Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, K. Madge a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd B.D.J. Phillips

5.2 - Ceisiadau Cynllunio: W/38261, W/38262 a W/38263

Yr ymgeisydd yn berthynas iddo.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 450 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/39168

Newid defnydd a helaethu'r adeilad presennol i fod yn safle bwyd twym A3 sy'n cynnwys dosbarthu a chasglu prydau twym, a chadw'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol (dros dro) ar gyfer defnydd adwerthu A1 er mwyn gwerthu gynnau ac arfau yn 2 Ffordd y Glowyr, Betws, Rhydaman, SA18 2FG

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39356

Adeiladu preswylfa 4 ystafell wely ar dir y tu cefn i 43 Heol Penllwyngwyn, y Bryn, Llanelli, SA14 9UG

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] fod yr atodiad i'r adroddiad yn cynnwys newid camgymeriad teipio.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 909 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1   PENDERFYNWYDgwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod y datblygiad arfaethedig yn groes i Bolisi TR3 a TAN18  oherwydd pryderon am ddiogelwch priffyrdd a'r effaith sylweddol ar drigolion lleol;

 

W/38125

Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE

 

Atgoffodd y Swyddog Rheoli Datblygu yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2019 er mwyn i'r ymgeisydd, y tirfeddiannwr cyfagos a'r swyddogion drafod mynediad arall posibl i'r datblygiad drwy Ffordd yr Eglwys.

 

Dywedwyd bod yr ymgeisydd, mewn ymateb i'r gohiriad, wedi asesu ymhellach y mynediad i'r datblygiad ac wedi cadarnhau na fyddai awgrym y Pwyllgor i gael mynediad arall drwy Ffordd yr Eglwys yn bosibl am y rhesymau a amlinellwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn nodi er bod y datblygiad yn cael ei groesawu mewn egwyddor, nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau pellach wedi cael eu gwneud i'r cais i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â mynediad. Roedd felly yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig oherwydd y pryderon diogelwch o ran y dull mynediad arfaethedig i'r datblygiad fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r Cynlluniwr Trafnidiaeth i'r materion a godwyd.

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yng ngheisiadau cynllunio W/38261, W/38262 a W/38263 yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y ceisiadau a phenderfynu arnynt.]

 

W/38261

Gwaredu'r adeilad cerrig sydd wedi cwympo ac adeiladu 1 breswylfa ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin, SA34 0Eh

 

W/38262

Gwaredu'r adeilad cerrig sydd wedi cwympo ac adeiladu 1 breswylfa ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin,SA34 0EH

 

W/38263

Dymchwel a gwaredu adeiladau amaethyddol adfeiliedig, ac adeiladu preswylfa newydd â 3 ystafell wely ar dir ger Pen-y-Bont, 1 Pen-y-Bont, Llanboidy, Hendy-Gwyn ar Daf, Caerfyrddin, SA34 0EH

 

5.3    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/38893

Mae'r cais cynllunio hwn ar gyfer Datblygiad Garddwriaethol cynaliadwy isel ei effaith dan Bolisi Llywodraeth Cymru Tan 6, Datblygiad Un Blaned. Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ystyried yn dir amaethyddol a bydd y cais yn cynnwys newid defnydd y tir neu ran ohono at ddefnydd preswyl ym Mharc yr Odyn, Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0XT.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a dywedodd er ei fod yn cefnogi'r cais, nododd y cafodd cais blaenorol ei wrthod ar gyfer cyn-berchennog y safle. Mewn ymateb i'r sylw, eglurodd y Swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y Gorllewin] i'r Pwyllgor y prif  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MEDI 2019 pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2019 yn gofnod cywir.