Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards a'r Cynghorydd K. Lloyd.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. James Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle a threfniadau o ran mynediad. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) bod argymhellion ar gyfer gwrthod wedi dod i law gan Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn a bod yr Aelodau Lleol wedi ymateb ar ran y preswylwyr lleol. Roedd y prif faterion a oedd yn peri pryder yn ymwneud â'r mynediad a'r sefyllfa parcio ceir bresennol yn Stryd Parc-y-minos, a'r problemau o ran draenio d?r wyneb yn ystod cyfnodau o law trwm.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd fel y manylir arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
Nododd yr Aelodau nad oedd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth wedi gwrthwynebu'r cais a'u bod yn credu bod yr argymhellion yn adlewyrchu defnydd sefydledig y safle a'r ffaith fod y datblygiad arfaethedig yn cael ei ystyried fel y defnydd lleiaf dwys o'r safle.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/38052, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 6.4 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle a threfniadau o ran mynediad. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) y dylai argymhelliad gwrthod rhif 2 yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ddarllen fel a ganlyn:
'Mae'r cynnig yn groes i baragraffau 9.3.6 o Bolisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10, Rhagfyr 2018), sy'n nodi:-'
Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain), er nad oedd Cyngor Cymuned Llannewydd a Merthyr yn gwrthwynebu'r cais, fod nifer o bryderon wedi'u cyflwyno ynghyd â llythyrau gan bedwar cartref cyfagos yn ogystal â deiseb a oedd wedi'i llofnodi gan ugain o bobl. Roedd y prif faterion y soniwyd amdanynt yn ymwneud â'r canlynol:
· diffyg cyfleusterau i gerddwyr rhwng pentrefan Sarnau a'r pentref agosaf sef Bancyfelin; · cyflymder y ffordd, sef y terfyn cyflymder cenedlaethol gyda thraffig parhaus; · yr hawl dramwy breifat drwy safle'r cais i gefn eu heiddo er mwyn gallu gwagio tanciau septig/carthbyllau.
Daeth pryderon pellach i law gan eiddo cyfagos gan fynegi nifer o faterion yn ymwneud â'r datblygiad arfaethedig, y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
Roedd gan y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth bryderon yn ymwneud â safonau gwelededd ar leoliad mynedfa arfaethedig y safle tua'r gorllewin a bod y cais yn groes i Bolisi TR3.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio W/37267 am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod.
|