Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 13eg Mehefin, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Evans, D. Harries, J. Jones, S. Najmi a G. Thomas

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M.J.A. Lewis

8.1 – Y Fersiwn Ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol – Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Mae ganddi dyrbinau gwynt ar ei thir

M.J.A. Lewis

8.2 – Newid enwau Cyngor Cymuned Tre-lech a Chyngor Cymuned Cwarter Bach

Mae ei g?r yn aelod o Gyngor Cymuned Tre-lech

Glynog Davies

8.2 – Newid enwau Cyngor Cymuned Tre-lech a Chyngor Cymuned Cwarter Bach

Aelod o Gyngor Cymuned Cwarter Bach

H.A.L. Evans

8.5 – Cartrefi Croeso Ltd – Gofynion Ariannu, Penodi Cyfarwyddwyr a dirprwyo materion Cytundeb y Cyfranddalwyr

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin

H.B. Shepardson

8.7 – Y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11

Personol – Un o lywodraethwyr yr ysgol

A Vaughan Owen

8.1 – Y Fersiwn Ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol – Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Mae'n gweithio yn y sector ynni

A Vaughan Owen

8.6 – Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gymunedol Gors-las o 4-11 i 3-11

Aelod o Gyngor Cymuned Gors-las ac ynghlwm wrth werthu'r tir i'r Cyngor Sir

K. Madge

7.1 – Rhybudd o Gynnig a Gyflwynwyd gan y Cynghorydd K. Lloyd

Mae ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

J.D. James

8.7 – Y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11

Un o lywodraethwyr yr ysgol

A Fox

8.7 – Y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11

Un o lywodraethwyr yr ysgol

D. Price

8.6 – Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gymunedol Gors-las o 4-11 i 3-11

Aelod o Gyngor Cymuned Gors-las ac ynghlwm wrth werthu'r tir i'r Cyngor Sir

B. Jones

8.7 – Y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11

Mae ei mab yn athro ym Mharc y Tywyn

J. Morgan – Cyfarwyddwr yr Adran Cymunedau

8.5 – Cartrefi Croeso Ltd – Gofynion Ariannu, Penodi Cyfarwyddwyr a dirprwyo materion Cytundeb y Cyfranddalwyr

Un o Gyfarwyddwyr y Cwmni

W. Walters – y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi

8.5 – Cartrefi Croeso Ltd – Gofynion Ariannu, Penodi Cyfarwyddwyr a dirprwyo materion Cytundeb y Cyfranddalwyr

Un o Gyfarwyddwyr y Cwmni

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cydymdeimlwyd â theulu'r diweddar Gynghorydd Alun Davies.

Cododd holl aelodau'r Cyngor i gofio'n dawel am y Cynghorydd Davies ac wedi hynny cafwyd teyrngedau gan y Cynghorwyr E. Dole, L.M. Stephens a K. Madge ar ran pob plaid wleidyddol.

 

Cydymdeimlwyd â'r cyn-Gynghorydd Sir, D. Williams, ar farwolaeth ei wraig.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i:-

·        Meinir Lloyd o Gaerfyrddin (adnabyddir hi hefyd fel Meinir Hughes Griffiths) a fydd yn derbyn Medal T.H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol

·        Y bobl ganlynol a fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol:

-        Elaine Edwards, Caerfyrddin – cyn-lywydd UCAC

-        Huw Edwards, Llangennech – Darlledwr

-        Margarette Hughes – Hendy-gwyn ar Daf – ei chyfraniad i'r Gymraeg a'r diwylliant

-        Eric Jones – Pencader – Stiward ac Arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd er 1984

-        Dr Rhys Thomas – New Inn Llandeilo – cyfraniad i feddygaeth

-        Rosemary Williams – Crucywel – (o Landeilo'n wreiddiol) – cyfraniad at y Gymraeg a'r diwylliant yn ardal y Fenni.

·        Y bobl ganlynol sydd wedi cael cydnabyddiaeth Frenhinol:

-        Yr MBE

Dr Gareth Collier – Dryslwyn – Meddyg Ymgynghorol yr Anadl yn Ysbyty Glangwili am ei wasanaeth i drin canser yr ysgyfaint yng Nghymru;

 

Tracy Pike – Llanelli – Prif Weithredwr Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin – Gwasanaeth i bobl ifanc (Llanelli);

 

Michael James Worthington Williams, Cenarth am ei wasanaeth i'r diwydiant moduro;

 

-        Medal yr Ymerodraeth Brydeinig – BEM

William Henry Gerwyn Jenkins, Llanelli am ei wasanaeth i'r Samariaid yn Abertawe

 

·        Tafarn y Cottage ger Llandeilo ar ennill gwobr 'Tafarn y Flwyddyn' y  Gynghrair Cefn Gwlad

·        Ysgol Gymraeg Brynsierfel, sef yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i gael Gwobr Arian y Siarter Iaith

·        Staff yr Adran Gynllunio am ennill gwobr ‘Rhagoriaeth wrth gynllunio ar gyfer yr Amgylchedd Naturiol’ yng ngwobrau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a hynny yn achos Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr – y Canllawiau Cynllunio Atodol a Phrosiect Britheg y Gors.

·        Y Cynghorydd Ann Davies ar gael Gradd Meistr mewn Addysg ac ar gael ei phenodi'n ddarpar Gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer o ddigwyddiadau yr oedd wedi'u mynychu ers dechrau ar ei gyfnod yn y swydd, yn enwedig Ras Goffa Robert Hobbs yng Nghaerfyrddin a enillwyd gan Marcin Bia?ob?ocki o Wlad Pwyl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol yn ei Wasanaeth Dinesig diweddar lle codwyd dros £1,000 i'w elusennau – Ambiwlans Awyr Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru.

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wybod i'r Cyngor am y cyhoeddiad diweddar y byddai Sir Gaerfyrddin yn cynnal Grand Départ ras feicio Taith Prydain OVO Energy 2018 a fydd yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn ymlwybro drwy Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i Gasnewydd.  Cyfeiriodd at yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir i nodi'r digwyddiad ac anogodd bob cymuned, yn enwedig y rheiny y bydd y daith yn mynd trwyddynt, i nodi'r digwyddiad yn yr un modd ac i arddangos Sir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

4.1

18FED EBRILL, 2018 pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2018 yn gywir.

 

4.2

16EG MAI, 2018 pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 16 Mai, 2018 yn gywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB EVANS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Hoffwn ddechrau drwy ganmol ansawdd uchel y staff addysgu a'r Corff Llywodraethu yn Ysgol Dafen. Rwy'n falch o gael siarad ar eu rhan nhw ac, yn bwysicach, ar ran y plant.  

 

Ymwelais ag Ysgol Dafen yn ddiweddar a gwelais fod nifer o broblemau a phryderon yn ymwneud â'r adeilad Meithrin.

 

Mae'r adeilad ei hun yn cynnwys asbestos ac mae 30 o blant yn cael eu dysgu yno bob dydd. Nid oes digon o le na chypyrddau yn yr adeilad. Nid oes dim toiled i'r staff felly ni all y staff adael y plant i fynd i'r toiled ac mae'r toiled agosaf ym mhen arall yr ysgol.  Hefyd mae'r hyn a elwir yn gegin yn gyfyng iawn, ac mae'r drysau'n hongian oddi ar y bachau. Pan gaiff y rheiddiaduron eu defnyddio mewn tywydd oer mae'r ffenestri yn torri yn rheolaidd. Y tu allan i'r adeilad mae d?r yn crynhoi yn yr iard oherwydd yr hen ddraeniau.

 

Nid yw'r adeilad Meithrin yn addas i'r diben.

 

O gofio'r angen am ragor o leoedd mewn ysgolion yn Llanelli, oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i ddymchwel yr adeilad hwn ac adeiladu cyfleuster pwrpasol yn ei le neu ddarparu adeiladau dros dro ar gyfer holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen? Yn realistig, dylai Ysgol Dafen gael adeilad newydd er mwyn i'r plant bach gael cyfleusterau sy'n addas i'r 21ain ganrif ac nid yr hen adeilad hwn a godwyd yn yr 1970au.

 

Oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion, erbyn hyn mae mwy o blant yn yr ysgol na chapasiti'r Awdurdod Lleol. Yn y prif adeilad, er cryn fraw i mi, dysgir y plant ar lwyfan yr ysgol ac mewn dwy ystafell gotiau.  Mae'r llyfrgell bellach yn neuadd yr ysgol.  Er gwaethaf ymdrechion y staff i geisio gwneud y mannau hyn yn ddeniadol, nid yw hyn yn hwyluso dysgu effeithiol.

 

Mae to'r ysgol a'r peipiau glaw haearn bwrw a'r wynebfyrddau yn dyddio o gyfnod cyn y rhyfel, sef o'r adeilad gwreiddiol a godwyd yn 1938, ac mae gwir angen eu hadnewyddu. Mae Man Dysgu ac Addysgu y tu allan a ddefnyddir bob dydd ac oherwydd nad yw'r peipiau glaw o'r to yn cysylltu â'r draeniau, os ydych yn ddigon anffodus i fod yn rhy agos atynt cewch gawod oer yn yr awyr agored. Hefyd mae rhannau o'r lle chwarae sy'n beryglon baglu o hyd ac mae angen eu hatgyweirio.

 

Mae dwy ystafell ddosbarth sy'n wynebu'r ardal allanol hon ac yn 2016 dywedodd pensaer oedd yn ymweld â'r ysgol y byddai'n hawdd gosod drysau patio yn y waliau presennol ond mae hyn wedi syrthio ar glustiau byddar. Nododd Estyn a dim llai na 4 ymgynghorydd ERW fod y mynediad hwn at y man dysgu y tu allan yn broblem.

 

Yn Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd eleni mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dathlu llwyddiannau adeiladu cynifer o adeiladau ysgol newydd gwych.

 

Nid oes neb yn gofyn am ysgol newydd ar hyn o bryd.  Ond pan welaf ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen mewn adeilad mor gywilyddus o adfeiliedig rwy'n ei chael  ...  view the full Agenda text for item 6.1

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd R. Evans wybod ei fod yn tynnu ei gwestiwn yn ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cwestiwn wedi cael ei dynnu yn ôl.

 

7.

YSTRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR KEN LLOYD

Yn unol ag Amcan Llesiant 10 y Cyngor,

 

‘Heneiddio’n Dda - Cefnogi'r nifer cynyddol o bobl h?n er mwyn iddynt gadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio’

 

gofynnwn i’r Cyngor ymchwilio i ymarferoldeb gwneud Sir Gaerfyrddin yn sir sy’n cefnogi pobl â dementia, yn unol â rhaglen Cymdeithas Alzheimer, Cymunedau sy’n Cefnogi Pobl â Dementia. Gan fod poblogaeth y sir yn heneiddio a bod ffocws cynyddol ar ofal a thriniaeth yn y gymuned, yn hytrach nag yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, mae mwy o bobl yn byw â dementia yn ein cymunedau yn Sir Gaerfyrddin; felly mae angen inni benderfynu beth yw ystyr ‘cefnogi pobl â dementia’ a beth yw’r prif feysydd ar gyfer gweithredu wrth weithio i wireddu Sir Gaerfyrddin sy’n cefnogi pobl â dementia”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ken Lloyd:

 

“Yn unol ag Amcan Llesiant 10 y Cyngor

 

‘Heneiddio'n Dda – Cefnogi'r nifer gynyddol o bobl h?n er mwyn iddynt gadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio’

 

gofynnwn i'r Cyngor edrych ar y posibilrwydd o wneud Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n cefnogi pobl â dementia yn debyg i raglen y Gymdeithas Alzheimer - Cymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia. Rhwng bod poblogaeth fwyfwy hen yn y sir a bod pwyslais cynyddol ar ofal a thriniaeth yn y gymuned yn hytrach nag mewn ysbyty neu gartref gofal, mae mwy o bobl yn byw yn ein cymunedau yn Sir Gaerfyrddin â dementia; felly mae angen inni nodi beth yn union yw 'cefnogi pobl â dementia' a beth yw'r meysydd allweddol ar gyfer gweithredu wrth weithio tuag at Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi pobl â dementia.” 

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

7.2

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod o'r diwedd nad yw Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gallu ymdopi â'r heriau y mae'n eu hwynebu a bod y sefyllfa bellach yn anghynaliadwy. Er y cafwyd rhywfaint o gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, mae gwasanaethau allweddol wedi mynd yn fwyfwy bregus ac mae cwestiynau yn cael eu holi ynghylch diogelwch cleifion.

Byddai gofal cymunedol gwirioneddol integredig yn ffordd effeithiol o leddfu llawer o'r pwysau sydd ar ein hysbytai ond, er bod consensws o blaid y newid hwn, cafwyd symudiad rhwystredig o araf i'r cyfeiriad hwn.

 

Nid yw strwythurau rheoli ar wahân yn cefnogi dull integredig o'r fath ac, fel y profwyd, ni all awdurdodau iechyd nac awdurdodau lleol gyflawni newid i'r graddau sydd eu hangen ar eu pennau eu hunain. 

 

Er mwyn gwireddu gofal integredig, rhaid cynyddu'r gallu ym meysydd gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yn sylweddol, a rhaid iddynt weithio'n ddi-dor ar draws ffiniau. Byddai timau gofal iechyd sylfaenol ac iechyd y cyhoedd integredig, sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o weithwyr proffesiynol clinigol, anfeddygol a gofal cymdeithasol, mewn sefyllfa lawer gwell i fynd i'r afael â'r heriau yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio na natur anghyson y trefniadau sefydliadol presennol. 

 

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth iechyd a gofal cymunedol, sy'n gyfrifol am ddarparu model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd a gofal ar draws ardal Hywel Dda, a'i reoli'n gyffredinol. Byddai'r gwasanaeth yn atebol yn ddemocrataidd i'r etholwyr drwy'r tri awdurdod lleol ac i'r bwrdd iechyd a fyddai'n cadw cyfrifoldeb statudol am ei swyddogaethau a'i staff”.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gareth John:

 

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod o'r diwedd fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn methu ymdopi â'r heriau y mae'n eu hwynebu a bod ei sefyllfa bellach yn anghynaladwy. Serch y bu cyllid ychwanegol gan y llywodraeth, mae'r gwasanaethau allweddol wedi mynd yn gynyddol fregus, sy'n bwrw amheuaeth ar ba mor ddiogel yw'r cleifion.

 

Byddai gofal cymunedol integredig yn ffordd effeithiol o leddfu llawer o'r pwysau ar ein hysbytai, ond er gwaetha'r consensws o blaid y newid hwn bu'r symud tuag ato yn rhwystredig o araf.

 

Nid yw strwythurau rheoli ar wahân yn cefnogi dull integredig o'r fath ac, fel y profwyd, ni all maes Iechyd na'r awdurdodau lleol gyflawni'r newid sydd ei angen ar eu pen eu hunain.

 

Er mwyn gwireddu gofal integredig, rhaid cynyddu'r gallu yn sylweddol ym meysydd gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol, a rhaid iddynt weithio'n hwylus ar draws ffiniau. Byddai timau gofal iechyd sylfaenol a thimau iechyd y cyhoedd integredig, sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o weithwyr proffesiynol clinigol, anfeddygol a gofal cymdeithasol, mewn sefyllfa lawer gwell i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio na natur anghyson y trefniadau sefydliadol presennol. 

 

Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i greu gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymunedol a fyddai'n darparu ac yn rheoli model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd a gofal ledled ardal Hywel Dda.
 Byddai'r gwasanaeth yn atebol yn ddemocrataidd i'r etholwyr drwy'r tri awdurdod lleol ac yn atebol i'r bwrdd iechyd a fyddai'n cadw'r cyfrifoldeb statudol am ei swyddogaethau a'i staff.”

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd R. James ac fe'i heiliwyd:

 

“Dileu paragraffau 1 i 4 a rhoi'r canlynol yn eu lle:

 

Ar 26 Mawrth, pleidleisiodd y Bwrdd Gweithredol yn unfrydol dros drefniadau rhanbarthol newydd ar gyfer y cronfeydd ar y cyd a Chynllun Ardal Gorllewin Cymru 2018-23 i ddarparu gwasanaethau di-dor rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mae nifer o heriau ynghlwm wrth ofal sylfaenol yng Ngorllewin Cymru, oherwydd mesurau cyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghyd â tharged mudo'r Prif Weinidog o ran gweithwyr medrus sy'n effeithio ar ein gallu i recriwtio, ac mae angen inni sicrhau bod byrddau iechyd yn y sefyllfa orau posibl i ymdrin â'r heriau hyn.

 

Ym mharagraff 5, dileu'r hyn sy'n dilyn 'Felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i' a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

Cynnal adolygiad brys i asesu gallu pob bwrdd iechyd i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru”.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith roi cyngor cyfreithiol am y newid a rhoddodd wybod nad newid oedd hwn yn ei barn hi a'i fod, i bob diben, yn gynnig ynddo'i hun.

 

Ar ôl ystyried y cyngor, barnodd y Cadeirydd fod y gwelliant yn amhriodol ac nad oedd modd ei dderbyn.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.2

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

Y FERSIWN DRAFFT O'R CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL – YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr M.J.A Lewis ac A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 30 Ebrill, 2018 (gweler Cofnod 9) wedi ystyried adroddiad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ynghylch Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul a baratowyd i ategu ac ymhelaethu polisïau a darpariaethau Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin cyn iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol, gan adlewyrchu'r ymrwymiad a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:

 

“ cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol a nodir yn yr adroddiad yn destun ymgynghori cyhoeddus ffurfiol am chwe wythnos;

 

Cymeradwyo cyhoeddi'r Canllawiau o ran Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar Amwynder Gweledol a Thirwedd a'r Astudiaethau Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd fel dogfennau ategol i'r Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sydd ar ddod;

 

awdurdodi'r Pennaeth Cynllunio i gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach.”

 

 

8.2

NEWID ENW CYNGOR CYMUNED TRE-LECH AC ENW SAESNEG CYNGOR CYMUNED CWARTER BACH pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Davies a M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt barhau yn Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 30 Ebrill, 2018 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried adroddiad ar geisiadau a gafwyd gan glercod Cyngor Cymuned Cwarter Bach a Chyngor Cymuned Tre-lech i newid yr enwau i Gyngor Cymuned Cwarter Bach (yn y Saesneg) a Chyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor

 

“ei fod yn cymeradwyo newid enwau Cyngor Cymuned Cwarter Bach (yn y Saesneg) o Quarter Bach Community Council i Cwarter Bach Community Council  a Chyngor Cymuned Tre-lech i Gyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws.”

 

8.3

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar sefydlu'n ffurfiol Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig.

 

Atgoffwyd y Cyngor ei fod eisoes, ar y cyd â thri awdurdod lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Benfro, wedi llofnodi Cytundeb y Fargen Ddinesig (Penawdau'r Telerau) - sy'n werth cyfanswm o £1.3bn - a oedd wedi'i lofnodi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2018. Wedi hynny roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn gweithredu ar ffurf gysgodol ac roedd yr adroddiad cyfredol yn nodi fframwaith cyfreithiol y Cyd-bwyllgor gan ymgorffori trefniadau llywodraethu a ffrydiau cyllido cysylltiedig i'r Cyngor eu cymeradwyo. Os byddai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, nodwyd y byddai angen hefyd i'r tri awdurdod lleol arall ei gymeradwyo a hynny erbyn diwedd Gorffennaf 2018.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cyfeiriwyd at ran 5.0 ohono a oedd yn ymwneud ag aelodaeth y Cyd-bwyllgor, sef 12 aelod, tri o bob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan ohono. Gofynnwyd am sicrwydd – ac fe'i rhoddwyd – y byddai cynrychiolaeth Sir Gaerfyrddin ar y Cyd-bwyllgor yn wleidyddol gytbwys gydag un aelod o bob gr?p gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:

 

“Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r trefniadaeth llywodraethu cysylltiedig;

Cymeradwyo Cytundeb Drafft y Cyd-bwyllgor a dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, a fyddai'n ymgynghori â'r Arweinydd, i wneud newidiadau bychain ac angenrheidiol i'r Cytundeb, gyda sêl bendith yr awdurdodau partner a llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru, i gwblhau'r Cytundeb;

Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

Cymeradwyo'r cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfrannu £50k y flwyddyn dros 5 mlynedd i dalu am gostau swyddogaethau'r Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen, y Cyd-bwyllgor Craffu, y Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol a chymeradwyo'r egwyddor bod rhagor o gyllid yn cael ei ddarparu sy'n cyfateb i frigdoriad o 1.5% o ddyraniad ariannol y Fargen Ddinesig. Dirprwyo'r gwaith o gytuno ar sylfaen y ddarpariaeth ariannu hon i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau;

Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol (Swyddog Adran 151) i archwilio a gweithredu'r benthyciad cymesur mwyaf priodol i ariannu'r prosiectau rhanbarthol a gyflwynir yn ardal y Cyngor;

Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i drafod â'i gyd-gyfarwyddwyr y dyraniad mwyaf priodol o ran cadw trethi annomestig rhanbarthol yn achos yr 11 prosiect.”

 

 

8.4

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried Strategaeth Gorfforaethol ddrafft newydd y Cyngor ar gyfer 2018-23.  Os caiff ei fabwysiadu gan y Cyngor bydd yn cymryd lle'r Strategaeth bresennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:

 

-  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

-  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009;

-  yr Amcanion Llesiant , fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – nid oedd angen i'r rhain newid bob blwyddyn, na gorfod eu rhoi ar waith o fewn blwyddyn, ac roedd yn hollol gymwys gosod amcanion sy'n para mwy na blwyddyn;

  prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf”.

 

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Cyflwyno Strategaeth Gorfforaethol newydd i gymryd lle'r Strategaeth Gorfforaethol bresennol a gyhoeddwyd yn 2015, er mwyn cynnwys yr Amcanion Llesiant a'r Amcanion Gwella ac ymgorffori'r prosiectau a'r rhaglenni allweddol a nodir yn Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf;

Cadw'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 ynghyd ag amcan ychwanegol ynghylch Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau”.

 

 

8.5

CARTREFI CROESO CYF GOFYNION ARIANNU, PENODI CYFARWYDDWYR A DIRPRWYO CYTUNDEB CYFRANDDALIWR pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

·        Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

·        Roedd Jake Morgan y Cyfarwyddwr Cymunedau a Wendy Walters y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried adroddiad ar benderfyniad blaenorol y Cyngor i sefydlu Cartrefi Croeso Cyf, cwmni tai sy'n berchen yn llwyr i'r Cyngor, er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u gosod ac i ysgogi rhagor o weithgarwch adfywio. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw gofynnwyd i'r Cyngor ystyried adroddiad am yr eitemau canlynol ynghylch rhedeg y cwmni:

 

-        Gofynion ariannu'r cwmni – ymgorffori Cynllun Busnes 'lefel uchel' 2018-2023 y cwmni;

-        Y broses ar gyfer penodi cyfarwyddwyr;

-        Dirprwyo materion Cytundeb y Cyfranddalwyr.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:-

 

Gofynion Ariannu:

 

Nodi Cynllun Busnes lefel uchel 2018 – 2023 y Cwmni, sydd wedi'i ddatblygu gan Adran Dai / Cyfarwyddiaeth Cymunedau y Cyngor, fydd yn cael ei fireinio yn dilyn astudiaethau dichonoldeb manwl y prosiect a'r ymchwiliadau safle;

 

Cytuno i dalu costau sefydlu'r Cwmni ar gyfer 2017/18 o'r cyllidebau refeniw presennol, hyd at uchafswm o £100,000;

 

Cytuno ar Fenthyciad Costau Gweithredu i'r Cwmni mewn perthynas â'i gostau gweithredu yn 2018/19 hyd at uchafswm o £280,000. Bydd hyn yn cael ei drosglwyddo ymlaen llaw, yn chwarterol ac mewn cyfrannau o 25%;

 

Cytuno ar Fenthyciad Datblygu Prosiect pellach hyd at uchafswm o £750k, i'w ryddhau mewn cyfrannau y cytunir arnynt, er mwyn datblygu manylion busnes y cwmni i'r Cyngor eu hystyried ymhellach. Bydd y benthyciad hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud cynnydd ar y canlynol:

 

·       Gwerthusiadau datblygu pellach o wyth safle, gan gynnwys 2 brosiect gwledig.Bydd hyn yn cynnwys prisiad manwl, cymorth gwladwriaethol, cyngor cyfreithiol a chyngor ynghylch trethiant;

·       Cynigion datblygu cynllun/ymchwiliadau safle cynhwysfawr a manwl ar gyfer tri safle, gan gynnwys un gwledig

·       Modelau ariannol manwl a’r cyngor cysylltiedig ynghylch materion cyfreithiol a threthiant;

·       Datblygu strategaeth gaffael effeithlon;

·       Comisiynu gwerthusiadau technegol manwl ac arolygon cysylltiedig megis arolygon safle, pridd, trafnidiaeth ac arolygon ecolegol;

·       Cysylltu â chyfleustodau a chyrff statudol;

·       Comisiynu gwaith dylunio manwl a manylebau (a fydd hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau dilynol);

·       Derbyn Cyngor cyn cynllunio a chwblhau ymgynghoriad cyn cynllunio

 

 

Bydd swm cychwynnol o £250,000 o'r Benthyciad Datblygu Prosiect manwl ar gael i'r cwmni er mwyn symud ymlaen â'r prawf o gysyniad. Bydd y gwaith o gymeradwyo rhyddhau rhagor o gyllid (hyd at y terfyn benthyca) yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ac fe gaiff ei ryddhau yn sgil arfarniad masnachol boddhaol o dri safle cychwynnol y prawf o gysyniad;

 

Nodwyd y bydd ceisiadau am fenthyciadau pellach ar gyfer gwariant ar ddatblygiadau mawr (er enghraifft, trosglwyddo tir, ffioedd proffesiynol, costau adeiladu) yn dod i law yn ôl yr angen a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.5

8.6

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr D. Price ac A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt barhau yn Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

 

HYD Y CYFARFOD

 

Am 1.00pm tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. Felly

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Rheolau'r Weithdrefn Gorfforaethol yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu trafod yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 15) wedi ystyried adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a wnaed gan y Cyngor ar ei gynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gymunedol Gors-las o 110 i 210.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiad argymhelliad canlynol y Bwrdd Gweithredol:-

 

“os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill; bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor weithredu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol”.

 

8.7

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC Y TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

·        Roedd y Cynghorydd B. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem

·        Roedd y Cynghorwyr A. Fox, J.D James a H.B. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a bu iddynt barhau yn Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 16) wedi ystyried adroddiad ar  ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a wnaed gan y Cyngor ar ei gynnig i ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill; bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor weithredu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol”.

 

8.8

FERSIWN DIWYGIEDIG O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 20) wedi ystyried adroddiad ar y Cytundeb Cyflawni Drafft a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 4 Ionawr, 2018 i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (newydd) yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ar 23 Mawrth, 2018. Nodwyd, os bydd y Cyngor yn cadarnhau'r Cytundeb Drafft, y byddai angen ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru er mwyn ei gymeradwyo. Yn amodol ar y gymeradwyaeth honno, byddai gan y Cyngor gyfnod o 3.5 mlynedd i weithredu'r Cynllun erbyn y terfyn amser o 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:

 

“Bod y sylwadau a ddaeth i law a'r argymhellion mewn perthynas â'r Cytundeb Cyflawni Drafft yn cael eu cadarnhau;

Bod y newidiadau i'r amserlen yn cael eu cymeradwyo;

Cymeradwyo cyflwyno'r Cytundeb Cyflawni (yn cynnwys argymhellion yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno;

Nodi bod y cyfnod ymgynghori ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisio wedi cael ei ymestyn i 29 Awst 2018”.

 

 

9.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

30AIN EBRILL, 2018 pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

9.2

14EG MAI, 2018 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod

 

10.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

11.

ENWEBIAD AR GYFER RHYDDID ANRHYDEDDUS SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 10 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod am fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu enw unigolyn a enwebwyd ar gyfer Rhyddid y Sir. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn oherwydd ni fyddai'r sawl a enwebwyd yn gwybod ei fod wedi ei enwebu ac ni fyddai'n gymwys datgelu ei enw cyn cynnal pleidlais ar b'un ai i ddyfarnu Rhyddid y Sir iddo ai peidio.

 

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn ymwneud â chais i gyflwyno Rhyddid Anrhydeddus y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai Rhyddid y Sir yn cael ei gyflwyno i'r unigolyn y cyfeirir ato yn yr adroddiad ac y byddai seremoni dderbyn yn cael ei threfnu fel rhan o gyfarfod y Cyngor ar 11 Gorffennaf, 2018.