Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, J.K. Howell, K. Lloyd, G.B. Thomas a J.E. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/35318

Materion a gadwyd yn ôl yn dilyn Cais Cynllunio Amlinell E/29537 dyddiedig 25/03/2014 – manylion y lleoliad, dyluniad, gwedd allanol, tirweddu a dull mynediad ynghyd â diddymu amodau rhif 5, 6, 9, 10 ac 11 ar dir ger rhif  24 Parc Tir y Coed, Rhydaman, SA18 2HF.

 

 

3.2       PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/35478

Atgyweirio Capel Salem a'i addasu'n un breswylfa, Capel Salem, Heol Campbell, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3UP

 

Cafwyd sylw a gefnogai'r cais gan fod yr adeilad yng nghanol y pentref a bod ei gyflwr wedi gwaethygu'n gyson ers 2005, a oedd yn annheg i'r cymdogion gan fod gwerth eu heiddo'n gostwng o ganlyniad. Gan fod yr eiddo'n wag, roedd yn destun fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd llechi'n cael eu rhwygo o'r to, a'r farn oedd y byddai'n well o lawer petai'n gartref teuluol.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

3.3       PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod y cais yn groes i Bolisi GP1 o'r CDLl, gan fyddai graddfa ac uchder y breswylfa arfaethedig yn arwain at effaith niweidiol ar eiddo cyfagos:-

 

E/36077

Preswylfa ddeulawr arfaethedig a garej ar wahân ar dir gyferbyn â Brodawel, Llandeilo, SA19 7TA.

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

·       Nid oedd yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn addas ar gyfer y lleoliad a byddai preswylfa un llawr yn fwy priodol;

·       Byddai'r breswylfa arfaethedig ac uchder y llawr yn sylweddol uwch na'r eiddo cyfagos;

·       Roedd y garej yn agos iawn i'r ffin a byddai'n ormesol;

·       Roedd y datblygiad arfaethedig mewn clwstwr bach o dai un llawr felly byddai'n  tynnu sylw;

·       Roedd y cynnig ar gyfer t? mawr, garej a thramwyfa oll ar safle bach yn gyfystyr â gorddatblygu;

·       Roedd y cynnig yn groes i sawl agwedd ar y CDLl ac yn benodol Polisi GP1;

·       Roedd yr amodau o ran priffyrdd yn cyfeirio at y ffaith y dylid defnyddio'r safle i godi eiddo un llawr.

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cais am ymweliad safle, ond yn dilyn pleidlais ni chafwyd y cais ei chaniatau.

 

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/35783

Cyfleuster ystorfa archif newydd tu cefn i'r llyfrgell bresennol.  Yn cynnwys mynedfa newydd â ramp i'r staff o'r maes parcio cyhoeddus; pafin penwn glas newydd i fynedfa staff yr archif. Y cynigion i gynnwys grisiau tân newydd yn y llyfrgell bresennol ar dir ger Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN

 

W/35784

Cyfleuster ystorfa archif newydd tu cefn i'r llyfrgell bresennol.  Yn cynnwys mynedfa newydd â ramp i'r staff o'r maes parcio cyhoeddus; pafin penwn glas newydd i fynedfa staff yr archif. Y cynigion i gynnwys grisiau tân newydd yn y llyfrgell bresennol ar dir ger Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN

 

 

4.2       PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36312

Atgyweirio a chryfhau'r wal derfyn yn 1 Parc Starling, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3HX.

 

Daeth sylw i law a gefnogai'r cais uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·        Roedd y wal yn fwy diogel nag o'r blaen;

·        Roedd yr ymgeisydd yn mynd i wella gorffeniad y wal;

·        Roedd waliau eraill tebyg yn y sir

 

 

4.3    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safleoedd:-

 

W/35450

Datblygiad preswyl arfaethedig gan gynnwys 42 o breswylfeydd ar dir ger Ysgol Gynradd Talacharn, Talacharn, SA33 4SQ

 

Y RHESWM:  Oherwydd pryderon a godwyd ynghylch diogelwch ffyrdd.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch y cynnydd mewn traffig ac ynghylch diogelwch cerddwyr, yn enwedig plant oedd yn cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol.

 

Yn unol â Phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cadw eu sylwadau tan y cyfarfod ar ôl yr ymweliad safle.

 

W/35655

Adeiladu warws ailgylchu teiars â swyddfeydd cysylltiedig, iard weithredol, closydd storio a seilwaith ategol ar dir oddi ar Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3QY

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon ynghylch agosrwydd eiddo preswyl a diogelwch priffyrdd.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch agosrwydd eiddo preswyl a hefyd y ffaith bod pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd yn bodoli ar hyn o bryd yn yr ardal.

 

W/36194

Dymchwel y byngalo ac adeiladu t? yn ei le a garej (ailgyflwyno W/35643) yn S?n y Môr, Glanyfferi, SA17 5RS

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle er mwyn cael amcan o'r breswylfa arfaethedig mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i'w alluogi i weld y byngalo presennol a chael amcan o'r breswylfa y bwriedir ei chodi yn ei le, a gweld a fyddai unrhyw effaith niweidiol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GORFODI AMODAU CYNLLUNIO A'U MONITRO DANGOSYDDION PERFFORMIAD - CHWARTER 1 pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar berfformiad mewn perthynas â thargedau Dangosyddion Perfformiad Cynllunio Cenedlaethol Gwerth Gorau ar gyfer camau gorfodi am y cyfnod Ebrill-Mehefin 2017 (chwarter 1)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch y Dangosyddion Perfformiad o ran Monitro a Gorfodi Rheolau Cynllunio ar gyfer Chwarter 1.

 

 

6.

GORFODI AMODAU CYNLLUNIO A'U MONITRO DANGOSYDDION PERFFORMIAD - CHWARTER 2 pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar berfformiad mewn perthynas â thargedau Dangosyddion Perfformiad Cynllunio Cenedlaethol Gwerth Gorau ar gyfer camau gorfodi am y cyfnod Gorffennaf-Medi 2017 (chwarter 2)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch y Dangosyddion Perfformiad o ran Monitro a Gorfodi Rheolau Cynllunio ar gyfer Chwarter 2.

 

 

 

7.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

7.1

3YDD HYDREF, 2017; pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2017, gan eu bod yn gywir. 

 

 

7.2

19EG HYDREF, 2017 pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Medi 2017, gan eu bod yn gywir. 

 

8.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 12, 13, 17 A 18 O RAN 1 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, 13, 17 ac 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

9.

GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO A MONITRO ACHOSION GORFODI - CHWARTER 1

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch y canlynol;

·                 Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol;

·                 Paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw;

·                 Paragraff 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n datgelu bod yr awdurdod yn bwriadu:

·                 rhoi, o dan unrhyw ddeddfiad, rybudd a fyddai'n gosod gofynion ar unigolyn; neu

·                 gwneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddfiad.

·                 Paragraff 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf - Gwybodaeth am unrhyw gamau a gymerwyd neu sydd i'w cymryd mewn perthynas ag atal trosedd, ymchwilio i drosedd neu erlyn trosedd.

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am achosion lle ystyrid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn trydydd partïon, a hynny weithiau mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y trydydd parti yn ymwybodol o'r camau yr ystyrid eu cymryd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol am y trydydd parti, ac weithiau'n enwi achwynydd. Roedd budd i'r cyhoedd o ran cael sicrwydd bod arferion cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â chymryd camau gorfodi yn gyfreithlon, yn deg ac yn unol â'i bolisïau a'i weithdrefnau. Fodd bynnag, petai manylion ynghylch achosion unigol yn cael eu datgelu i'r cyhoedd ar hyn o bryd, byddai hynny'n debygol o beryglu'r ymchwiliad a hefyd gallai hynny fynd yn groes i ddyletswydd cyfrinachedd yr Awdurdod mewn perthynas ag ymdrin â chwyn. Felly ar ôl pwyso a mesur, barnwyd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y Pennaeth Cynllunio am y camau gorfodi yr oedd wedi eu cymryd yn unol â'r pwerau oedd wedi eu dirprwyo iddi am y cyfnod Ebrill-Mehefin 2017 (chwarter 1).

 

10.

GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO A MONITRO ACHOSION GORFODI - CHWARTER 2

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch y canlynol;

·                 Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol;

·                 Paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw;

·                 Paragraff 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n datgelu bod yr awdurdod yn bwriadu:

·                 rhoi, o dan unrhyw ddeddfiad, rybudd a fyddai'n gosod gofynion ar unigolyn; neu

·                 gwneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddfiad.

·                 Paragraff 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf - Gwybodaeth am unrhyw gamau a gymerwyd neu sydd i'w cymryd mewn perthynas ag atal trosedd, ymchwilio i drosedd neu erlyn trosedd.

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am achosion lle ystyrid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn trydydd partïon, a hynny weithiau mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y trydydd parti yn ymwybodol o'r camau yr ystyrid eu cymryd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol am y trydydd parti, ac weithiau'n enwi achwynydd. Roedd budd i'r cyhoedd o ran cael sicrwydd bod arferion cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â chymryd camau gorfodi yn gyfreithlon, yn deg ac yn unol â'i bolisïau a'i weithdrefnau. Fodd bynnag, petai manylion ynghylch achosion unigol yn cael eu datgelu i'r cyhoedd ar hyn o bryd, byddai hynny'n debygol o beryglu'r ymchwiliad a hefyd gallai hynny fynd yn groes i ddyletswydd cyfrinachedd yr Awdurdod mewn perthynas ag ymdrin â chwyn. Felly ar ôl pwyso a mesur, barnwyd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y Pennaeth Cynllunio am y camau gorfodi yr oedd wedi eu cymryd yn unol â'r pwerau oedd wedi eu dirprwyo iddi am y cyfnod Gorffennaf-Medi 2017 (chwarter 2).

 

[SYLWCH:  Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw weddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.]

 

 

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau