Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 10fed Ionawr, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, S. Curry, A. Davies, W.R.A. Davies, I.W. Davies, D.C. Evans, L.D. Evans, C.J. Harris, R. James, C. Jones, A.G. Morgan, H.B. Shepardson, A.D.T. Speake, E.G. Thomas, G. Thomas a J.E. Williams

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r trigolion canlynol o Sir Gaerfyrddin a wobrwywyd yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd:-

Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Aelodau o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig:-

Daniel McCallum, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr-gyfarwyddwr, Awel Aman Tawe – Am ei wasanaethau ym maes Ynni Cymunedol yng Nghymru,

Richard Hugh Morgan, Cwnstabl, Heddlu De Cymru – Am ei wasanaethau elusennol i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog

Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

David Gravell – Am ei wasanaethau mewn meysydd elusennol, chwaraeon ac addysg yng Nghymru.

Cafodd y Cyngor glywed am y gwaith a wnaed gan Mr Gravell yn y meysydd uchod, ac yn y gymuned, gan gynnwys ei gefnogaeth i'r iaith Gymraeg a sefydlu'r ysgoloriaeth ‘Tom Gravell’ yng Ngholeg Llanymddyfri, sydd bellach yn ei deuddegfed flwyddyn ac sy'n galluogi myfyriwr o Batagonia i fynychu'r coleg yn llawn amser i ddatblygu ei allu yn y Gymraeg.

Yr Urdd Fictoraidd Frenhinol - Aelod o'r Urdd Fictoraidd:-

Ian John Miles, Uwch-reolwr Gweithrediadau Arbenigol, Heddlu Dyfed-Powys,

Mrs Audrey Williams, o Adran Adfywio a Pholisi'r Cyngor - Am ei gwasanaethau i Raglawiaeth Dyfed

Cafodd y Cyngor wybod fod y Wobr wedi'i rhoi i Mrs Williams i gydnabod ei gwaith i'r Rhaglawiaeth dros nifer o flynyddoedd.

·       Mynegwyd llongyfarchiadau i Lian Poulson, enillydd cystadleuaeth Bwrsariaeth y Goleudy y llynedd ar gyfer entrepreneuriaid ifanc. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf o fasnachu ers ennill y wobr mae ei chwmni dylunio ffasiwn, Lian Cara, a'i gasgliad o adlewyrchiadau naturiol wedi ymddangos yng Nghylchgrawn Vogue ar gyfer y cyfnod Ionawr – Mawrth 2018

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CYFLWYNO DEISEB

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i gyflawni ei ddyletswydd hollbwysig i ddiogelu ac amddiffyn plant drwy symud yr elusen Chooselife i leoliad arall addas.  Mae lleoliad presennol Chooselife, sef yn union gyfagos i’r ysgol babanod ac iau newydd yn Heol Copperworks, yn annerbyniol ac yn beryglus gan y bydd cannoedd o blant yn cerdded i'r ysgol ar hyd Heol Copperworks bob dydd. Mae agosrwydd y ddau gyfleuster yn anghydnaws ac mae’n rhaid i un ohonynt symud. Oherwydd y buddsoddiad sydd eisoes wedi’i wneud gan y Cyngor Sir, rhaid mai Chooselife yw’r un sy’n symud."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs V. Marsh, Cadeirydd y Gr?p Gweithredu Cymunedau Mwy Diogel, a wahoddwyd i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol i'r Cyngor ynghylch ‘Adleoli Choose Life’ ac i siarad am y mater.

 

"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ufuddhau i'w ddyletswydd bennaf, sef diogelu ac amddiffyn plant trwy symud elusen Chooselife i safle arall addas.  Mae lleoliad presennol Chooselife, yn union wrth ochr yr ysgol fabanod a'r ysgol iau newydd ar Heol Copperworks, yn annerbyniol ac yn beryglus gan y bydd cannoedd o blant yn cerdded i'r ysgol ar hyd Heol Copperworks bob dydd. Mae lleoliad agos y ddau gyfleuster yn anghydnaws ac mae'n rhaid i un symud. Oherwydd y buddsoddiad a wnaed eisoes gan y Cyngor Sir, bydd yn rhaid i Chooselife symud."

 

Amlinellodd Mrs Marsh gefndir y gr?p i'r Cyngor a'r rhesymau dros y ddeiseb a wnelai ag agosrwydd safle gweithredol Choose Life, fel canolfan ‘galw heibio’ ar gyfer materion cyffuriau ac alcohol, at yr ysgol babanod a phlant iau newydd a gaiff ei hadeiladu ar hyn o bryd yn Nglanymôr. Cyfeiriwyd at yr effaith niweidiol bosibl y gallai hynny ei chael ar blant ifanc sy'n mynychu'r ysgol a chafodd y Cyngor ei atgoffa am ei ddyletswydd statudol o ddiogelu plant. Cadarnhaodd hithau nad oedd y Gr?p yn ceisio cau'r ‘ganolfan galw heibio’, ond yn unig ei hadleoli yn y cyfnod byr sydd ar ôl cyn agor yr ysgol newydd.

 

Wedi iddi roi ei chyflwyniad, trosglwyddodd Mrs Marsh y ddeiseb yn ffurfiol i Gadeirydd y Cyngor.

 

Mynegwyd y farn y dylai'r Bwrdd Gweithredol edrych yn ffafriol ar y ddeiseb wrth roi ystyriaeth iddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Bwrdd Gweithredol i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

 

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES

“EITHRIO'R SAWL SY'N GADAEL GOFAL RHAG Y DRETH GYNGOR

 

Mae'r sawl sy'n gadael gofal y gofalwyd amdanynt gan yr Awdurdod Lleol ymysg y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.  Fel rhan o'n rôl rhianta corfforaethol, credwn y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin geisio cadw pobl ifanc yn ddiogel a gwella eu cyfleoedd bywyd. Mae gennym ddyletswydd i'r sawl sy'n gadael gofal.

 

Rydym yn credu bod cyfrifoldeb arnom i sicrhau, pan fydd pobl ifanc yn symud o ofal i fywyd fel oedolyn, fod y broses mor esmwyth â phosibl ac i wneud popeth a allwn i liniaru'r newidiadau sydd yn aml yn arwain at broblemau dyled i'r sawl sy'n gadael gofal wrth iddynt ddechrau rheoli eu harian eu hunain.

 

Rydym yn cynnig y rhybudd o gynnig canlynol:

 

Dylai pawb sy'n gadael gofal gael eu heithrio rhag y dreth gyngor hyd at 21 oed (gyda'r dewis o gynyddu'r oedran i 25 mewn amgylchiadau eithriadol)”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glynog Davies:-

 

‘Dylai pawb sy'n gadael gofal gael eu heithrio rhag y dreth gyngor hyd at 21 oed (gyda'r dewis o gynyddu'r oedran i 25 mewn amgylchiadau eithriadol).

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cafodd y cynigydd gyfle i siarad o blaid y Cynnig, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno. Dywedodd y dylai'r Cyngor gefnogi'r Cynnig, ac y byddai adroddiad ar ffurfio polisi i roi'r penderfyniad ar waith yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig ac ar ôl hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Andre Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2016/17 i'r Cyngor.

Cyn i Mr Morgan gyflwyno ei adroddiad, mynegwyd llongyfarchiadau iddo ar ei benodiad yn ddiweddar fel Cadeirydd yn dilyn ymddiswyddiad y Cadeirydd blaenorol, Mr Christopher Downward. Mynegwyd gair o werthfawrogiad hefyd i Mr Downward am y modd proffesiynol y bu'n ymgymryd â'r rôl honno.

Diolchodd Mr Morgan i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei flaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2016/17. Roedd y rhain yn cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad, Hyfforddiant Côd Ymddygiad, Cydymffurfio â'r Côd Ymddygiad yn achos Cynghorau Tref a Chymuned a Pholisi Datgelu Camarfer yr Awdurdod.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi derbyn adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Diwedd Blwyddyn yr Awdurdod ar gyfer 2016/17 ynghyd ag Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.   

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Morgan am ei gyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau.

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Mai 2016 a 31 Mawrth 2017.

9.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR, 2018/19 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 a chafodd wybod bod Llywodraeth San Steffan, yn 2013, wedi creu cynllun lleol yn lle Cynllun Budd-dal y Dreth Gyngor cenedlaethol. Adroddwyd bod y cynghorau, yn Lloegr, yn gweithredu eu cynlluniau eu hunain; fodd bynnag, roedd y sefyllfa yn wahanol yng Nghymru gyda'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru a datblygodd cynllun Cymru gyfan, a oedd wedi bod ar waith ers yr adeg honno. Er bod y Cynllun wedi'i sefydlu ar sail Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn.

 

Atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yr aelodau fod yn rhaid i awdurdodau lleol ail-fabwysiadu'r cynllun yn flynyddol, er gwaethaf y ffaith mai un cynllun Cymru gyfan ydoedd, os oeddent am fanteisio ar y pwerau disgresiwn cyfyngedig oedd ganddynt i amrywio'r cynllun safonol mewn perthynas â'r tri maes a amlinellir yn yr adroddiad. Atgoffwyd yr aelodau ganddo fod Cyngor Sir Caerfyrddin, ers i'r cynllun gael ei gyflwyno, wedi defnyddio ei bwerau disgresiwn (yn yr un modd â'r rhan fwyaf o awdurdodau Cymru) ac wedi diystyru'n llawn unrhyw Bensiynau Anabledd, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a thaliadau tebyg wrth gyfrifo hawliad. Atgoffwyd yr aelodau ganddo y byddai Sir Gaerfyrddin, trwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, yn parhau i ddiystyru'r taliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor ar gyfer 2018/19:-

9.1

yn mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer  Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn:

a)       Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a

b)      Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014

9.2

gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018, a fydd yn dod i rym ar 10 Ionawr 2018

9.3

parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad.

 

 

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERERION CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2006-2021 - ADRODDIAD ADOLYGU (Y Bwrdd Gweithredol 18fed Rhagfyr 2017) pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 (gweler Cofnod 8), wedi derbyn adroddiad ar gynigion fod y Cyngor yn cynnal adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2006/2021. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y prosesau yr oedd angen eu cynnal, a'u hamserlenni cysylltiedig, pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y Bwrdd Gweithredol dros gynnal adolygiad llawn.

 

Gwnaed sawl sylw a gefnogai'r farn y dylai ethos y cynllun fod yn “lleol” ac yn adlewyrchu anghenion cymunedau ledled y sir. Nodwyd bod rôl aelodau lleol a'r gymuned yn ganolog yn hynny o beth wrth iddynt wneud sylwadau ar ran eu cymunedau trwy'r prosesau ymgynghori. Gallai'r aelodau hefyd godi unrhyw faterion a allai fod ganddynt drwy Bwyllgor Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Cafwyd sylwadau hefyd am ba mor bwysig oedd hi fod y Cynllun yn darparu ar gyfer datblygu a gwella'r Iaith Gymraeg drwy bob rhan o'r Sir, ochr yn ochr â nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o Siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050 a darpariaethau'r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Awdurdodi cychwyn gwaith ar baratoi adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin;

 

Cyhoeddi Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin;

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr adroddiad.”  

 

 

10.2

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN DIWYGIEDIG 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLENWI DRAFFT YNGHYD Â'R FETHODOLEG ASESU SAFLEOEDD DRAFFT (Y Bwrdd Gweithredol 18fed Rhagfyr, 2017 pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr (gweler Cofnod 9), wedi derbyn adroddiad ar gynigion fod Cytundeb Cyflawni Cynllun Lleol yn cael ei fabwysiadu ynghyd â'r Fethodoleg Asesu Safleoedd y mae angen eu cynnal fel rhan o'r adolygiad ffurfiol o Adolygiad Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (a gymeradwywyd gan y Cyngor yng nghofnod 10.1 uchod).

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn cynnwys amserlen o'r camau allweddol ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a chynllun cynnwys y gymuned ar ffurf gwybodaeth yngl?n â sut, a phryd, y gallai rhanddeiliaid a'r gymuned ddod i gysylltiad â phroses baratoi'r Cynllun a chyfrannu ati.
  Un o'r elfennau allweddol a oedd yn ymwneud â hynny oedd y Fethodoleg Asesu Safleoedd, a chafodd yr aelodau eu hannog i roi gwybod i'w cymunedau am y prosesau a oedd ynghlwm wrth hyn a'r dystiolaeth sy'n ofynnol wrth wneud cais am gynnwys safle(oedd) yn y cynllun newydd, a'r pwyslais y byddai'r Cynllun yn ei roi ar ymarferoldeb y safleoedd hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“cymeradwyo Cytundeb Cyflawni Drafft Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Caerfyrddinar gyfer ymgynghoriad ffurfiol o 6 wythnos;

 

Cymeradwyo'r gwaith o ddechrau camau cychwynnol proses baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol cyn cytuno ar y Cytundeb Cyflawni terfynol;

 

Cymeradwyo cynnwys y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ddrafft;

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion barhau â thrafodaethau paratoi a gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol, yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cytundeb Cyflawni Drafft a mireinio defnyddioldeb y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ddrafft”.

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 18FED RHAGFYR, 2017. pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

12.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATER CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

12.1

AROLWG - AMSERAU CYFARFODYDD Y CYNGOR (PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 29/11/2017) pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2017 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar ganlyniad arolwg a gynhaliwyd yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol arolygu eu haelodau yngl?n â phryd a pha mor aml y cynhelid eu cyfarfodydd. Nodwyd mai canlyniad yr arolwg oedd bod y mwyafrif o'r aelodau a atebodd yn dewis cadw'r trefniadau fel y maent ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:-

 

“Gan ystyried yr ymatebion oedd wedi dod i law i'r arolwg, bod amser a lleoliad cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgor yn aros yr un peth”.