewon, y gellid ei fynegi'n gasineb tuag at Iddewon. Mae amlygiadau corfforol a rhethregol gwrth-Semitiaeth yn cael eu cyfeirio at unigolion sy'n Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo, at sefydliadau'r gymuned Iddewig a chyfleusterau crefyddol.” ac

 

2        yn addo cryfhau’r ymdrechion i hyrwyddo cofio'r Holocost drwy addysg ac ymchwil.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Edward Thomas:

 

“Mae Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) yn gorff rhynglywodraethol sy'n ceisio ennyn cefnogaeth wleidyddol a chefnogaeth arweinwyr cymdeithasol i'r angen i gofio'r Holocost, ac am addysg ac ymchwil yr Holocost.  Sefydlwyd yr IHRA gan Göran Persson, cyn-Brif Weinidog Sweden, yn 1998. Ei nod oedd sefydlu sefydliad rhyngwladol a fyddai'n ehangu addysg yr Holocost ledled y byd a chynnal fforwm rhyngwladol o lywodraethau oedd â diddordeb mewn trafod addysg yr Holocost.  Roedd cynrychiolwyr o 46 o lywodraethau yn bresennol yn y Fforwm a gynhaliwyd yn Ionawr 2000.

 

Lluniwyd Datganiad Fforwm Rhyngwladol Stockholm ar yr Holocost yn sgil trafodaethau'r Fforwm ac mae'n sylfaen i Gynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost.  Mae'n ceisio cydnabod maint effaith yr Holocost ac yn cynnwys addewidion i gryfhau'r ymdrechion i hyrwyddo cofio, addysg ac ymchwil.

 

Cefnogir diffiniad yr IHRA gan brif gyrff cynrychiadol y Gymuned Iddewig, gan gynnwys Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, y Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig a'r Gyngres Iddewig Ewropeaidd ynghyd â nifer o awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig.

 

Cynigiaf felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

1                  yn mabwysiadu Datganiad Stockholm ar Wrth-Semitiaeth:

 

“Gwrth-Semitiaeth yw canfyddiad penodol o Iddewon, y gellid ei fynegi'n gasineb tuag at Iddewon. Mae amlygiadau corfforol a rhethregol gwrth-Semitiaeth yn cael eu cyfeirio at unigolion sy'n Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo, at sefydliadau'r gymuned Iddewig a chyfleusterau crefyddol.” ac

 

2            yn addo cryfhau'r ymdrechion i hyrwyddo cofio'r Holocost drwy addysg ac ymchwil”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

(SYLWER: Ar ddiwedd yr eitem hon, safodd y Cyngor am funud o dawelwch er cof am y bachgen fu farw mor drasig yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli)

 

8.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2017/18 pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, B.A.L. Roberts ac A.D.T. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18, ac wedi argymell ei gymeradwyo. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol  y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18”

 

8.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2018 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, er bod yr Adroddiad Drafft cychwynnol wedi cael ei ystyried drwy ei broses wleidyddol drwy gyfrwng y Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau Craffu ym mis Mehefin/Gorffennaf 2018, nid oedd yn cynnwys data ar Ganlyniadau Cymru Gyfan na rhai o ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol, nad oeddent ar gael tan fis Medi 2018. Roedd y wybodaeth honno wedi dod i law erbyn hyn ac wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor ar gyfer ei ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18”.

 

8.3

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2017/18 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2018 (gweler Cofnod 8) wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2018

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“bod y Cyngor yn cael ac yn derbyn cynnwys y trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2018;

 

Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol”.

 

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 24AIN MEDI, 2018 pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Medi 2018.