Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas
01267 224027
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.
Bowen, P. M. Edwards, K. Lloyd a G.B. Thomas
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y
Cynghorydd
|
Rhif y
Cofnod
|
Y Math
o Fuddiant
|
D.
Jones
|
3.1
– Cais Cynllunio S/35911 – Cais am gynyddu'r oriau
gweithredu ar gyfer Uned 8 i ganiatáu iddi agor tan 02:00
bob dydd, Uned 8, Parc Manwerthu Cross Hands, Cross Hands,
Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 6NB
|
Wedi
trafod y mater yn flaenorol yn y Cyngor Cymuned lleol ac â
thrigolion
|
|
3. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/35911
|
Cais am gynyddu'r oriau gweithredu ar gyfer
Uned 8 i ganiatáu iddi agor tan 02:00 bob dydd, Uned 8, Parc
Manwerthu Cross Hands, Cross Hands, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14
6NB
(NODER:
Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach,
gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor
ystyried y mater a phenderfynu arno)
|
S/36017
|
Adeiladu garej newydd ar y llawr gwaelod
ynghyd â fflat breswyl ar y llawr cyntaf, Rhodfa Parc Howard,
Llanelli, SA15 3LQ
|
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â'r safleoedd:
S/35791
|
Codi preswylfa newydd ar dir yn 7 Heol y
Pwll, y Pwll, Llanelli
Y
RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar leoliad yr eiddo a
materion o ran parcio ceir.
Yn unol
â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwr oedd
wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno
ei sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r
safle
|
S/36018
|
Addasu a helaethu ysgubor i greu rhandy
preswyl ar gyfer aelodau teulu'r breswylfa gyfagos, Llwyn y Rhos,
Heol Cwper, Rhydaman:-
Gwnaed
cais am i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i gael golwg ar leoliad
yr eiddo mewn perthynas â'r ardal gyfagos ac ar y sail na
fyddai uchder y to yn achosi unrhyw niwed i'r dirwedd gan ei fod yn
edrych fel petai'n rhan o adeiladau'r fferm.
Daeth
sylw i law a oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio rhai o'r
pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gan
gynnwys y canlynol:-
·
Roedd y cais yn ymwneud
â chadw gwaith a wnaed eisoes i'r eiddo i hwyluso darparu
llety ar gyfer perthynas oedrannus oedd yn dymuno dychwelyd i'r
ardal i gael cymorth gan y teulu.
·
Nod yr estyniad arfaethedig
oedd hwyluso darparu rhandy ag ystafell ymolchi i berson
anabl.
·
Roedd y Pennaeth Cynllunio
wedi cadarnhau bod newid y defnydd o lety gwyliau i ddefnydd
preswyl yn dderbyniol.
|
|
·
Argymhellwyd bod y cais yn
cael ei wrthod ar y sail y byddai'n niweidiol i gymeriad a golwg yr
ysgubor wreiddiol a'r ardal gyfagos. Dadleuwyd y byddai'r rhandy
arfaethedig, a fyddai'n cael ei leoli tua 500 metr o'r briffordd,
yn gweddu i'r ardal gyfagos ac na fyddai'n uwch na th?'r
teulu.
·
Nid oedd unrhyw wrthwynebiad
i'r cais wedi cael ei gyflwyno gan y cymdogion na'r cyngor cymuned
lleol.
Ni
fyddai'r cynnig ar y safle yn gyfan gwbl ac ni fyddai'n niweidiol
i'r amwynder lleol na'r cymdogion.
Y
RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad mewn
perthynas â'r ardal gyfagos
|
3.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn gallu cael trafodaethau
gyda'r ymgeisydd ynghylch cyfraniad ariannol tuag at ddarparu tai
fforddiadwy:-
|
4. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 945 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cais
cynllunio canlynol i'r Pwyllgor ei ystyried wedi cael ei dynnu'n
ôl:
W/35898
|
Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer
Sarnau Motors, cae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin,
Caerfyrddin
|
|
5. |
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR
Dogfennau ychwanegol:
|
5.1 |
5ED MEDI 2017 PDF 183 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y
cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 5 Medi, 2017 i nodi eu bod yn
gywir.
|
5.2 |
21AIN MEDI 2017 PDF 166 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y
cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 21 Medi, 2017 i nodi eu bod yn
gywir.
|