Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 15fed Rhagfyr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

3.1 y dylid rhoi caniatâd cynllunio i gais E/39092, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i wrthod, ar y sail na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y dirwedd, byddai cymeriad a golwg y safle yn                                                  gwella ac roedd y cais yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol;

3.2 bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio ychwanegu amodau priodol at yr hysbysiad caniatâd.

 

E/39092

Uned storio amaethyddol ar dir i'r de o Heol Grenig (i'r gorllewin o Pantyffynnon), Glanaman, Rhydaman

Cafwyd sylwadau gan yr Aelod lleol a oedd yn cefnogi'r cais ar y sail bod y cais ar gyfer adeilad amaethyddol cymedrol a fyddai'n gweddu i'r dirwedd ac yn gwella golwg gyffredinol y safle.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 759 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn  amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio a / neu yr adroddwyd amdanynt yn y cyfarfod ac, o ran cais S/40412, dylid rhoi awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio i wrthod y cais os na lofnodir cytundeb cyfreithiol o fewn 6 mis i'r penderfyniad hwn:-

 

 

S/40412

 

T? annedd ar wahân - tir gerllaw Singleton Road, Tymbl Uchaf, Llanelli, SA14 6DS

[Noder: Nid oedd y Cynghorydd D. Jones yn bresennol ar gyfer yr eitem hon]

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

·       Gorddatblygu safle /safle yn rhy fach;

·       Datblygiad tandem;

·       Colli amwynder preswyl;

·       Llesiant a cholli preifatrwydd;

·       Diogelwch priffyrdd a cherddwyr, gan gynnwys traffig, materion mynediad ac agosrwydd at Lwybr Cyhoeddus;

·       Draenio a materion llifogydd lleol;

·       Y safle wedi cael ei wrthod yn y gorffennol ar gyfer datblygiad preswyl gyda honiadau na fu unrhyw newidiadau i'r cynigion nac amgylchiadau'r safle;

·       Materion mynediad i gynnal a chadw'r eiddo;

Ymatebodd Asiant yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd.

PL/00513

 

 

Amrywio amod 1 ar S/11618 (ymestyn y terfyn amser i 15 mlynedd) yn Llanelli Sand Dredging Ltd, Ystâd Ddiwydiannol Porth Tywyn, Porth Tywyn, Llanelli, SA16 0NN

PL00673

 

 

PL/00673 - Cynllun i gadw ac adfer wyneb blaen yr adeilad, ynghyd â chadw'r wal berimedr, y prif waliau strwythurol mewnol a'r grisiau presennol, dymchwel gweddill yr adeilad a'i ailadeiladu ar ôl hynny i ddarparu defnydd masnachol A1/A2/A3 ar y llawr gwaelod, defnydd swyddfa B1 ar y llawr cyntaf ac 8 uned breswyl ar y lloriau uchaf ynghyd â lleoedd parcio cysylltiedig i breswylwyr ar y llawr gwaelod - Hen adeilad yr YMCA, 49 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3YA

 

5.

COFNODION - 17 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020 yn gywir.