Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.M. Allen

3.1 – Cais Cynllunio W/37160 –  Adeilad amaethyddol i storio peiriannau fferm, biniau bwyd ar gyfer da byw a storio cynnyrch, Pwll Llallau, Cwmfelin-boeth, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0RU

Mae un o'r gwrthwynebwyr yn ffrind iddi

 

 

3.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 983 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37160

Adeilad amaethyddol i storio peiriannau fferm, biniau bwyd ar gyfer da byw a storio cynnyrch, Pwll Llallau, Cwmfelin-boeth, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0RU

 

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd S. M. Allen, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y cais)

 

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal yn ymwneud â pherchenogaeth tir ac er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:

 

W/38125

Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE

 

Y RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau o ran mynd i mewn ac allan o'r safle yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd.

 

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

4.1

19EG MAWRTH, 2019 pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.2

4YDD EBRILL 2019 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y bleidlais ynghylch ceisiadau cynllunio E/37577 a S/34180 a dywedwyd bod 'penderfynwyd yn unfrydol' wedi cael ei gofnodi'n anghywir ac y dylai 'penderfynwyd’ fod wedi cael ei gofnodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2019 yn gofnod cywir yn amodol ar newid y penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio  E/37577 a S/34180 i ddarllen 'PENDERFYNWYD’.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau