Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 27ain Gorffennaf, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies a B.A.L. Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Ms Llinos Quelch, Pennaeth Cynllunio, ddatgan buddiant yn y ceisiadau canlynol gan ei bod yn adnabod yr ymgeisydd:-

 

W/34736

Newid defnydd hen gapel yn siop gamerâu.   Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ [Cynllunio - Llawn]

W/34737

Newid defnydd hen gapel yn siop gamerâu.  Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ [Adeilad Rhestredig]

 

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 488 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/34907

Datblygiad defnydd cymysg i gynnwys defnydd A1, Swyddfeydd ac Elfennau Preswyl, safle Hen Orsaf yr Heddlu a'r Llys, Stryd Marged, Rhydaman, SA18 2NP

 

E/35622

Addasu'r Hen Lys yn Swyddfeydd, yr Hen Lys, Stryd Marged, Rhydaman, SA18 2NP

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 537 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/35440

Datblygiad preswyl –  dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu preswylfa tair ystafell wely yn ei le, O'keip, Ocean View, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 0DW

 

4.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safleoedd:-

 

S/34537

Adeiladu 8 o dai ynghyd â'r mynediadau cysylltiol ar gyfer cerbydau a cherddwyr, lleoedd parcio, tirweddu, draeniau a datblygu ategol arall tir ar ochr ddwyreiniol Heol Bronallt, yr Hendy, Llanelli.

 

Y RHESWM:  Er mwyn i'r Pwyllgor i asesu addasrwydd y safle o ystyried y pryderon yn ymwneud â serthrwydd y safle a materion o ran mynediad.  

 

S/35403

Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir ger 32 Teras yr Erw, Porth Tywyn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA16 0DA

 

Y RHESWM:  Er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd.

 

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 532 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/35451

Newid defnydd 4 ysgubor gerrig ddiangen yn 4 uned breswyl ynghyd â'r garejis a'r storfeydd cysylltiedig, Penybont, Meidrim, Caerfyrddin, SA33 5QL

 

 

 

5.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/34736

Newid defnydd hen gapel yn siop gamerâu.   Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ

 

[SYLWER:  Gan iddi ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd Mrs Llinos Quelch, Pennaeth Cynllunio, y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

W/34737

Newid defnydd hen gapel yn siop gamerâu.   Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ

 

[SYLWER:  Gan iddi ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd Mrs Llinos Quelch, Pennaeth Cynllunio, y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

 

 

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 13EG MEHEFIN, 2017. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2017 gan eu bod yn gywir.