Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones, D. Jones, B.D.J. Phillips a G.B. Thomas.
|
|||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oed wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith ar yr amwynderau. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol, y Cyngor Tref a phreswylwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd pryder oedd bod y lleoliad yn amhriodol/anaddas, cynnydd mewn s?n, diogelwch priffyrdd, y posibilrwydd o lifogydd a'r diffyg gwybodaeth/sicrwydd ynghylch rheoleiddio'r eiddo.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De), yr Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.
PENDERFYNWYD:
3.1.1 Gwrthod Cais Cynllunio S/39358, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ynghylch pryderon yn ymwneud â Pholisïau H6, TAN5, EP3 a GP1;
3.1.2 Bod swyddogion yn adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio gan amlinellu'r rhesymau dros wrthod y cais.
|
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Darllenwyd datganiad i gefnogi'r cais ar ran y Cynghorydd K. Davies, yr Aelod Lleol.
PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio E/39463 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y gwrthwynebiadau a ddaeth i law. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cododd y Pwyllgor faterion ynghylch gorboblogaeth Abergwili a'r effaith bosibl o ran golau a phreifatrwydd ar eiddo cyfagos.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio W/39625 yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 463 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 3.3 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-
|
|||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 IONAWR 2020 PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.
|