Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 22ain Medi, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 71148189# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

4.1 - Cais DNS / 00422 - DNS (Datblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd) - Parc Paneli Haul Arfaethedig (DNS 3213164) ar dir yn Penderi, Fferm Blaenhiraeth, Llangennech, Llanelli, SA14 8PX

Teulu sy'n byw yn y gymdogaeth sy'n gallu gweld safle'r cais o'u heiddo

D. Jones

4.1 - Cais DNS / 00422 - DNS (Datblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd) - Parc Paneli Haul Arfaethedig (DNS 3213164) ar dir yn Penderi, Fferm Blaenhiraeth, Llangennech, Llanelli, SA14 8PX

Cadeiriodd D. Jones cyfarfod Cyngor Cymuned Llan-non pan drafodwyd hyn ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

E/39554

 

 

Datblygiad Un Blaned arfaethedig, sef Preswylfa i Deulu ar dir i'r de-ddwyrain o Gaegroes, Penybanc, Llandeilo, SA19 7TB

 

Derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais a oedd yn ailadrodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gyda'r prif feysydd a oedd yn peri pryder yn cynnwys:

 

·       Nid oedd y Cynllun Rheoli  yn gyflawn ac roedd diffyg hygrededd iddo gan nad oedd yn dangos hyfywedd economaidd i gynnal teulu o chwech, roedd dadansoddiad ôl troed yr amgylchedd 10 gwaith yn is nag asesiad Llywodraeth Cymru ac roedd y trefniadau gwaredu carthffosiaeth wedi’u hepgor.

·       Roedd TAN 6 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Ddatblygiadau Un Blaned fod yn fach eu heffaith a gwella amrywiaeth. Byddai'r cynnig presennol yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth trwy golli 100m o berth er mwyn creu mynediad newydd

·       Effaith weledol andwyol yn enwedig yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf yn sgil colli dail coed

·       Nid yw'r cyflenwad d?r trwy dd?r glaw sydd wedi'i adfer yn ddigonol i'r fenter

·       Byddai symudiadau traffig i'r safle ac oddi yno ar hyd ffordd fynediad gul yn cynyddu

·       Roedd TAN 6 yn mynnu na ddylai datblygiadau o'r fath effeithio ar y gymuned leol. Fodd bynnag, nid oedd yr ymgeisydd wedi ymgynghori â chymdogion ac roedd gwrthwynebiadau wedi dod i law gan y gymuned a Chyngor Cymuned Manordeilo a Salem ynghylch y datblygiad

·       Mynegodd rheolwr prisio’r Cyngor ei farn ynghylch amrywiol feysydd y cynnig

·       Byddai'r cynnig yn arwain at ddatblygiad mewn cefn gwlad agored

Ymatebodd yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Swyddog Prisio i'r materion a godwyd.

 

(NODER: ar ddiwedd yr eitem hon cymerodd y Pwyllgor 10 munud o egwyl rhwng 12.00 - 12.10 p.m.)

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 937 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais cynllunio DNS/00422 - DNS (Datblygu Cenedlaethol ei arwyddocâd ) - Parc Solar Arfaethedig (DNS/3213164) ar dir yn Penderi, Fferm Blaenhiraeth, Llangennech, Llanelli, SA14 8PX

 

(Noder:

1.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd G.B. Thomas wedi  gadael y cyfarfod yn ystod yr egwyl ac na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth, a hynny wedi iddo ddatgan diddordeb yn y cais hwn yn gynharach

  1. Am 1pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio atal y rheolau sefydlog, yn unol â RHGC 23.1, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau. Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru. Gellid nodi'r rheini yng nghofnodion y cyfarfod a'u cadarnhau yn y cyfarfod ar 8 Hydref 2020 cyn eu cyflwyno i'r Llywodraeth ar 9 Hydref.

 

Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle Llangennech yn unig ac y byddai adroddiad ar gais T?-croes yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Ar hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r tri lleoliad y manylir arnynt yn y cais, cyfeirnod  DNS/00422 lle cafwyd y sylwadau canlynol.

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor at fater o ran budd posibl i'r gymuned a allai gronni i'r tri chyngor cymunedol lleol o'r datblygiad ac at y cytundeb heb ragfarn oedd ar waith i drafod y buddion hynny. Er nad oedd derbyn mater o ran budd i'r gymuned yn ystyriaeth gynllunio berthnasol y gallai roi sylw iddi, cafwyd sylwadau y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau'r budd mwyaf i'r cymunedau hynny.

·       Cyfeiriwyd at y deunyddiau a’r arferion adeiladu y byddai'n cael eu defnyddio wrth adeiladu'r parc paneli haul ac at ba fesurau fyddai'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau ei fod yn cael ei ddadtgomisiynu'n ddiogel ar ôl 35 mlynedd. Er enghraifft, a fyddai hynny'n cynnwys gofyniad am daliad bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith pe bai'r datblygwr yn peidio â gweithredu yn ystod oes y datblygiad.

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu y byddai'r ddarpariaeth ar gyfer cynllun dad-gomisiynu, ynghyd ag unrhyw ofyniad bond, yn cael ei ystyried gan yr arolygydd cynllunio ac y gellid gosod amodau ar ei gyfer fel rhan o unrhyw ganiatâd cynllunio.

·       Cyfeiriwyd at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r paneli haul, a oedd yn cynnwys defnyddio asidau, a mynegwyd barn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.