Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen a J.E. Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

4.2 – Cais W/39625 - Datblygiad preswyl arfaethedig o 6 o unedau tai fforddiadwy. Mae'r cais hefyd yn cynnwys, seilwaith, gwaredu perth yn rhannol, gwelliannau i'r dirwedd, cynllun lliniaru a gwella bioamrywiaeth; ac unrhyw waith atodol ar dir oddi ar Heol Fawr, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JA

Yn adnabod y gwrthwynebydd

D. Phillips

4.1 – Cais W/39586 – Estyniadau a newidiadau yn Fronafon, Login, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0TN

Yn adnabod y perchennog

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 634 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/39097

Amrywio amod 2 o'r caniatâd cynllunio E/18750 er mwyn caniatáu mynediad diwygiedig ar gyfer Plot 3 ar dir a arferai fod yn rhan o Heddfryn, Llansadwrn, Llanwrda

E/39543

Annedd menter wledig ar dir ym Mryngwyn Uchaf, Gelli Aur, Caerfyrddin SA32 8NB

E/39661

Cynnig i godi un annedd gyda garej fach ar wahân yn y llain ger The Gables, (Rhif 10), Heol Saron, Saron, Rhydaman, SA18 3LG

 

3.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

E/39463

Bwriad i ddymchwel a chodi estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo. Gosod to garej yn lle'r un presennol gan osod to trumiog traddodiadol gyda brenhinbost o bren yn 29 Heol Cwmfferws, Tycroes, Rhydaman, SA18 3TU

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn asesu graddfa’r datblygiad arfaethedig yng nghyd-destun yr eiddo cyfagos.

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i asesu graddfa'r datblygiad arfaethedig yng nghyd-destun yr eiddo cyfagos.

 

3.3        PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gohirio'r cais canlynol i alluogi'r Pennaeth Cynllunio i asesu gwybodaeth ychwanegol :

 

E/39091

Uned storio amaethyddol ar dir i'r de o Heol Grenig (i'r gorllewin o Bantyffynnon), Glanaman, Rhydaman

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 939 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/37370

Dwy breswylfa ar ffurf tai pârar dir ger 63 Heol Culla, Trimsaran, Cydweli, SA17 4DA

S/38652

Amrywio amodau 1 ac 8 ar S/19824 (cais am estyniad amser a ganiateir er mwyn echdynnu mwynau) yn Chwarel Pennant, Heol Herberdeg, Pont-iets, Llanelli, SA15 5UP

S/39157

Preswylfa ar wahân a garej ddwbl ar dir wrth gefn 45 i 53 Heol Pemberton, Pemberton, Llanelli, Sir Gaerfyrddin

S/39712

Dymchwel y strwythurau presennol a chais am d? 5 ystafell wely,  2 garej a gwaith cysylltiedig ar dir y tu ôl i 5, 7 a 9 Heol y Fforest, Hendy, Llanelli, SA4 0TN

S/39814

Troi eiddo presennol yn ddau fflat ac adeiladu t? 3 ystafell wely ar dir gwag cyfagos yn 2 Cilgant Great Western, Llanelli, SA15 2ND

 

4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid rhoi caniatâd i'r cais cynllunio canlynol ond na ddylid rhyddhau'r hysbysiad o benderfyniad hyd nes bod y cyfnod rhybudd 21 diwrnod perthnasol wedi dod i ben mewn perthynas â’r Tystysgrif B diwygiedig a roddwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a bod yr hysbysiadau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno i'r parti/partïon perthnasol

 

S/38805

Amrywio amod 4 o ganiatâd cynllunio S/11960 (er mwyn galluogi gwerthu bwyd a diod o Uned 2A) yn TK MAXX, 2A Parc Adwerthu Trostre, Llanelli, SA14 9UY

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 632 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39586

Cais am newid defnydd rhandy yn breswylfa yn Hafod Hill, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0ER

 

(Roedd y Cynghorydd D. Philips wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch)

W/39678

Adeiladu annedd a garej yn yr ardd yn S?n y Môr, Llansadurnen, Talacharn, SA33 4RJ

 

Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a gwrthwynebydd i'r cais a oedd yn ail-bwysleisio’r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio gan gynnwys:

·         Effaith ar yr olygfa o'r eiddo preswyl cyfagos a'r dirwedd o'i gwmpas

·         Arolygwyr yn gwrthod apêl cynllunio yng Nghasnewydd sy'n debyg i'r cais dan sylw

·         Sefyllfa amlwg ar y dirwedd a dylid ei osod ar lefel is

·         Dim manylion penodol am y math o annedd fydd yn cael ei adeiladu

·         Effaith ar y briffordd leol o ran cynnydd mewn traffig a phryderon am ddarparu'r llain welededd, yr oedd rhan ohoni yn cynnwys mynediad blaen yr eiddo cyfagos

·         Dim system garthffosiaeth gyhoeddus

·         Effaith cynaliadwyedd

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, yr Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) a'r ymgeisydd i'r materion a godwyd.

W/39825

Estyniadau a newidiadau yn Fronafon, Login, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0TN

 

5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/39625

Datblygiad preswyl arfaethedig o 6 o unedau tai fforddiadwy. Mae'r cais hefyd yn cynnwys, seilwaith, gwaredu perth yn rhannol, gwelliannau i'r dirwedd, cynllun lliniaru a gwella bioamrywiaeth; ac unrhyw waith atodol ar dir oddi ar Heol Fawr, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JA

 

Cafwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a gwrthwynebydd yn ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau'r gwrthwynebu yn yr adroddiad gan gynnwys:

·         Cais am leihau graddfa'r datblygiad o 6 i 3 uned fforddiadwy

·         Effaith ar amwynder trigolion lleol

·         Effaith bosibl ar y rhwydwaith priffyrdd a achosir gan draffig ychwanegol, yn enwedig drwy Heol Fawr Abergwili yr effeithir arni gan y parcio presennol ar y stryd

·         Roedd damweiniau traffig ar y ffyrdd wedi digwydd yng nghyffiniau'r safle

·         Lleoliad yr orsaf bwmpio a'r posibilrwydd y gallai arogleuon gwael effeithio ar drigolion lleol.

 

RHESWM: i alluogi'r Pwyllgor i edrych ar y safle mewn perthynas â'r pryderon a fynegwyd ynghylch dwysedd y datblygiad arfaethedig a'i effaith bosibl ar y rhwydwaith priffyrdd lleol

 

(Sylwer: Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas, yn ystod y cyfarfod wedi dod yn ymwybodol ei fod yn adnabod y gwrthwynebydd, felly roedd wedi datgan diddordeb a gadael y cyfarfod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau