Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a J.E. Williams. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, bu'r Cynghorydd G.B. Thomas yn annerch y Pwyllgor gan wrthwynebu'r cais cynllunio ac wedyn gadawodd Siambr y Cyngor ac nid oedd yn rhan o drafod y cais na gwneud penderfyniad yn ei gylch.
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Gorffennaf 2017) er mwyn i'r Pwyllgor asesu pa mor addas oedd y safle yn sgil pryderon ei fod yn serth a materion o ran mynediad. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle roedd y prif bryder a gwrthwynebiad yn ymwneud â'r posibilrwydd o lifogydd d?r arwyneb yn effeithio ar dai islaw'r safle ar hyd Heol Clayton a Heol Iscoed ym Mhontarddulais o ganlyniad i gynnydd yn y d?r ffo o'r safle.
Ymatebodd yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/34537, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, bu'r Cynghorydd G.B. Thomas yn annerch y Pwyllgor gan wrthwynebu'r cais cynllunio ac wedyn gadawodd Siambr y Cyngor ac nid oedd yn rhan o drafod y cais na gwneud penderfyniad yn ei gylch.
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu ar gyfer Mwynau a Gwastraff at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Awst 2017) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y trefniadau o ran mynediad yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo'r fersiwn diwygiedig o'r Prawf o Effeithiau Sylweddol Tebygol.
Cafwyd sylwadau ar ran trigolion Llangennech oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig ac yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio lle roedd prif bwyslais y gwrthwynebiadau yn ymwneud ag effaith bosibl hyd at 60 o deithiau ychwanegol y dydd gan gerbydau nwyddau trwm fel rhan o'r datblygiad ar ddiogelwch traffig wrth y gyffordd â'r B4297 lle mae'n cwrdd â'r A4138 (a elwir yn Oleuadau Talyclun) ynghyd â'r tagfeydd presennol wrth gyffordd 48 ar yr M4.
Ymatebodd yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol - Cydgysylltu Cynllunio i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio S/34071 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac ar yr amod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo'r Prawf o Effeithiau Sylweddol Tebygol.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Wrth ystyried y cais hwn, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Gweithdrefn y Cyngor 9 - Hyd y cyfarfod ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod ar waith ers tair awr, PENDERFYNWYD gohirio ystyried y Rheolau Sefydlog er mwyn cwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr Agenda)
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Gorffennaf 2017), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio lle roedd prif bwyslais y gwrthwynebiadau yn canolbwyntio ar golli lleoedd parcio ar y stryd a fyddai'n golygu bod mwy o geir yn parcio yn Rhodfa Penybryn a Theras yr Erw lle mae llawer o geir eisoes yn parcio gan ychwanegu at yr anawsterau presennol o ran mynediad a hynny nid yn unig ar gyfer perchnogion tai ond hefyd y gwasanaethau brys, cerbydau nwyddau a cherbydau sbwriel.
Ymatebodd yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
Wrth ystyried y cais mynegwyd barn y byddai'r datblygiad, petai'n cael ei gymeradwyo, yn groes i ddarpariaethau Polisïau TR3 a GP1 o'r Cynllun Datblygu Lleol. Yn unol â hynny:
PENDERFYNODD y Pwyllgor
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Awst 2016) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon ynghylch graddfa a maint y datblygiad arfaethedig Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio lle mai'r prif bwyslais oedd yr effaith ar yr ardal gadwraeth drwy newid yr unig lecyn glas yng nghanol y dref am lecyn wedi'i balmantu, y cyfiawnhad dros yr elfen adwerthu, darparu sgrin deledu fawr a'r farn bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol GP1, RT4, SP13 ac EQ1.
Cafwyd sylwadau oedd yn cefnogi'r datblygiad arfaethedig a mynegwyd barn petai'r cais yn cael ei ganiatáu y dylid ystyried cynnwys amodau ychwanegol sef bod cerrig lleol yn cael eu defnyddio ar gyfer y llecyn wedi'i balmantu, sy'n debyg i'r hyn a ddefnyddiwyd o fewn y castell, bod y tair coeden newydd yn lled-aeddfed ac yn frodorol - rhai derw os oes modd, a bod ceir yn cael eu hatal rhag parcio oddi ar y stryd ar y llecyn glas gerllaw'r briffordd.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r amrywiol faterion a godwyd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio W/35554 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac ar amodau ychwanegol sy'n adlewyrchu barn y Pwyllgor ynghylch defnyddio cerrig lleol yn y sgwâr wedi'i balmantu, bod y tair coeden newydd yn lled-aeddfed - rhai derw os oes modd, a bod ceir yn cael eu hatal rhag parcio ar y llecyn glas islaw'r safle. |