Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Jones

2.

Datgan Buddiannau Personol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 940 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol am gyfnod o 3 mis er mwyn rhoi amser i'r ymgeisydd gwblhau Asesiad Syml o Ganlyniad Llifogydd er mwyn mynd i'r afael â phryderon Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

E/40436

Newid defnydd o barcio anffurfiol i gerbydau i gynwysyddion hunan-storio mewn ardal ddiogel (Dosbarth Defnydd B8), ail-gyflwyno cais E/39180 ar dir gerllaw Gweithdai Heol yr Orsaf, Heol yr Orsaf, Rhydaman, SA18 3SY

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 898 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio:-

 

 

W/40014

Sied at ddibenion amaethyddol a storio/cynnal a chadw hen geir a cherbydau clasurol (defnydd personol / hobi), trac mynediad, llawr caled a gwaith peirianyddol cysylltiedig ar dir yn Llety Teg, Pencader, SA39 9BU

 

Cafwyd cynrychiolaeth gan yr Aelod lleol i gefnogi'r cais gan gadarnhau bod yr elfen o'r cynnig a oedd yn cynnwys storio/cynnal a chadw hen geir a cherbydau clasurol at ddefnydd personol/hobi yn unig ac na fyddai’n cynnal unrhyw atgyweiriadau i gerbydau masnachol, ac roedd yr ymgeisydd yn cytuno i unrhyw amodau a allai gael eu gosod ar y caniatâd cynllunio yn unol â hynny. Yn ogystal, er bod nifer presennol yr anifeiliaid ar y fferm yn isel, bwriad yr ymgeisydd oedd cael tir ychwanegol yn y dyfodol i gynyddu lefelau stoc.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd yn ystod ystyriaeth o'r  adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau