Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 24ain Awst, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Jones, H.I. Jones a B.A.L. Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.D. James

4.1 – Cais cynllunio S/34402 – dymchwel hen Ysgol Copperworks a datblygu hyd at 9 o gartrefi newydd ar safle hen Ysgol Babanod Copperworks, ar dir yn Nheras Morlan, Porth Tywyn, SA16 0ND.

Ef yw noddwr Band Tref Porth Tywyn.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 536 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/35527

Garej ar wahân, 1 Heol y Bryn, Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7PW

 

[SYLWER:  Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith fod anghysondeb yn y cynlluniau ar gyfer y cais hwn ac eglurwyd bod y cyfeiriad at y dwyrain a'r gorllewin yn anghywir a dylid ei wrthdroi.

 

3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

E/33695

Cais cynllunio llawn i godi uned ddofednod ar fferm er mwyn cadw ieir maes (i gynhyrchu wyau) ynghyd â biniau bwydydd cysylltiedig, mynediad mewnol o'r fferm a gwaith cysylltiedig yng Ngodre Garreg, Llangadog, SA19 9DA.

 

Roedd sylw wedi dod i law yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

Y RHESWM:  Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau mynediad yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis rhoi ei sylwadau yn ystod cyfarfod heddiw yn hytrach na'r cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle.  Aeth y Pwyllgor felly ymlaen i gael y sylwadau yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·       mae problemau traffig yn gysylltiedig â safle'r cais gan fod rhan ohono yn dir comin dan berchnogaeth breifat;

·       nid yw'r rhwydwaith o ffyrdd yn addas ar gyfer traffig trwm;

·       mae'n agos at sawl eiddo preswyl, rhai mor agos â 37m;

·       niwsans s?n o'r ffaniau a fydd yn cael eu defnyddio'n ddi-baid yn ystod tywydd poeth;

·       bydd llygredd yn yr awyr a halogiad o ran arogl;

·       bydd yn rhaid cynyddu rheoli plâu yn yr ardal;

·       effaith niweidiol ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeiswyr i'r materion a godwyd.

 

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 773 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/34402

Dymchwel hen Ysgol Copperworks a datblygu hyd at 9 o gartrefi newydd yn safle hen Ysgol Babanod Copperworks, ar dir yn Nheras Morlan, Porth Tywyn SA16 0ND

 

[SYLWER:  Gan iddo ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, fe wnaeth y Cynghorydd J.D. James adael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/34071

Canolfan prosesu gwastraff anadweithiol ar safle hen Lofa Morlais, Heol Pontarddulais, Llangennech, Llanelli, SA14 8YN

 

Y RHESWM:  Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau mynediad yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 684 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/35759

Un breswylfa ar wahân ar lain ger Rhodfa Bryneglur, Heol y Foel, Foelgastell, SA14 7ET

 

5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/35554

Sgwâr cyhoeddus newydd, caffi ac unedau busnes bach yn yr ardal gyhoeddus bresennol ar sgwâr Jacksons Lane, Caerfyrddin, SA31 1QD

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar safle'r cais yn sgil pryderon am raddfa a maint y datblygiad arfaethedig.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

6.1

13EG MEHEFIN, 2017; pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

6.2

29AIN MEHEFIN, 2017; pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

6.3

11EG GORFFENNAF, 2017; pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2017 gan eu bod yn gywir.