Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 4ydd Ebrill, 2019 11.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd K. Madge

4 - Cais Cynllunio E/37177 - Cais am lety hunanarlwyo a Gwely a Brecwast newydd i dwristiaid ynghyd â llety i reolwyr a sba, sy'n cael eu darparu drwy bedair uned breswyl a gosod carafán breswyl dros dro yng Ngolygfa Aberhonddu Brecon View Eco Village, ar dir i'r gogledd o Heol Dinefwr, y Garnant, Rhydaman;

Wedi derbyn triniaeth gan yr ymgeisydd.

 

3.

E/37577 - PRESWYLFA YN LLE'R UN BRESENNOL AC ADEILADU PRESWYLFA AR WAHÂN AC IDDI DDAU LAWR Â 3 YSTAFELL WELY YN LLETTYLICKY, CRUG-Y-BAR, LLANWRDA, SA19 8SL pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Mawrth, 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle ac ar yr eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/37577 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y barnwyd nad yw'n groes i Bolisi H4, yn amodol ar yr amodau i'w drafftio gan y Pennaeth Cynllunio a fydd yn cynnwys cyflwyno cynllun tirweddu addas a dymchwel y ffermdy presennol.

 

 

4.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 998 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/37177

Cais am lety hunanarlwyo a Gwely a Brecwast newydd i dwristiaid ynghyd â llety i reolwyr a sba, sy'n cael eu darparu drwy bedair uned breswyl a gosod carafán breswyl dros dro yng Ngolygfa Aberhonddu Brecon View Eco Village, ar dir i'r gogledd o Heol Dinefwr, y Garnant, Rhydaman.

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd K. Madge Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 932 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/34180

Ciwbiclau newydd i letya stoc ifanc (ôl-weithredol) ar Fferm Cwmberem, Pontyberem, Llanelli, SA15 5BP.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, gan ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

·         Cais yn ôl-weithredol;

·         Agosrwydd y sied;

·         Maint y datblygiad yn enfawr;

·         Diogelwch y ffyrdd;

·         Colli amwynder

·         Cais i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried unrhyw newidiadau pellach.

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r ymgeisydd i'r materion a godwyd.

 

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 928 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/38461

Caniatâd Ardal Gadwraeth i adnewyddu caniatâd cynllunio sydd wedi dod i ben (W/20488), preswylfa a garej yn 14 Heol Gwermont, Llan-saint, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, SA17 5JA.

 

 

 

7.

COFNODION - 7FED MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 7 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.