Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 11eg Mehefin, 2019 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A Lenny

5 - Cais Cynllunio W/37401 - Dymchwel yr adeiladau presennol a'r slabiau telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd â'r maes parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac ehangu'r ffordd fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin, Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin, SA31 3A

Mae perthynas agos ac aelodau teulu eraill yn byw ar stryd gyfagos - personol a rhagfarnol

 

 

3.

E/37947 - CADW CARAFAN SIPSIWN BRESWYL, GWAITH TIR A CHODI YSTAFELL DDYDD/AML-BWRPAS, PARCIO AR GYFER UN GARAFAN DEITHIOL, PARCIO A MAN TROI A GOSOD UN TANC SEPTIG AR DIR AR GAEAU TERNAYMAR, ODDI AR HEOL BRYNCETHIN, Y GARNANT, SA18 1YS pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Mai 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â phryderon ynghylch y priffyrdd a gweld lleoliad y garafán. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr Aelod Lleol, ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio,  lle mai'r prif bryderon oedd y dystiolaeth sy'n dangos statws yr ymgeisydd yn sipsi mewn perthynas â Pholisi H7.

 

Hefyd, mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch problemau posibl o ran cyflenwadau d?r yn yr ardal.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd gan yr Aelod Lleol a'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/37947 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

4.

W/37401 - DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL A'R SLABIAU TELATHREBU DIANGEN A CHODI SIOP LIDL Â LLEFYDD PARCIO CYSYLLTIEDIG, TREFNIADAU DOSBARTHU NWYDDAU A LLEDU'R HEOL FYNEDIAD BRESENNOL YN HEN ORSAF YR HEDDLU, PARC Y BRODYR LLWYD, CAERFYRDDIN, SA31 3AW pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr Is-gadeirydd).

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Mai 2019), er mwyn i'r Pwyllgor asesu'r effaith debygol y gallai'r datblygiad ei chael ar heneb gofrestredig Bullwark.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) wrth y Pwyllgor na chafwyd sylwadau gan CADW ac argymhellodd y dylai'r cais gael ei ohirio hyd nes y ceir ymateb.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau y tro nesaf y bydd y cais yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais hyd nes y ceir sylwadau gan CADW.