Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: am 5.00pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Gweithdrefn y Cyngor 9 - Hyd y cyfarfod ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod ar waith ers tair awr, PENDERFYNWYD gohirio ystyried y rheolau sefydlog er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar agenda'r diwrnod. Cafodd y Pwyllgor 10 munud o egwyl am 4:20pm, cyn ailgynnull am 4.30pm)
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, J. Lewis, ac E. Williams.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
YSTYRIED ADRODDIAD Y PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [A FU’N DESTUN YMWELIADAU SAFLE BLAENOROL GAN Y PWYLLGOR] AC I BENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Sylwer: Gadawodd P.L. Emlyn y Siambr wrth i'r eitem hon gael ei hystyried.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oedd wedi ei gynnal ar 29 Mehefin 2017) er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor asesu'r potensial i s?n darfu ar yr eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint ac atodiad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Nododd y Pwyllgor fod adroddiad ynghylch s?n wedi'i gyflwyno i gefnogi'r cais, ynghyd â chynllun rheoli a oedd yn ceisio sicrhau bod s?n yn cael ei reoli ac na fyddai'r s?n yn effeithio'n andwyol ar y trydydd parti. Nododd y Pwyllgor hefyd fod agosrwydd eiddo y trydydd parti a bod eiddo'r gwrthwynebydd tua 90m i'r De/De Ddwyrain o'r safle a bod eiddo'r gwrthwynebydd tua 90m i'r De/De Ddwyrain o'r safle. At hynny, o ystyried maint bach y gwaith, ystyriwyd nad oedd yn debygol y byddai effeithiau s?n annerbyniol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/35029, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.I. Jones, ar ôl datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, wedi gadael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad safle preifat y Pwyllgor a gyflawnwyd yn gynharach y diwrnod hwnnw, (Cofnod 4.1 y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2017), a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld y safle yn dilyn y sylwadau a oedd wedi dod i law a nodir isod.
·
ennyn dealltwriaeth o
effaith bosibl y datblygiadau ar seilwaith yr ardal a diogelwch y
preswylwyr. · gweld lleoliad arfaethedig y tanciau/pympiau carthffosiaeth a'r potensial o edrych dros ben yr ardal gyfagos.
· rhoi cyfle i'r pwyllgor cyfan ymweld â'r safle oherwydd dim ond 6 o'i aelodau oedd yn aelodau o'r pwyllgor cynllunio blaenorol a oedd wedi ymweld â'r safle mewn cysylltiad â'r cais cynllunio amlinellol gwreiddiol sef S/15702.
Cyn amlinellu adroddiad y Pennaeth Cynllunio ynghylch y cais, dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ei fod wedi derbyn dau lythyr arall yn cynnwys sylwadau a darllenwyd eu cynnwys i'r Pwyllgor ac aethpwyd i'r afael â'r pryderon.
Cyfeiriwyd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint ac atodiad at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau yn mynegi pryderon am y datblygiad arfaethedig gan ail-bwysleisio’r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roeddynt yn cynnwys y canlynol:
· Bydd y datblygiad yn niweidiol i bentref Bynea oherwydd bydd mwy o berygl o lifogydd a risg i iechyd y cyhoedd oherwydd y galw gormodol ar y garthffos gyhoeddus. · Bydd dulliau gwaredu d?r wyneb yn cael effaith niweidiol ar seilwaith D?r Cymru ac yn cynyddu'r risg o lifogydd i rannau isaf y Bynea yn enwedig pan fydd hyn yn cael ei gyfuno â chyfnodau o law trwm. · Ni ddylid caniatáu'r datblygiad hyd nes y gall D?r Cymru roi sicrwydd bod y gwaith ar seilwaith carthffosiaeth yn y Bynea ac o'i amgylch wedi'i gwblhau a bod y system garthffosiaeth yn gallu ymdopi â'r galw ychwanegol. · Pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd o ran addasrwydd y seilwaith ffyrdd cyfagos i ddarparu ar gyfer y nifer fawr o gerbydau a ddaw yn sgil y datblygiad gan effeithio ar drigolion lleol. · Mae diffyg amwynderau dinesig cyffredinol yn yr ardal leol, gan gynnwys mynediad i siopau a chyfleusterau hamdden yn ogystal â darpariaeth annigonol o ran lleoedd yn yr ysgol i gyd-fynd â'r galw ychwanegol am y gwasanaeth. · Byddai'r datblygiad yn cael effaith uniongyrchol ar lif traffig a thagfeydd ar ffyrdd o fewn ardal y Cyngor Cymuned cyfagos yn ogystal â'r ardal gyfan yn gyffredinol. · Cynnydd annerbyniol yn llif y traffig a thagfeydd ar hyd Heol y Mynydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.2 |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle yn gynharach y diwrnod hwnnw, (y cyfeiriwyd ato yng nghofnod 4.1 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017) a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld y safle yn dilyn y sylwadau a oedd wedi dod i law ac a nodir isod:-
·
asesu effaith posibl y
gallai'r strwythur 19 troedfedd ei gael ar Gerrig yr Orsedd cyfagos
fel y'i mynegwyd gan CADW, · edrych ar y meysydd chwarae sy'n bodoli eisoes yn y cyffiniau
Cyfeiriwyd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint ac atodiad at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau a oedd yn mynegi pryder ynghylch yr agweddau canlynol ar y datblygiad arfaethedig ac a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio:-
· Gor-ddatblygu annerbyniol ar safle treftadaeth a'r effaith negyddol y byddai'r datblygiad yn ei gael ar gymeriad y safle.
· Nid yw'r strwythur yn gydnaws ag ardal y Parc, mae'n weledol amlwg a byddai'n arwain at orddatblygu. · Byddai'r olygfa o'r ardal hon o'r parc sy'n cynnwys Cerrig hanesyddol yr Orsedd yn cael ei dinistrio. · Nid yw safbwyntiau pobl leol Llanelli wedi cael eu hystyried. Dylid cynnwys ardaloedd chwarae yn y Parc sy'n cyd-fynd ac yn cwmpasu hanes ac awyrgylch y Parc. · Nid yw'r gymuned leol yn dymuno cael ffrâm ddringo a byddai'n wastraff o arian cyhoeddus, byddai modd defnyddio'r arian yn well drwy gynnal a chadw'r ddarpariaeth bresennol yn y Parc. · Diffyg cyfiawnhad i'r cynnig presennol. · Mae'r ardal i'r dwyrain o Gerrig yr Orsedd eisoes wedi'i dinistrio gan y Cyngor wrth iddo geisio cyflymu'r broses ac adeiladu'r ffrâm ddringo yn wreiddiol heb ganiatâd cynllunio. Mae'r safle eisoes wedi'i ddinistrio heb unrhyw gynnig i'w adfer i'r dirwedd flaenorol. · Pryderon am iechyd a diogelwch – a fyddai rhywun yn gweithredu'r strwythur ac a fyddai unigolyn sydd wedi'i hyfforddi mewn cymorth cyntaf ar y safle? · A fydd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus? · A oes arolwg geodechnegol a mwyngloddio llawn wedi'i gyflawni, ac os felly pam nad oedd y rhain wedi'u cyflwyno gyda'r cais cynllunio? Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/35542, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar Agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw we-ddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.
|