Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 5ed Tachwedd, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr G.B. Thomas ac I.W. Davies.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 449 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00112

 

NEWIDIADAU GWEDDLUNIOL, OND DIM NEWID DEFNYDD MATEROL I'R ADEILAD EI HUN, HEN ARCHFARCHNAD CO-OPERATIVE, STRYD Y COLEG, RHYDAMAN, SA18 3AB.

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 631 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodir yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a / neu adroddwyd yn y cyfarfod a chyflwyno Ymgymeriad Unochrog wedi'i gwblhau i sicrhau cyfraniad tuag at dai fforddiadwy:-

 

PL/00020

CYNNIG I ADEILADU PRESWYLFA AR WAHÂN - TIR SY'N RHAN O 1 BAY VIEW, PWLL, LLANELLI, SA15 4BE

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn mynegi pryder yngl?n â mynediad i'r datblygiad a'i agosrwydd at y gyffordd a'r man parcio.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) i'r materion a godwyd.

 

 

4.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40262

ADEILADU 7 GAREJ CLOI AR DIR GER STRYD ANN, LLANELLI, SA15 1TE

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a ganlyn:

 

·       Clymog Japan nad oedd wedi'i drin.

 

·       Ymddygiad gwrthgymdeithasol – bydd y garejys (os cânt eu hadeiladu) yn rhoi cyfle i'r unigolion hynny sy'n cyflawni gweithgareddau anghyfreithlon fel delio a defnyddio cyffuriau ymgynnull.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20FED HYDREF 2020 pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020, gan eu bod yn gywir.