Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 690 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00245
|
NEWID
DEFNYDD HEN YSGOL EGLWYS APOSTOLAIDD YN GARTREF GOFAL (DOSBARTH
DEFNYDD C2), ESTYNIAD DEULAWR YN Y BLAEN, CANOPI MYNEDIAD, YNGHYD
 LLEOEDD PARCIO, MAN TROI A GWAITH ATEGOL ARALL, YSGOL
EGLWYS APOSTOLAIDD, HEOL Y BRYN, PEN-Y-GROES, LLANELLI, SA14
7PW
Cafwyd sylw ar
ran trigolion lleol yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor, er bod un o'r
gwrthwynebiadau i'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud â
darparu man troi yn y datblygiad, bod y datblygwr wedi mynd i'r
afael â'r pryderon hynny drwy ei wneud yn fwy, fel y nodir yn
y cynllun diwygiedig, sydd â'r cyfeirnod 10.2.25-02a, a bod y
trigolion yn cytuno â'r newid hwnnw.
|
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00466
|
CODI'R CRIB, GOSOD FFENESTRI TO A
FFENESTR SY'N WYNEBU OCHR YR ADEILAD AC ADEILADU TO DORMER YN Y
CEFN I ADDASU'R ATIG, BRYNTIRION, HEOL LLANDEILO, CARMEL, LLANELLI,
SA14 7SE
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 554 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod a hefyd cwblhau ymgymeriad unochrog ar gyfer
cyfraniad at dai fforddiadwy:-
S/40658
|
ADEILADU DWY BRESWYLFA NEWYDD Â
PHEDAIR YSTAFELL WELY A GAREJIS AR WAHÂN AR DIR GER 21 HEOL
COEDCAE, LLANELLI SA15 1HJ
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00053
|
ESTYNIAD UNLLAWR ARFAETHEDIG YN Y CEFN
GYDA BALWSTRAD UWCHBEN, 53 BWLCHYGWYNT, LLANELLI, SA15
2AJ
|
4.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod a hefyd cwblhau ymgymeriad unochrog ar gyfer
cyfraniad at dai fforddiadwy:-
PL/00413
|
PRESWYLFA AR WAHÂN, TIR A ARFERAI
FOD YN RHAN O 21 AR Y BRYN, PEN-BRE, LLANELLI
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 569 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
W/40612
|
BWRIAD I DDYMCHWEL AC
AILADEILADU'R GAREJ GAN GYNNWYS EHANGU'R CWRTIL A MYNEDIAD NEWYDD I
GERBYDAU, WERN VILLA, MEIDRIM, CAERFYRDDIN SA33
5QN
Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a
ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad
ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roedd yn cynnwys pryderon
ynghylch y canlynol:
-
Dyluniad, maint ac uchder y
garej arfaethedig:
-
Y potensial i'r garej gael
ei defnyddio at ddefnydd busnes ac nid fel garej
ddomestig
-
Y potensial i'r garej gael
ei haddasu at ddefnydd preswyl yn y dyfodol
-
Colli golygfa
Ymatebodd yr Ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli
Datblygu i'r materion a godwyd.
|
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau
a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00015
|
SIED ARDD, 25 HEOL LLANDEILO, GORS-LAS,
LLANELLI, SA14 7LL
|
5.3
PENDERFYNWYD:-
5.3.1
|
bod cais cynllunio W/40030
yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Pennaeth
Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn bod y
datblygiad arfaethedig yn bodloni rhai o brofion TAN6 gan fod yr
ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad am annedd ychwanegol ar y safle,
profwyd hyfywedd ariannol, ystyriwyd bod lleoliad yr annedd
arfaethedig yn ddigon agos at brif adeiladau'r fferm yn Fferm
Blaenffos a'i fod yn cydymffurfio â'r prawf ar gyfer darparu
tai fforddiadwy/annedd menter wledig.
|
5.3.2
|
Bod caniatâd yn cael
ei roi yn amodol ar y ddau amod penodol canlynol:
-
ystyrir bod yr annedd ar
y brif fferm yn Fferm Blaenffos, ynghyd â'r annedd newydd
arfaethedig, yn Anheddau Mentrau Gwledig ac ynghlwm wrth
adeiladau'r fferm gan osgoi'r potensial i'r fferm gael ei darnio yn
y dyfodol
2.
ni fydd unrhyw
waith yn dechrau ar yr annedd newydd arfaethedig cyn llofnodi'r
cytundeb cyfreithiol priodol sy'n ofynnol o dan TAN6 i drosglwyddo
perchnogaeth y fferm i'r ymgeisydd
|
W/40030
|
ANNEDD MENTER WLEDIG ARFAETHEDIG I
GYNNWYS MYNEDIAD I GERBYDAU, A GOSOD GWAITH TRIN CARTHION BACH,
MOELFRYN, PANTYBWLCH, CASTELLNEWYDD EMLYN, SA38 9JE
(NODER:
[
·
1. Am 1:23pm tynnwyd sylw'r
Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod
– ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers
bron tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog, yn
unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor, er mwyn galluogi'r
Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr
agenda.
·
2. Gadawodd y Cadeirydd y
cyfarfod am 1.23pm a bu'r Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd H.I.
Jones, yn cadeirio gweddill y cyfarfod]
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i
adroddiad y Pennaeth Cynllunio a oedd yn manylu ar y rhesymau dros
argymell gwrthod cais W/40030 ar y sail ei fod wedi methu â
chydymffurfio'n llawn â'r 5 prawf a nodir yn Nodyn Cyngor
Technegol 6 (TAN6) ar gyfer cymeradwyo Annedd Menter Wledig. Fodd
bynnag, mewn perthynas â'r profion hynny, dadleuwyd bod yr
ymgeisydd wedi bodloni rhai o'r profion hynny'n gyfan gwbl neu'n
rhannol gan ei fod ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.
|
|
6. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED TACHWEDD, 2020 PDF 215 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|