Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr. H.
I. Jones, M.J.A. Lewis a G.B. Thomas.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
D.
Jones
|
4.1 -
Rhif y Cais Cynllunio S/37227.
|
Mae
ganddi fuddiant rhagfarnol fel Aelod Lleol Ward Llannon.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 533 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau
a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
E/38245
|
Ymestyn cwrtil preswyl a gymeradwywyd ar
gyfer y breswylfa a chodi adeilad ategol i anghenion lleol y
breswylfa a'r tir o'i chwmpas ar y tir dan sylw sy'n rhan o
Ddolaugwynion ger Ffawyddog, Ffarmers, Llanwrda, SA19
8JW
|
E/38405
|
Stablau sy'n darparu cysgod i bedwar o
geffylau ynghyd ag ystafell harneisiau a llwybr bychan o amgylch
ôl troed y stablau ar dir gyferbyn â Brodawel,
Llandeilo, SA19 7TA
|
3.2
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol nes bod
Adroddiad Ecolegydd Cynllunio'r Awdurdod wedi dod i
law.
E/38576
|
Preswylfa unllawr â tho y gellir byw
ynddo a garej o dan yr un to ar dir ger 15 Heol Plas Gwyn,
Penygroes, Llanelli, SA14 7RY.
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 735 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio
canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle:
S/37227
|
Sychu a storio helyg o'r goedwig
gyfagos.Cloddio a gwaredu ardaloedd o lawr caled nas awdurdodwyd
gan gadw'n unig yr hyn sydd ei angen i ddarparu mynediad i gerbyd
i'r adeilad. Gwella mynediad i'r briffordd gyhoeddus ynghyd â
gweithredu strategaeth draeniad d?r wyneb gan gynnwys creu pwll
gwanhau newydd a draenio cysylltiedig ar dir yn Grugos Wood,
Llannon, Llanelli, SA14 8JH.
[Noder: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y
mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y
Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu
arno].
Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor
gynnal ymweliad safle er mwyn gweld yr effaith ar yr amgylchedd gan
gynnwys difrod i fawnogydd lleol ac
hefyd i asesu'r briffordd mewn perthynas â llifogydd a d?r
wyneb.
Yn unol
â Phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a
oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis
cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad
â'r safle.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad
arfaethedig ac i asesu effaith ar yr amgylchedd lleol, perygl
llifogydd a'r briffordd.
|
S/37727
|
Adeiladu bloc warws unllawr newydd ynghyd ag adeiladu
estyniad ail-lawr uwchben y swyddfa bresennol a gwaith cysylltiedig
i faes parcio, ffasâd a ffens
perimedr (cyfanswm arwynebedd arfaethedig - 800 metr sgwâr)
yn CK's Stores,
Heol Arglawdd, Llanelli, SA15 2BT
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil
pryderon a godwyd ynghylch amwynder gweledol a'r effaith bosibl ar
eiddo cyfagos.
|
4.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol
yn amodol ar gadarnhau manylion adran 106 a chael eglurder ynghylch
canfyddiadau mewn perthynas â phroblemau posib o ran y
draeniad presennol.
S/38544
|
Adeiladu 17 o breswylfeydd, heol yr ystad ac
isadeiledd cysylltiedig (adolygu cynllun y safle a manylion y math
o d? a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio S/27674) ar dir
Parc Gwernen, Fforestfach, Tycroes, Rhydaman, SA18 3PR
Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr
aelod lleol, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio gan gynnwys pryderon
mewn perthynas â:
- lleoliadau'r lleiniau
- colli preifatrwydd;
- perygl o lifogydd
- problemau presennol ynghylch d?r wyneb
;
- problemau presennol ynghylch d?r
carthffosiaeth yn gorlifo mewn gerddi
- angen am gytundeb adran 106;
- mabwysiadu ffyrdd;
- effaith y byddai tai ychwanegol yn ei chael
ar isadeiledd y pentref;
- effaith ar ysgolion lleol sydd eisoes yn
gweithio i'w capasiti llawn;
- does dim llwybrau diogel ar hyd y briffordd
e.e. palmant i'r siopau lleol
- colli parc a meysydd chwarae;
- rhoddwyd caniatâd eisoes i adeiladu
200+ o dai yn y ward.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu
(Rhanbarth y De) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) i'r
materion a godwyd.
|
4.2 PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y
manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio:-
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 503 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn
amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth
Cynllunio:-
W/36511
|
Ffurfio maes parcio newydd yn lle'r hen un
ar gyfer hen geir a bws mini ar dir sy'n rhan o Skanda Vale,
Llanpumsaint, Caerfyrddin, SA33 6JT
|
5.2
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y
manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth
Cynllunio:-
W/38647
|
Newid defnydd o breswylfa (dosbarth C3) i d?
amlfeddiannaeth 5 ystafell wely (dosbarth C4) yn 20 Heol Parcmaen,
Caerfyrddin, SA31 3DP
Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr
aelod lleol, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio lle roedd y prif
bryderon yn ymwneud â'r canlynol:
- Prinder lle parcio ar Heol Parcmaen yn
bennaf wedi oriau gwaith
- Newid defnydd o fod yn gartref teuluol i fod
yn d? amlfeddiannaeth arall.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r
materion a godwyd.
|
|
6. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 MAI 2019 PDF 325 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Mai 2019 yn gofnod
cywir.
|