Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr P.M Edwards, P.M. Hughes, K. Lloyd, J.S. Phillips a B.A.L. Roberts.

 

Daeth ymddiheuriadau pellach i law ar gyfer sesiwn y prynhawn gan y Cynghorwyr A.W. Davies, I.W. Davies, J.S. Edmunds, D.C. Evans, H.I. Jones a T.J. Jones.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Edmunds

9.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20.

Mae'n landlord preifat.

H.A.L. Evans

8 - Adeiladu Rhagor o Dai - Cynyddu ein Huchelgais.

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

H.A.L. Evans

9.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20.

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

K. Madge

9.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 tan 2021/22.

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad diweddar fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Lanymddyfri yn 2021, a diolchodd i'r bobl leol oedd yn croesawu'r ?yl gan ddymuno'n dda iddynt gyda'r trefniadau;

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â thri o drigolion y Sir ar achlysur eu penblwyddi yn 100 oed;

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â:-

-        Yr hen orsaf reilffordd yn Login a oedd wedi cael ei haddasu i fod yn atyniad bwyd ac ymwelwyr ac roedd amgueddfa o hen bethau oedd yn ymwneud â'r rheilffordd i'w hagor cyn bo hir. Roedd y pentref hefyd yn ymgyrchu i wneud hen linell y rheilffordd yn llwybr addas i gerddwyr a beicwyr;

-        Agoriad rhan gyntaf Llwybr Beicio Dyffryn Tywi o Abergwili i Fronun yn Felin-wen;

-        Agoriad Ysgol Gymraeg newydd Parc y Tywyn;

-        Ysgol Griffith Jones lle trosglwyddwyd baton Gr?p Cefnogi Dementia Sanclêr a'r ardal i Gaerfyrddin a Llandeilo;

-        Cystadleuaeth siarad cyhoeddus Clwb Rotari Llanelli;

-        Gwobrau Dug Caeredin yn Nhre Ioan;

-        Noson Gwobrau Chwaraeon Tref Caerfyrddin;

-        Gwobrau Chwaraeon Actif 2018 Cyngor Sir Caerfyrddin yn Llanelli, lle enwyd Dewi Griffiths, y rhedwr o Llanfynydd, yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

·        Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â meibion a theulu'r ddiweddar Pam Edmunds, cyn-gynghorydd sir dros Ward Elli am flynyddoedd lawer

·        Estynnwyd gair o longyfarchiadau i Iestyn Rees o Heol y Bryn, Pen-y-groes ar gael ei ddewis i gynrychioli Tîm Rygbi dan 20 Cymru

 

Hefyd, soniwyd wrth y Cyngor am Jack Morgan o Frynaman a oedd wedi chwarae dros y Tîm dan 20 yn erbyn Ffrainc a'r Eidal a, gobeithio, yn erbyn Lloegr yn y gêm nesaf.

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad gan Mr Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor, ei fod yn bwriadu gadael ei swydd yn yr haf a byddai'r Cyngor yn cael cyfle i ffarwelio ag ef yn swyddogol ymhen ychydig fisoedd.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 9FED IONAWR 2019 pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

5.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu yn ddiweddar gan y Gymdeithas Cludo Nwyddau am oedi o ran gweithredu ei Strategaeth Drafnidiaeth, yn benodol ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd.

 

A ydych chi’n credu bod y methiant hwn i wella’r cysylltiadau o’r dwyrain i’r gorllewin yn cael effaith andwyol ar economi Sir Gaerfyrddin.  Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth Mark Drakeford, y Prif Weinidog, am hyn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n ddiweddar gan y Gymdeithas Cludo Nwyddau am yr oedi o ran rhoi ei Strategaeth Drafnidiaeth ar waith, yn enwedig ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. A ydych yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar economi Sir Gaerfyrddin? Beth ddywedech chi wrth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Ydw, rwyf yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar yr economi yma yn Sir Gaerfyrddin, a byddwn yn annog Prif Weinidog Cymru i unioni'r mater cyn gynted â phosibl. Daeth ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a drefnwyd gan yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, i'r ffordd liniaru arfaethedig i ben haf diwethaf, ac rwyf ar ddeall bod adroddiad yr Arolygydd bellach gydag uwch-weision sifil. Maent ar hyn o bryd yn paratoi'r cyngor a roddir i'r gweinidogion. Gobeithio, cyn bo hir bydd Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen glir ar gyfer beth sy'n digwydd nesaf, ond mae hynny'n gwbl ddibynnol ar argymhelliad yr adroddiad ynghylch p'un a ddylai cynllun fynd rhagddo ai peidio. Os gwneir y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda'r prosiect, rwyf wedi cael fy hysbysu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref ond byddai dal yn cymryd pum mlynedd i'w gwblhau. Fodd bynnag, mae AC Llafur Lee Waters wedi rhagweld y gallai penderfyniad i fwrw ymlaen fod yn agored i her gyfreithiol, felly gallai'r anawsterau barhau.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi gyrru ar hyd yr M4 yn ymwybodol o'r angen dybryd i leihau'r tagfeydd presennol. Mae'n wael iawn i'r gogledd o Gasnewydd, lle mae'r ffordd yn culhau i ddwy lôn yn unig wrth dwneli Brynglas. Ac mae bron pawb yn cytuno y bydd ffordd liniaru newydd yr M4 yn rhoi hwb i'r economi drwy wella mynediad i bobl a nwyddau i Dde a Gorllewin Cymru. Roedd yr Economegydd Stephen Bussell, o Ove Arup and Partners Ltd, wedi dweud wrth yr ymchwiliad y byddai effaith ehangach y cynllun ar Gymru a'r DU werth dros £2 biliwn. Awgrymodd y byddai'r gwelliannau o ran trafnidiaeth, effeithlonrwydd economaidd, diogelwch ac allyriadau carbon yn fwy na gwneud iawn am gost y buddsoddiad. Byddai amserau teithio yn llai, gan roi bod i fuddion penodol i gwmnïau logisteg a 'gweithrediadau dim ond mewn pryd' sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae hyn i gyd wedi bod yn hysbys am y rhan orau o 30 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu darn o draffordd newydd 14 milltir (23km) chwe lôn i'r de o Gasnewydd, a fyddai'n cynnwys pont ar draws afon Wysg, yn ogystal ag ailfodelu sylweddol ar gyffyrdd 23 a 29 o'r M4. 

 

Ym mis Gorffennaf 2014 rhoddodd Edwina Hart, sef Gweinidog yr Economi ar y pryd, sêl bendith i'r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar sut i'w ariannu. Trafodwyd tri llwybr posibl -  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD GARETH JOHN I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“A ellid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor ynghylch y cynnydd a wnaed, y camau a gymerwyd a’r cytundebau a luniwyd â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i sefydlu gwasanaeth gofal cymunedol gwirioneddol integredig ar draws yr ardal? Hefyd, a ellid rhoi gwybod i’r Cyngor beth yw’r amserlen ddisgwyliedig o ran ei sefydlu?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Allai'r Cyngor gael diweddariad ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud, y camau sy'n cael eu cymryd, a'r cytundebau gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o ran sefydlu gwasanaeth gofal cymunedol gwir integredig ledled yr ardal? Allai'r Cyngor hefyd gael gwybod beth yw'r amserlen a ragwelir ar gyfer ei sefydlu?”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd

Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, ers peth amser mae strwythur integredig wedi bod gennym sydd wedi'i seilio ar y tair ardal ar gyfer pobl h?n. Rydym yn rhannu pennaeth gwasanaeth ar gyfer pobl h?n â'r Bwrdd Iechyd a phennaeth comisiynu â Sir Benfro. Dros y 6 mis diwethaf araf fu'r cynnydd, er ein bod wedi cynnal perthynas waith gadarnhaol gyda Ceredigion, Sir Benfro a'r Bwrdd Iechyd. Gallaf adrodd cynnydd yn y meysydd canlynol:

 

- Bellach mae consensws ar draws y rhanbarth y dylai iechyd y gymuned a gofal cymdeithasol gael eu trefnu gan 7 ardal ar draws y rhanbarth.

 

- Datblygwyd cais trawsnewid gan y bartneriaeth ranbarthol, sydd wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, er ein bod yn dal i aros iddynt gytuno'n ffurfiol.

 

- Mae Prif Weithredwyr y 4 sefydliad rhanbarthol wedi cytuno ar ddull eang o ddiwygio a chryfhau'r bartneriaeth ranbarthol, a gobeithiwn y bydd cytundeb ffurfiol ar gyfer trefniadau cryfhau newydd wedi eu cymeradwyo erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Fodd bynnag, mae'r cynnydd wedi bod yn hynod o araf o ran cytuno ar fanylion y strwythurau y bydd angen eu rhoi ar waith er mwyn gweithredu'r cynnig integredig o ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Yn arbennig, nid oes hyd yn hyn ddealltwriaeth gyffredin yngl?n â'r berthynas rhwng ardaloedd lleol a chlystyrau meddygon teulu, na pha wasanaethau penodol fyddai'n cael eu darparu ar lefelau lleol, sirol a rhanbarthol. Yn wir, yn y flwyddyn ddiwethaf mae rhai gwasanaethau iechyd megis therapïau wedi eu canoli yn y rhanbarth.

 

Fel Cyngor rydym yn glir ein bod am wneud cynnydd cyflym ac rydym yn dal yn optimistaidd y bydd ein perthynas weithio dda yn rhoi bod i gynigion ymarferol ac amserlen glir i'w gweithredu dros y flwyddyn nesaf.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gareth John:

 

“Diolch i chi am yr ymateb ac roedd nifer o elfennau cadarnhaol ynddo. Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth Aelodau'r Cynulliad ddoe fod llawer o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed â'r Gronfa Drawsnewid, i bontio, cysylltu, symleiddio ac ail-lunio sut y mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd. Hefyd, soniodd am rôl hanfodol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn hyn o beth, gan taw nhw yw'r cyfrwng y gall arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol ei ddefnyddio i gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau ac i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol. Aeth ymlaen i ychwanegu ei fod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a mwy o synnwyr o rannu'r un uchelgais. O gofio'r gwahaniaethau diwylliannol a sefydliadol enfawr rhwng y GIG  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN MISS C. SYLVAN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae’s Cyngor yn ei roi ar waith a sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae'r Cyngor yn ei roi ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i Coral Sylvan am godi'r cwestiwn hwn gyda ni. Cyn ateb, rwyf am ddiolch iddi nid yn unig am y cwestiwn, ond am ddod atom y bore yma, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n torri tir newydd yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin. Nid wy'n meddwl ein bod wedi cael rhywun mor ifanc ag un ar ddeg oed yn dod yma o'r blaen i ofyn cwestiwn i ni, sy'n cynnig her i ni, ac sy'n gofyn inni ystyried y dyfodol yng nghyd-destun ei chenhedlaeth. Synnwn i ddim petai'n Arweinydd ar y Cyngor hwn rhyw ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn wych cael eich croesawu yma'n ffurfiol i'r Siambr a chael ymateb i gwestiwn y mae angen i ni fel cynghorwyr, fel cyngor sir, ac fel awdurdodau lleol ledled Cymru roi sylw iddo.

 

Rydym wedi clywed ers blynyddoedd nad yw'n edrych yn debyg fod gan bobl ifanc unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r byd o'u cwmpas.  Wel, mae arwyddion bod pethau'n newid. Fel y canodd rhywun roeddwn yn ei fwynhau nôl yn y 70au, Bob Dylan, mae'r amserau'n newid. Maent yn newid o ran y bobl ifanc sy'n barod i sefyll yn gadarn a gofyn y cwestiynau iawn a pherthnasol, ac mae clywed bod diddordeb ganddynt mewn gwleidyddiaeth a'r byd o'n cwmpas yn galondid mawr.

 

Rwy'n eistedd gyferbyn â'r Cyfarwyddwr Addysg ac rwy'n si?r na fyddwch chi'n cytuno â mi fan hyn, ond gwnaed cryn argraff arnaf i ddydd Gwener diwethaf pryd yr aeth disgyblion ar draws y DU "ar streic" fel rhan o ymgyrch fyd-eang i weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Wyddoch chi beth, roeddwn i'n gyrru adref ar yr A48 nos Wener ddiwethaf a bu bron imi achosi damwain gan fy mod yn gwrando ar y newyddion am y streic a'i heffaith, ac ar bobl yn siarad am y peth. Dyfynnwyd siaradwr o Adran Addysg Llywodraeth y DU, a ddywedodd (a dyma pam bu bron imi gael damwain) mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu absenoldeb yn ystod y tymor ysgol, a meddyliais i fi fy hun, ar ôl cael rheolaeth ar y llyw, beth am ddyfodol y blaned, pa mor eithriadol yw hynny? Mae'n rhaid bod hwnnw'n fater go eithriadol i ni i gyd.  

 

Cerddodd disgyblion o bob rhan o'r wlad mas o'u hysgolion er mwyn galw ar y llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gymryd camau gweithredol i ymdrin â'r broblem honno. Cynhaliwyd protestiadau mewn mwy na 60 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, a bu i oddeutu 15,000 o fyfyrwyr gymryd rhan. Roeddent yn cario placardiau, ac roedd rhai ohonynt yn darllen: "Nid oes Planed B." Mae mor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN

“Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.  Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

 

Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.

 

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod di-garbon net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod di-garbon net”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb o ran yr hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

 

Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.

 

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn

 

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod di-garbon net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod di-garbon net.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

8.

ADEILADU RHAGOR O DAI - CYNYDDU EIN HUCHELGAIS pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a chyflwyniad a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer  cynyddu ei uchelgais o ddarparu mwy o dai fforddiadwy dros y 10 mlynedd nesaf, nid yn unig er mwyn diwallu anghenion tai cyffredinol a phenodol, ond hefyd er mwyn cefnogi'r blaenoriaethau strategol ehangach ar gyfer adfywio a datblygu ar draws y sir. Nodwyd bod y cyflwyniad yn rhoi sylw i'r pwyntiau canlynol:-

 

·        Tai Cymdeithasol – Yr Hanes;

·        Cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy;

·        Darparu 1,000 o dai fforddiadwy – 2018/19;

·        Cyfleoedd i gael buddsoddiad ychwanegol

·        Gwneud y gwahaniaethau;

·        Tai Cyngor 1981-2016, a'r dyfodol

·        Camau Nesaf – Amserlen ar gyfer cyflawni.

 

Atgoffwyd y Cyngor ei fod wedi gosod targed uchelgeisiol yn 2016 o ddarparu, trwy amryw ffyrdd, 1,000 o dai fforddiadwy erbyn 2020, ac roedd 650 wedi'u codi hyd yn hyn. Drwy reolaeth ariannol ofalus a mwy o allu i fenthyca drwy'r Cyfrif Refeniw Tai, byddai'r cynnig newydd yn galluogi'r Cyngor i ddarparu 900 o Dai Cyngor newydd sy'n Cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y 10 mlynedd nesaf. Yn ychwanegol at y targed hwnnw, nodwyd y byddai Cartrefi Croeso, cwmni tai lleol y Cyngor, yn darparu, drwy ystod o opsiynau tai, 500 o dai fforddiadwy fel dewis arall yn lle tai cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig, byddai angen datblygu cynllun manwl yn ei gylch a'i gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

8.1

Cadarnhau'r dull ehangach o ddarparu rhaglen 10 mlynedd ar gyfer tai Cyngor newydd;

8.2

Datblygu cynllun busnes cynhwysfawr a'i gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2019.

 

9.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 - 2021/22 pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 tan 2021/22 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, yn rhoi argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor, ac yn cyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran setliad Llywodraeth Cymru gan gymryd i ystyriaeth y ffigurau terfynol, adborth ar y broses ymgynghori a diweddariadau ar dwf a dilysu data.

Dywedodd fod y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, ar 19 Rhagfyr, wedi darparu cyllid ychwanegol o gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Gan fod y ffigwr hwnnw ychydig yn well na'r disgwyl, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi gallu ailedrych ar rai o'r cynigion gwreiddiol ar gyfer y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach, yn cynnwys ystyried y cynnig cyflog diweddaraf a chefnogi gwasanaethau a arweinir gan y galw, yr oeddent yn dal i gael eu rhoi dan bwysau, er enghraifft Gofal Cymdeithasol. Fodd bynnag, tra'n cydnabod bod y setliad ychydig yn well, roedd yn dal i fod yn sefyllfa heriol iawn ac roedd yn cynrychioli gostyngiad go iawn. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru ond wedi gallu darparu ffigurau ar lefel yr Awdurdod am flwyddyn, gan gyfyngu ar rychwant y Cyngor o ran rhagweld ei gynllun Ariannol Tymor Canolig 3 blynedd. Roedd hynny'n arbennig o berthnasol o ran Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, a oedd i'w gynnal yn 2019.

Tynnodd sylw at rai o bwyntiau amlwg y setliad; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys y manylion llawn. Ar sail Cymru gyfan, roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu 0.2%, ac roedd Sir Gaerfyrddin wedi cael setliad arian ar sail tebyg am debyg ar gyfer 2018-19, gan roi i'r awdurdod £1.557m yn ychwanegol ar y setliad dros dro. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau ychwanegol ynghlwm wrth y cyllid ychwanegol hwnnw gan gynnwys newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi a chyllid ar gyfer cymhwysedd prydau ysgol am ddim ychwanegol.

Dywedodd tra bo mwyafrif y grantiau penodol wedi'u cynnal ar werth niwtral yn ariannol, fel oedd yn nodweddiadol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, roeddid yn dal i aros am gadarnhad am rai grantiau arwyddocaol a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb yn benodol, gyda golwg ar wastraff ac ar gyllid chweched dosbarth. Fodd bynnag, yr hyn nad oedd yn nodweddiadol oedd lefel yr ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon. Er mai'r arwyddion anffurfiol oedd y byddai'n cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.1

9.2

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2019/20 - 2023/24 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd am y cyfnod rhwng 2019/20 a 2023/24, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a roddai ystyriaeth i'r ymgyngoriadau ynghylch y gyllideb. Roedd y rhaglen yn darparu ar gyfer gwariant amcangyfrifedig o bron £261m dros y 5 mlynedd a oedd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu ac yn manteisio i'r eithaf ar ffynonellau allanol posibl, gyda chyfraniad y Cyngor tua £133m ynghyd â'r £128k o gyrff grant allanol. Pe cai ei mabwysiadu byddai'r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol i ddatblygu'r economi leol, i greu swyddi ac i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn yr un modd â'r setliad refeniw, nad oedd y Cyngor wedi cael unrhyw ragamcanion oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2019/20. Yn unol â hynny, roedd y rhaglen yn seiliedig ar y cynsail y byddai benthyca â chymorth, a grant cyffredinol, y blynyddoedd i ddod ar yr un lefel ag y byddent yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd grant cyfalaf ychwanegol at ddibenion cyffredinol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd o 2018/19 i 2020/21, a oedd yn dod i ryw £6.6m, a oedd wedi'i gynnwys bellach yn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd gyfredol.

 

Dywedodd fod llawer o'r buddsoddiadau wedi'u gwneud mewn cynlluniau megis rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, a oedd yn cael eu hystyried yn rhai pwysig ar gyfer y sir. Roedd cyllid newydd wedi'i ddarparu yn yr Adran Cymunedau ar gyfer canolfan hamdden Dyffryn Aman am 2020/21 ac ar gyfer parhau i gefnogi Tai yn y Sector Preifat yn 2023/24 ar gyfer grant cyfleusterau i'r anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn dal i gael cefnogaeth ar gyfer Gwella Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd i mewn i 2023/24 ac ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi yn 2019/20. Yn ogystal, o ganlyniad i gyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru, byddai'r gwariant oedd wedi'i gyllidebu ar 'adnewyddu ffyrdd' am y tair blynedd nesaf yn cynyddu £1.5m ychwanegol y flwyddyn.

 

Roedd rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi'u hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno gan gynnwys Ysgol Gymraeg Cydweli, yr Hendy, Llandeilo a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwy ffrwd yn Rhydaman.  Roedd hynny gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B a oedd yn rhedeg tan 2024, a'r prif newid oedd cynnydd yn y gyfradd gyfrannu o 50% i 75% ar gyfer ysgolion, ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig, a thrwy hynny alluogi'r awdurdod i ddarparu mwy o ysgolion yn y rhaglen Band B £129.5m. Ar hyn o bryd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.2

9.3

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2019/20 - 2020/21 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 - REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J. Edmunds a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, ar y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2019/2022. Roedd yn adleisio cynlluniau yn y Cynllun Busnes 30 blynedd sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) a'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi sicrhau bod tenantiaid yn elwa ar Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wrth gamu ymlaen roedd y gyllideb wedi cael ei llunio mewn modd oedd yn gofalu bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos holl eiddo'r Cyngor i'r dyfodol. Adroddodd mai'r disgwyl dros y 3 blynedd nesaf oedd y byddai swm o £45m yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc dai a thrwy hynny barhau â'r daith fel y manylwyd yng Nghynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy.

 

Hefyd roedd y gyllideb yn darparu cyllid o ryw £44m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi Rhaglen Tai Fforddiadwy y Cyngor, a fyddai'n arwain at gynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y sir drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl. Byddai'r rhaglen adeiladu tai newydd yn cael ei chynnal drwy'r rhaglen gyfalaf a thrwy'r cwmni tai newydd – Cartrefi Croeso. 

 

Atgoffwyd y Cyngor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol iddi fod yn ofynnol i'r Awdurdod, ers 2015, fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, lle roedd yn ofynnol i gynnydd arfaethedig mewn rhent gael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, roedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, a oedd yn caniatáu i'r awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed i gynyddu'r rhent gan y CPI yn unig, gyda'r disgwyliad y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. 

 

Fodd bynnag, ar 30 Ionawr 2019, ar ôl i'r polisi interim cychwynnol gael ei ystyried gan yr holl Awdurdodau Tai Lleol, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r Awdurdodau Lleol am ddiwygiad i'r polisi hwnnw a oedd yn rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol â rhent cyfartalog o fewn y Band Rhent Targed gynyddu rhent ‘hyd at £2 yr wythnos’, yn amodol ar sicrhau nad oedd y cynnydd cyfan mewn rhent ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.3

9.4

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2019–22 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2019-2022, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·        Egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid;

·        Amlinellu sut y gallwn gyflawni newid a buddsoddiad trawsnewidiol, a gosod targedau tai fforddiadwy hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol;

·        Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd ariannol nesaf;

·        Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2019/20, sy’n dod i £6.1m.

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai yr adroddiad a dweud pe bai ei argymhellion yn cael eu mabwysiadu, byddai'n arwain at £45 miliwn yn cael ei wario dros y tair blynedd nesaf ar gynnal a gwella'r stoc tai ymhellach. Byddai hefyd yn golygu bod modd cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr gwerth £6.1 miliwn ar gyfer 2019/20. Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gynllun ar gyfer 2019/20 a fyddai'n cynnwys:

 

-        £1m ar gyfer gwaith adeiladu ar ystadau presennol;

-        £2m i ddod â thai cyngor gwag yn ôl i ddefnydd cyn gynted â phosibl ac i Safon Tai Sir Gaerfyrddin +

-        £1.5m i wella ardaloedd cymunedol mewn cynlluniau gwarchod

-        £0.25m ar gyfer gwelliannau mewn perthynas â diogelwch tân.

 

Dywedodd y byddai'r cynllun, yn ychwanegol at yr uchod, yn helpu'r Cyngor i gyrraedd y targed o ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy, ar y cyd â'i bartneriaid tai a thrwy ddulliau eraill, gyda 650 wedi cael eu darparu hyd yn hyn. Roedd y cynllun hefyd yn manylu ar y cynigion i adeiladu 900 o dai cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf am gost o £150m, a byddai 200 ohonynt yn cael eu darparu dros gyfnod y cynllun am gost o £44m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

-        “ bod gweledigaeth uchelgeisiol STSG+, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ac ariannol dros y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau;

-        Cadarnhau bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru”.

9.5

POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2019-2020 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Bod y Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20

a'r argymhellion ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

Bod y Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y

Dangosyddion Darbodus, a'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw a'r argymhellion ynddynt

yn cael eu cymeradwyo”.

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFODAU Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 22AIN AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

21AIN IONAWR 2019 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2019.

10.2

4YDD CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019.

11.

PENODI SWYDD Y PRIF WEITHREDWR A PHENNAETH Y GWASANAETH TALEDIG. pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Gadawodd y Cyfarwyddwyr i gyd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad am y trefniadau arfaethedig ar gyfer recriwtio i swydd Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaeth Taledig ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Prif Weithredwr presennol, Mr Mark James, ei fod yn ymddeol.  Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys y proffil swydd a'r fanyleb person arfaethedig ar gyfer y swydd, ynghyd â'r hysbyseb swydd yr oedd yn ofynnol ei hysbysebu'n gyhoeddus yn unol â gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru)(Diwygio) 2014.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor am y tri phwynt canlynol a oedd yn berthnasol i'r broses recriwtio:-

 

·        Byddai'r cyflog arfaethedig ar gyfer y swydd ar bwynt sefydlog o £145k y flwyddyn. Byddai angen cyflwyno unrhyw amrywiad i'r cyflog hwnnw i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys taliadau mewn perthynas â dyletswyddau Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau.

·        Yn ôl yr asesiad, y gofyniad ieithyddol o ran y swydd oedd lefel 4 ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg

·        Byddai'r swydd wag yn cael ei hysbysebu'n genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

11.1

Bod y Proffil Swydd a'r Fanyleb Person ar gyfer swydd y Prif Weithredwr yn cael eu cymeradwyo;

11.2

Bod yr hysbyseb swydd i ganiatáu i'r swydd uchod gael ei hysbysebu'n gyhoeddus yn unol â gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn cael ei chymeradwyo.

 

12.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd R. Evans o'r Gr?p Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â  Gr?p Llafur. Nodwyd y byddai'r Gr?p Annibynnol, o ganlyniad i'r ymddiswyddiad, yn colli un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol ac y byddai'r Gr?p Llafur yn ennill un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol. Nid oedd newid i ddyraniad y seddi i'r Gr?p Llafur a'r aelod heb gysylltiad pleidiol.

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd y Gr?p Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac roedd y Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Andrew James i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwn.

 

O ran y newidiadau sy'n effeithio ar y sedd Reoleiddio, fel y nodwyd yn Nhabl 3 o fewn yr adroddiad, roedd y Gr?p Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Archwilio ac roedd Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwnnw.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor, gan fod y Cynghorydd Evans wedi symud rhwng dau gr?p sy'n rhan o'r Weithrediaeth, nad oedd unrhyw newid o ran dyraniad 5 Cadeirydd y Pwyllgorau Craffu.

 

PENDERFYNWYD o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,

12.1

Mabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Gr?p Annibynnol a Gr?p Llafur, fel y nodir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad, yn benodol y seddi a ddyrennir parthed y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a'r Pwyllgor Archwilio;

12.2

Yn unol â Rheol 2(2)(n) o'r Weithdrefn Gorfforaethol i gymeradwyo newidiadau yn Aelodaeth y Pwyllgor o ganlyniad i argymhelliad 12.1 uchod;

12.3

Nodi nad oedd dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan Gr?p Plaid Cymru a'r Aelod heb Gysylltiad Pleidiol;

12.4

Yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw dyraniad y 5 Cadeirydd Craffu yn newid.

12.5

Nodi bod y Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Rob Evans i lenwi ei sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac i'r Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi ei sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Archwilio.

 

13.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR AWDURDOD TÂN AC ACHUB Y CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Rob Evans o'r Gr?p Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â Gr?p Llafur, ystyriodd y Cyngor adroddiad a fanylai ar y newidiadau dilynol i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor ac adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Nododd y Cyngor fod yr unig newidiadau a ddeilliai o'r newid uchod i'r aelodaeth yn ymwneud â dyraniad y seddi i'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mai'r bwriad yn dilyn trafodaethau ag Arweinwyr y Grwpiau oedd y byddai Plaid Cymru yn ildio sedd y Cyng. Mansel Charles, a fyddai'n cael ei ddisodli gan y Cyng. Rob Evans o Lafur.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

13.1

Bod dyraniad y seddi i aelodau etholedig ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei newid fel a ganlyn:-

Plaid Cymru (2) Llafur (2) Annibynnol (1) Heb gyswllt (1)

13.2

Nodi, yn unol ag argymhelliad 13.1 uchod, fod Gr?p Plaid Cymru wedi ildio sedd y Cynghorydd Mansel Charles a bod Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Rob Evans fel ei gynrychiolydd ychwanegol.

 

14.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

14.1

nodi y byddai'r Cynghorydd Mansel Charles yn cymryd lle'r Cynghorydd David Jenkins fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar Bwyllgor Penodiadau B;

14.2

nodi y byddai'r Cynghorydd Rob Evans yn cymryd lle'r Cynghorydd John Prosser fel cynrychiolydd y Gr?p Llafur ar Gronfa Bensiwn Dyfed;

 

7.2

NOTICE OF MOTION SUBMITTED BY COUNCILLOR ROB JAMES

Dogfennau ychwanegol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau