Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 29ain Mehefin, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a J.E. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Lenny

3.3 – Cais Cynllunio E/35395 – Caniatâd ôl-weithredol ar gyfer sied fragdy sydd eisoes wedi'i chodi ar dir ym Mragdy Evan Evans, 1 Stryd Rhosmaen, Llandeilo, SA19 6LU

Mae aelod agos o'r teulu yn gweithio yn y sector - ond nid ar gyfer yr apelydd

H.I. Jones

4.1 – Cais Cynllunio S/33342 – Adeiladu 240 o breswylfeydd ynghyd â mynediadau cysylltiedig i gerbydau, llecynnau parcio ceir a thirlunio (materion a gadwyd yn ôl ynghylch cais amlinellol S/15702) ar dir yn Fferm Genwen, Bynea, Llanelli, SA14 9PH

Heb ddatguddio

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 934 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/34887

Gorsaf Drydan D?r o'r Afon sy'n cynnwys mewnlif, pibell wedi'i chladdu, adeilad y pwerdy ac all-lif ym Mhrosiect Trydan D?r Ystradffin, Rhandir-mwyn, Llanymddyfri.

E/35019

Safle Gwersylla a Pharcio, Bloc Cyfleusterau a Mynediad yn Nhirbach, Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

 

3.2 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/35128

Addasu a defnyddio ysgubor bresennol ar gyfer cymysgedd o Lety i Dwristiaid a Defnydd Amaethyddol yn Stable Barn, 5 Fferm Cefngornoeth, Llangadog, SA19 9AN

 

(NODER: ni chydsyniwyd i'r cais bod y Pwyllgor yn cael golwg ar y safle mewn perthynas â'r cais cynllunio uchod)

 

Daeth sylw i law a gefnogai'r datblygiad uchod, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

·        Roedd yr ysgubor yn adeilad amaethyddol diangen a oedd wedi'i lleoli o fewn hen safle fferm

·        Ystyriai'r datblygwr fod gan y cynnig botensial i wella amwynder gweledol yr ardal a gwella'r safle presennol drwy adnewyddu'r uned ddiangen olaf ar y safle, gan gydweddu â'r 5 addasiad/preswylfa presennol.

·        Yn ogystal ag elfen breswyl y datblygiad arfaethedig, bwriad y datblygwr oedd darparu cynhyrchion amaethyddol o safon, cawsiau, mêl a chig oen, o fewn yr elfen arallgyfeirio amaethyddol sy'n hyrwyddo egwyddorion y Ddeddf Iechyd a Llesiant a'r defnydd o feddyginiaethau amgen.

 

 

·        Gan nad oedd y Pennaeth Cynllunio wedi gwrthwynebu egwyddor yr elfen o arallgyfeirio amaethyddol arfaethedig yn y datblygiad, gofynnwyd a fyddai'r Pwyllgor yn ystyried gohirio er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd drafod y cynigion ymhellach â'r Pennaeth Cynllunio os yw'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) i'r materion a godwyd

 

 

3.3       PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliadau safle:-

E/35434

Estyniad i'r ail lawr uwchben estyniad llawr gwaelod presennol yng nghefn yr adeilad yn 3 Caeffynnon, Llandybïe, Rhydaman SA18 2TH

 

RHESWM: asesu a allai'r cynnig gael effaith niweidiol ar amwynder yr eiddo cyfagos o ran colli golau.

E/35395

Caniatâd ôl-weithredol ar gyfer sied fragdy sydd eisoes wedi'i chodi ar dir ym Mragdy Evan Evans, 1 Stryd Rhosmaen, Llandeilo, SA19 6LU

 

RHESWM: rhoi cyfle i'r pwyllgor weld y datblygiad o safbwynt y sawl sy'n gwrthwynebu a gweld yr adeilad o fewn cyd-destun y bragdy yn ei gyfanrwydd.

 

(NODER: gan ei fod wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn cadeirio'r drafodaeth arno ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra oedd y cais dan sylw. Cadeiriodd y Cynghorydd H.I. Jones, yr Is-gadeirydd, y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd.

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 717 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1       PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliadau safle:-

 

S/33342

Adeiladu 240 o breswylfeydd ynghyd â mynediadau cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, llecynnau parcio ceir a thirlunio (materion a gadwyd yn ôl ynghylch cais amlinellol S/15702) ar dir yn Fferm Genwen, Bynea, Llanelli, SA14 9PH

 

Roedd sylw wedi dod i law yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle mewn perthynas â'r cais i:-

 

 

·        ddeall effaith bosibl y datblygiad ar isadeiledd yr ardal a diogelwch y trigolion.

·        gweld y lleoliad arfaethedig ar gyfer y tanciau/pympiau carthffosiaeth a'r posibilrwydd y byddai tai cyfagos yn edrych drostynt.

·        rhoi cyfle i'r pwyllgor cyfan ymweld â'r safle o ystyried mai dim ond 6 o'i aelodau presennol oedd yn aelodau'r pwyllgor cynllunio blaenorol a aeth i ymweld â'r safle mewn perthynas â'r cais cynllunio amlinellol gwreiddiol S/15702

 

RHESWM: rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y sylwadau uchod.

 

(NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd H. I. Jones yn bresennol tra oedd y cais yn cael ei ystyried).

S/35029

Newid defnydd t? allan i fod yn 12 cwt ci yn Durclawdd Fach, Llannon, Llanelli SA14 8JW

 

RHESWM: rhoi'r cyfle i'r pwyllgor asesu'r posibilrwydd y bydd llygredd s?n yn effeithio ar eiddo cyfagos.

 

S/35542

Darparu lle chwarae cyhoeddus gwastad gan gynnwys ffrâm ddringo i'r gorllewin o'r Meini Gorsedd ym Mharc Howard yn y Lle Chwarae, Parc Howard, Llanelli, SA15 3LQ

 

Roedd sylw wedi dod i law yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn:

·        asesu'r effaith bosibl y gallai'r ffrâm ddringo, 19 troedfedd o uchder, ei chael ar y Meini Gorsedd cyfagos, yn ôl pryderon a fynegwyd gan CADW.

·        edrych ar y meysydd chwarae presennol yn yr ardal gyfagos

 

RHESWM: rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y sylwadau uchod.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 535 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/34603

Lleoli 4 preswylfa ar wahân ar dir ger Ynysdawel, Heol Cwm-mawr, Drefach, Llanelli, SA14 7AE

 

 

6.

GORFODI AMODAU CYNLLUNIO A’U MONITRO DANGOSYDDION PERFFORMIAD. pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch y Dangosyddion Perfformiad o ran Monitro a Gorfodi Rheolau Cynllunio.

 

7.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF MEHEFIN, 2017. pdf eicon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 1 Mehefin 2017 gan eu bod yn gywir.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, 13, 17 ac 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

9.

GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO A MONITRO ACHOSION GORFODI.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch y canlynol;

·                 Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol;

·                 Paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw;

·                 Paragraff 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf – Gwybodaeth sy'n datgelu bod yr awdurdod yn bwriadu:

·                 rhoi, o dan unrhyw ddeddfiad, rybudd a fyddai'n gosod gofynion ar unigolyn; neu

·                  gwneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddfiad.

·                 Paragraff 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf - Gwybodaeth am unrhyw gamau a gymerwyd neu sydd i'w cymryd mewn perthynas ag atal trosedd, ymchwilio i drosedd neu erlyn trosedd.

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am achosion lle ystyrid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn trydydd partïon, a hynny weithiau mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y trydydd parti yn ymwybodol o'r camau yr ystyrid eu cymryd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol am y trydydd parti, ac weithiau'n enwi achwynydd. Roedd budd i'r cyhoedd o ran cael sicrwydd bod arferion cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â chymryd camau gorfodi yn gyfreithlon, yn deg ac yn unol â'i bolisïau a'i weithdrefnau. Fodd bynnag, petai manylion ynghylch achosion unigol yn cael eu datgelu i'r cyhoedd ar hyn o bryd, byddai hynny'n debygol o beryglu'r ymchwiliad a hefyd gallai hynny fynd yn groes i ddyletswydd cyfrinachedd yr Awdurdod mewn perthynas ag ymdrin â chwyn. Felly ar ôl pwyso a mesur, barnwyd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y Pennaeth Cynllunio am y camau gorfodi yr oedd wedi eu cymryd yn unol â'r pwerau oedd wedi eu dirprwyo iddi.