Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 9fed Gorffennaf, 2019 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen.  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, H.I. Jones, K. Madge a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A. Lenny

3.1 – Cais Cynllunio W/38447 – Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa (C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenestri Velux at do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW

 

 

 

 

 

 

Mae perthynas agos ac aelodau eraill o’r teulu yn byw ar stryd gyfagos - personol a rhagfarnol

C. Jones

3.1 - Cais Cynllunio W/38447 - Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa (C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenestri Velux at do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW

 

Mae'n byw yn agos i safle'r cais ac mae'r gwrthwynebwyr yn ffrindiau iddo.

A. Lenny

4.1 - Cais Cynllunio W/37401 – Dymchwel yr adeiladau presennol a'r slabiau telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd â'r maes parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac ehangu'r ffordd fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin, Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin, SA31 3AW

Mae perthynas agos ac aelodau eraill y teulu yn byw ar stryd gyfagos - personol a rhagfarnol

 

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

3.1

NEWID DEFNYDD Y LLAWR GWAELOD O BRESWYLFA (C3) I SIOP GOFFI DEFNYDD CYMYSG (A1/A3) AC YCHWANEGU TO AR OLEDDF I'R GAREJ AR WAHÂN YN Y CEFN AC YCHWANEGU FFENESTRI VELUX AT DO'R BRIF BRESWYLFA (AILGYFLWYNO CAIS W/37493), CROFT HOUSE, LLANSTEFFAN, CAERFYRDDIN, SA33 5LW pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwch: Gan fod y Cynghorwyr C. Jones ac A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, roeddent wedi gadael Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Mai 2019) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil gwrthwynebiadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad/atodiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylw yn gwrthwynebu'r cais gan ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio, y prif faterion oedd yn codi pryder oedd y byddai'r cynnig yn cael effaith niweidiol ar y busnesau eraill yn y pentref, colli preifatrwydd a goleuni i'r cymdogion cyfagos a byddai'n amharu ar gymeriad yr ardal a'r ardal gadwraeth o'i hamgylch.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/38447 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 565 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

W/37401

Dymchwel yr adeiladau presennol a'r slabiau telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd â'r maes parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac ehangu'r ffordd fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin, Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin, SA31 3AW

 

(NODER:

·         Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ystyried y mater.

·         Nid oedd y Cynghorydd I.W. Davies yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2019 ac er iddo aros yn y Siambr yn ystod y drafodaeth, nid oedd wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais].

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Swyddog Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio, yn ei gyfarfod ar 11 Mehefin 2019, wedi penderfynu gohirio'r cais hwn nes y cafwyd sylwadau gan CADW.  Dywedwyd bod sylwadau CADW wedi dod i law a'u bod wedi'u cynnwys yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. 

 

Cafwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gyda'r prif bwyslais ar y canlynol:

 

·         Mae heneb gofrestredig y Bulwarks o bwys cenedlaethol ac ni ddylid adeiladu dim o'i hamgylch rhag amharu ar arwyddocâd y gwrthgloddiau.

·         Dylid datblygu'r safle fel atyniad twristaidd hanesyddol neu ganolfan dreftadaeth.

·         Bwriad dynodi'r Bulwarks yn heneb gofrestredig yw ei diogelu rhag datblygiadau fel yr un a gynigir ar hyn o bryd.

·         Dyluniad annerbyniol y cynllun a'r raddfa o ran y siop newydd, mae ôl troed y siop cryn dipyn yn fwy na'r adeiladau presennol ar y safle.

·         Bydd y datblygiad yn hyll gan gymryd dros nenlinell Caerfyrddin ar yr ochr orllewinol gydag arwyddion a ffensys annymunol.

·         Effaith weledol y storfa newydd a'r ardal offer gyfagos ar Lôn Morfa.

·         Colli amwynder cymdogion o ganlyniad o ran nwyddau yn cael eu dosbarthu a llygredd golau.

·         Pryderon am yr oriau gweithredu a dylai'r amodau nodi na ddylid derbyn nwyddau cyn 6:00am nid 5:00am.

·         Byddai'r cynnig yn cael effaith niweidiol ar adeiladwaith yr heneb gofrestredig a'i lleoliad ac felly'n groes i bolisïau SP13, EQ1, GP1 a EQ5 y Cynllun Datblygu Lleol.

·         Effaith niweidiol ar ansawdd yr aer oherwydd y cynnydd posibl o NO2.

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch Amod 11 fel y manylir yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn nodi "Ni fydd unrhyw nwyddau yn cyrraedd y siop rhwng 23:00 a 05:00”.  Oherwydd bod y datblygiad yn agos at eiddo, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid ymestyn a diwygio'r amseroedd yn amod 11 i ddatgan "Ni fydd unrhyw nwyddau yn cyrraedd y siop rhwng 23:00 a 06:00 o’r gloch" yn hytrach na 05:00 o’r gloch.

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r amrywiol faterion a godwyd.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.