Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 97174071#. (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

SYLWER: Cafodd yr eitem hon ei chynnwys ar yr agenda drwy gamgymeriad.

 

4.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 447 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/38200

 

 

Adeiladu un breswylfa ar dir y tu ôl i Heddfryn, Llansadwrn, Llanwrda

 

 

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 489 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00031

 

Darparu drws a ffenestr newydd ym mlaen yr eiddo ac ychwanegu system echdynnu dur di-staen i'r cefn mewn cysylltiad â Siop Cludfwyd Twrcaidd newydd yng Ngwesty'r Cambrian, 35 Stryd y Môr, Llanelli, SA15 2NP

 

PL/00354

Amrywiad i Amod 2 o S/26201 i ddiwygio'r cyfnod caeedig ar gyfer 10 llain o 5 Ionawr i 1 Mawrth bob blwyddyn – Fferm Llwynifan, Safle Carafannau, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli, SA14 8AX

 

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 631 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       PENDERFYNWYD bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a nodir yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu a adroddwyd yn y cyfarfod ac i gwblhau'r Asesiad Priodol ar gyfer Ardal Gadwraeth Arbennig Afon Teifi a'r ymgeiswyr i ymrwymo i Gytundeb Adran 106:-

 

W/39346

Datblygiad Un Blaned a newid o ddefnydd coedwigaeth i ddefnydd preswyl a choedwigaeth, Flatwood, Castellnewydd Emlyn, SA38 93B

 

Gwnaed sylw gan yr Aelod lleol yn gwrthwynebu'r datblygiad am nifer o resymau gan gynnwys y canlynol:-

·       Byddai'n cael effaith andwyol ar y goedwig a'i bywyd gwyllt

·       Gallai ansawdd y pren yn y goedwig arwain at yr angen i fewnforio pren ar gyfer y busnes arfaethedig

·       Y posibilrwydd i lifogydd ddigwydd o'r tir serth. Nid oedd modd dangos yn ddigonol pa mor serth yw'r tir drwy luniau Drôn.

·       Efallai nad ystyrir bod ansawdd y d?r o'r cyrsiau d?r yn addas i'w yfed ac efallai y bydd angen cysylltiad â'r prif bibell d?r sy'n croesi'r safle

·       Pryder ynghylch y posibilrwydd o halogi o'r toiledau compost sych

·       Byddai angen dod â bwyd i'r safle ar gyfer yr anifeiliaid

·       Roedd preswylfa i'w hadeiladu yng nghefn gwlad heb brofi hyfywedd ariannol ymlaen llaw.

·       byddai plannu coed i gymryd lle'r rhai a gafodd eu cwympo yn cymryd blynyddoedd lawer i aeddfedu

·       lefelau golau annigonol yn y goedwig i dyfu cnydau

·       nid ystyriwyd bod y datblygiad yn hyfyw.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

 

6.2     PENDERFYNWYD

6.2.1.

bod cais cynllunio PL00101 yn cael ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod, gan yr ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â Pholisïau GP1, H1, H2 a TR3 y Cynllun Datblygu Lleol yn ogystal â TAN 22 ac ystyrir bod y breswylfa'n gydnaws â byngalos o faint tebyg yn y gymuned leol.

6.2.2

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio i atodi amodau priodol i'r hysbysiad caniatâd cynllunio

 

PL/00101

Preswylfa unllawr newydd, Brodawel, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JD

 

Gwnaed sylw gan yr Aelod lleol yn cefnogi'r cais gan ei bod o'r farn bod y cais yn dod o fewn y diffiniadau o Bolisïau GP1, H1, H2 a TR3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ynghyd â darpariaethau TAN 22. Er mwyn esbonio, ystyriwyd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn gydnaws ag eiddo o faint tebyg yn yr ardal o ran ei faint a'i leoliad i'r eiddo presennol. Byddai'n arwain at ddarparu lleoedd parcio oddi ar y ffordd, diogelu coed a datblygu eiddo sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn lle'r eiddo di-raen presennol.

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8FED HYDREF, 2020 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Hydref 2020 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau