Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 82296527#. (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I. Jones a J.E Williams.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.A. Davies

3 – E/40554 - Addasiadau ac estyniad unllawr yn Fferm Cwmifor, Cwmifor, Llandeilo, SA19 7AW

Cyflwynwyd y cais gan ei fab a'i ferch yng nghyfraith.

D. Jones

4. – DNS/00427 DNS (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) – Parc Solar Arfaethedig (DNS/3227364) gan gynnwys llwybr cebl arfaethedig ar dir i'r dwyrain o'r A48 a thir i'r de-orllewin o D?-croes, gerllaw Fferm Solar Clawdd Ddu, T?-croes, Rhydaman, SA18 3RE

Cadeiriodd D. Jones cyfarfod Cyngor Cymuned Llan-non pan drafodwyd hyn ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 997 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1 PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/40464 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac amod ychwanegol sef bod y coed sy'n ffinio â'r eiddo yn cael eu diogelu rhag cael eu cwympo.

 

E/40464

 

Preswylfa newydd yn ‘Paddock Plot’ gerllaw 100 Heol y Cyrnol, Betws, Rhydaman, SA18 2HP

 

 

3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/40554

 

 

Addasiadau ac estyniad unllawr yn Fferm Cwmifor, Cwmifor, Llandeilo, SA19 7AW

 

[Noder - Gan i'r Cynghorydd J.A. Davies ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch]

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40172

 

Cais ôl-weithredol am gadw un t? annedd ar Lain 4, Cae Linda, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AQ

 

Cyflwynwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys pryderon ynghylch y canlynol:

  • datblygiad amlwg/gormesol wrth ystyried yr eiddo cyfagos
  • colli preifatrwydd
  • uchder y llwybr / ardal y patio

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PL/00194

Bwriad i ddymchwel ac yna ailadeiladu adeilad tri llawr i ddarparu defnydd masnachol ar yllawr gwaelod a defnydd preswyl ar y lloriau uchaf gyda pharcio cysylltiedig.

 

 

4.2      Cais cynllunio DNS/00427– DNS (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) – Parc Solar Arfaethedig (DNS/3227364) gan gynnwys llwybr cebl arfaethedig ar dir i'r dwyrain o'r A48 a thir i'r de-orllewin o D?-croes, gerllaw Fferm Solar Clawdd Ddu, T?-croes, Rhydaman, SA18 3RE

 

[Sylwer: Am 11:45am ac wrth ystyried yr eitem hon, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 15 munud oherwydd materion technegol.]

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau.

 

Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru.  Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle T?-croes yn unig a bod safle Llangennech wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.

 

Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod  DNS/00427.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.2.1

Nodi'r adroddiad gwybodaeth ar gais DNS/00427

4.2.2

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gyflwyno Adroddiad Effaith Leol i Lywodraeth Cymru

4.2.3

Bod y Pwyllgor yn cyflwyno'r sylwadau canlynol i Lywodraeth Cymru

 

1.    Dylai unrhyw gymeradwyaeth i gais cynllunio DNS / 00427 gynnwys amod ar gyfer darparu cynllun datgomisiynu manwl a fydd yn ymgorffori: -

-        Y gofyniad i dalu bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith datgomisiynu ar ôl 40 mlynedd o ran oes y datblygiad pe bai'r datblygwr yn rhoi'r gorau i fasnachu

-        Tynnu/trin/gwaredu'r paneli haul yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad pridd wedi hynny i amddiffyn y tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

2.    Dylid ystyried y mater o ran talu budd i'r gymuned i'r tair ardal cyngor cymunedol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

5.1

10FED MEDI, 2020 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020, gan eu bod yn gywir.

 

 

5.2

22AIN MEDI, 2020 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau