Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 21ain Medi, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Er mwyn datrys anawsterau technegol, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 10:45am a'i ailymgynnull am 11:05am]

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen, J.A. Davies, H.I. Jones, J.K. Howell, B.A.L. Roberts a J.E Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G. B. Thomas

4.2 – Cais Cynllunio S/35823
Dymchwel y breswylfa bresennol (Hen Goitre) ac adeiladu preswylfa ddeulawr ar wahân â 4 ystafell wely yn Hen Goitre, Yr Hendy, Llanelli, SA4 0YQ.

Ei fab yw'r ymgeisydd.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD yn unol ag Atodiad y Pennaeth Cynllunio ac ar gais asiant yr ymgeisydd, bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

E/35478

Atgyweirio ac addasu Capel Salem yn un breswylfa, Capel Salem, Heol Campbell, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3UP.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 734 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/33277

Datblygiad preswyl ar dir ger Maretta, Pump-hewl, Llanelli, SA15 5YT

 

4.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/35823

Dymchwel y breswylfa bresennol (Hen Goitre) ac adeiladu preswylfa ddeulawr ar wahân â 4 ystafell wely yn Hen Goitre, Yr Hendy, Llanelli, SA4 0YQ.

 

SYLWER: Gan i'r Cynghorydd G.B. Thomas ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.

 

4.3    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safleoedd:-

 

S/35875

Datblygiad preswyl - cais cynllunio amlinell ar gyfer 3 o breswylfeydd ar wahân (ailgyflwyno cais S/33484 - gwrthodwyd yr apêl ar 25/11/16) ar dir ger Hen Soar Fach, Heol Mynachlog, Pontyberem, Llanelli, SA15 5EY

 

Y RHESWM: er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu'r effaith bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar barcio a llif traffig.

 

S/35189

Lleoli dau d? ar wahân ar dir ar safle hen felin goed Cwmblawd, Heol Llannon, Pontyberem, Llanelli, SA15 5NB

 

Y RHESWM: rhoi cyfle i garfan newydd o aelodau'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle o ystyried mai dim ond 6 o'i aelodau presennol oedd yn aelodau'r Pwyllgor Cynllunio cyn Etholiadau 2017 ym mis Mai. Cynhaliwyd ymweliad safle eisoes ar 19 Ebrill 2017.

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 659 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1       Rhoddodd yr Uwch-swyddog Monitro a Gorfodi wybod i'r Pwyllgor bod y cais canlynol wedi cael ei dynnu'n ôl i'w ystyried yn y cyfarfod er mwyn datrys materion a phryderon ychwanegol sydd wedi cael eu codi.

 

W/35336

Adeiladu preswylfa ar dir yn Frondeg, 2 Bro Rhydybont, Llanybydder, SA40 9QX

 

5.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/35461

Adeiladu 30 preswylfa a gwaith seilwaith cysylltiedig ar y safle (safle diwygiedig) ar dir y tu cefn i Gae Ffynnon, Bancyfelin, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA33 5DQ

 

Roedd sylw wedi dod i law gan yr aelod lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i weld lleoliad arfaethedig y datblygiad ac i ystyried y pryderon mewn perthynas â:-

·         d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal;

·         effaith bosibl y datblygiad ar bentref Bancyfelin;

·         problemau parcio presennol ger ysgol y pentref a phryderon o ran diogelwch priffyrdd.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd P. Hughes yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ac nid yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd un o'r gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis rhoi ei sylwadau yn ystod cyfarfod heddiw yn hytrach na'r cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle.  Aeth y Pwyllgor felly ymlaen i gael y sylwadau yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·       Pryderon ynghylch d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal.

·       Mae'r problemau presennol a gwaredu'r draeniad naturiol yn debygol o ychwanegu at y problemau presennol ar hyd Stryd Fawr ac achosi problem llifogydd i breswylwyr y stryd.

·       Nid yw'r cais yn cyfeirio o gwbl at y ffaith fod rhan o'r datblygiad yn cael ei hadeiladu ar orlifdir.

 

[Sylwer: darparodd y gwrthwynebydd dystiolaeth fideo i'r Swyddogion Cynllunio o lif d?r wyneb yn yr ardal yn ystod glaw trwm.]

 

Dewisodd asiant yr ymgeisydd gyflwyno ei sylwadau yng nghyfarfod yr ymweliad safle.


 

5.3       PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/35973

SGWÂR CYHOEDDUS NEWYDD, CAFFI AC UNEDAU BUSNES BACH YN YR ARDAL GYHOEDDUS BRESENNOL SY'N GOFYN AM WAREDU'R RHEILIAU/WALIAU PRESENNOL, SGWÂR JACKSONS LANE, CAERFYRDDIN,  SA31 1QD

 

Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio lle mai'r prif bwyslais oedd yr effaith ar yr ardal gadwraeth drwy newid dros 50% o'r gwyrddni am lecyn wedi'i balmantu, darparu sgrin deledu fawr a'r farn bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol SP1 a GP1.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y ddau wrthwynebydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynllunio o natur y cais cynllunio a oedd yn gofyn am waredu'r rheiliau a'r waliau presennol yn unig.

 

Daeth sylw o blaid y datblygiad arfaethedig a mynegwyd barn petai'r cais yn cael ei ganiatáu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

6.1

27AIN GORFFENNAF 2017 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 27 Gorffennaf, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

6.2

8FED AWST 2017 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 8 Awst, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

6.3

24AIN AWST 2017 pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 24 Awst, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

[Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw weddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.]