Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, I.W. Davies, W.T.E. Evans, H.I. Jones, M.J.A. Lewis, K. Madge a B.A.L. Roberts.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. James

3 – Cais Cynllunio E/33695;

Cais cynllunio llawn i godi uned ddofednod ar fferm er mwyn cadw ieir maes (i gynhyrchu wyau) ynghyd â biniau bwydydd cysylltiedig, mynediad mewnol o'r fferm a gwaith cysylltiedig yng Ngodre Garreg, Llangadog, SA19 9DA

Gwerthodd dir i'r ymgeisydd.

S.M. Allen

 

 

 

4 – Cais Cynllunio W/35461;

adeiladu 30 preswylfa a gwaith seilwaith cysylltiedig ar y safle (safle diwygiedig) ar dir y tu cefn i Gae Ffynnon, Bancyfelin, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA33 5DQ

Fe'i penodwyd yn sylwedydd y Cyngor ar Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

 

3.

E/33695 - CAIS CYNLLUNIO LLAWN I GODI UNED DDOFEDNOD AR FFERM ER MWYN CADW IEIR MAES (I GYNHYRCHU WYAU) YNGHYD Â BINIAU BWYDYDD CYSYLLTIEDIG, MYNEDIAD MEWNOL O'R FFERM A GWAITH CYSYLLTIEDIG YNG NGODRE GARREG, LLANGADOG, SA19 9DA pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Awst 2017) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y trefniadau o ran mynediad yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ar y ffordd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

Daeth sylw i law a oedd yn ategu'r gwrthwynebiadau a fynegwyd yn y cyfarfod ar 24 Awst 2017 a'r rhai y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio; roedd y prif feysydd a oedd yn peri pryder yn ymwneud â lleoliad yr uned a'r ffaith y byddai'n agos at dai cyfagos, a phroblemau iechyd a allai godi.

 

Ar ôl cael cyngor am ei sefyllfa gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith cyn y cyfarfod, bu i'r aelod lleol, y Cynghorydd A. James, ddatgan buddiant yn yr eitem hon; anerchodd y Pwyllgor – o blaid y cais – a gadawodd y cyfarfod.  

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio E/33695, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau EMP 4 a TR3 a Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

4.

W/35461 - ADEILADU 30 PRESWYLFA A GWAITH SEILWAITH CYSYLLTIEDIG AR Y SAFLE (SAFLE DIWYGIEDIG), TIR Y TU CEFN I GAE FFYNNON, BANCYFELIN, CAERFYRDDIN, SIR GAERFYRDDIN, SA33 5DQ pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[NODER:  Bu i'r Cynghorydd S. M. Allen ddatgan buddiant personol yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 21 Medi 2017) a gynhaliwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle arfaethedig y datblygiad ac ystyried y pryderon o ran d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal, ynghyd â'r effaith y gallai'r datblygiad ei gael ar bentref Bancyfelin a'r pryderon sy'n bodoli o ran parcio wrth ysgol y pentref a diogelwch ar y priffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

Daeth sylwadau i law a oedd yn ategu'r gwrthwynebiadau a fynegwyd yn y cyfarfod ar 21 Medi 2017 a'r rhai y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio; roedd y prif feysydd a oedd yn peri pryder yn ymwneud â draenio d?r, llifogydd a mynediad.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio W/35461 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, ynghyd â Chytundeb Adran 106. 

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 931 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:

 

S/35996

Estyniad i'r man parcio ar lawr caled sy'n bodoli eisoes (ôl-weithredol) yn 32 - 34 Beidr Non, Llannon, Llanelli, SA14 6BA

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau