Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

YSTYRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

3.1

S/39984 - CAIS ADOLYGOL AR GYFER CADW ANHEDDAU AR LEINIAU 4 A 5 A GYMERADWYWYD O'R BLAEN O DAN GYFEIRNOD S/33081 YN LLAIN 4 & 5, CERDDI GLASFRYN GARDENS, LLANELLI, SA15 3LL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Chwefror 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith ar yr amwynderau. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a phreswyliwr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd a oedd yn peri pryder oedd colli preifatrwydd oherwydd y ffenestri yn yr atig a'r to.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/39984 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

4.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 967 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-

 

E/38576- PRESWYLFA UNLLAWR Â LLE BYW YN Y TO A GAREJ INTEGROL AR DIR YN YMYL RHIF 15 HEOL PLAS GWYN, PEN-Y-GROES, LLANELLI, SA14 7RY

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais ar sail problemau posibl o ran cysylltu'r safle â'r prif wasanaethau, maint yr adeilad a mynediad gwael i'r brif ffordd.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld y mynediad i'r brif ffordd.

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 886 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-

 

W/40091- PRESWYLFA MENTER WLEDIG AR DIR YN LLWYNONNILL FAWR, HEOL LLANDDAROG, LLANDDAROG, SA32 8AL

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn cais gan yr Aelod Lleol.

 

Cafwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a oedd yn cefnogi'r cais yn seiliedig ar asesiad TA6 ynghyd â chais am ymweliad safle.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld yr adeiladau allanol presennol a chynllun y safle.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau