Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 13eg Awst, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 960 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40580

Amrywio amod 2 ar S/39644 (estyniad newydd arfaethedig yn y blaen ac yn y cefn gyda ffenestri dormer newydd, codi crib y to presennol 350mm a newid goleddf y to), hoffem newid y cynlluniau presennol a gymeradwywyd er mwyn dangos y newidiadau canlynol: Ymestyn cefn y llawr cyntaf hyd at linell wal allanol y llawr gwaelod, ac un ffenestr newydd yn nho'r ystafell wely yn y blaen yn 43 Heol Pen Llwyn Gwyn, y Bryn, Llanelli, SA14 9UH

 

S/40617

Estyniad garej ac estyniad ystafell wely arfaethedig ar y llawr cyntaf yn 6 Llys Pendderi, Llanelli, SA14 9PY

 

Cyflwynwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a gwrthwynebydd a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a ganlyn:

  • Roedd y garej arfaethedig yn rhy agos at y wal derfyn a byddai'n effeithio ar waith cynnal a chadw'r ffin.
  • Byddai'r balconi a'r man gwydr mawr yn cael effaith negyddol ar breifatrwydd.
  • Byddai uchder llinell y to yn arwain at golli golau.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Ni roddir y caniatâd cynllunio cyn i'r Arolwg Ystlumod gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo gan yr Ecolegydd Cynllunio.

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 949 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/40035 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod y datblygiad arfaethedig yn unol â Pholisi TAN6 ac y dylid gosod yr amodau angenrheidiol.

 

 

Gwnaed sylw gan yr Aelod Lleol, a ddywedodd ei bod yn cefnogi’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod y cais a nododd y byddai’r datblygiad yn cefnogi diogelwch y busnes presennol ac yn gwella ansawdd bywyd teuluol yr ymgeisydd.

 

Yn ogystal, yn groes i argymhelliad y Swyddogion i wrthod y cais, y teimlad oedd nad oedd y datblygiad yn cael ei ystyried yn addasiad helaeth i'r ôl troed presennol, ac o ganlyniad, cynigiwyd caniatáu'r cais, ac eiliwyd hynny.

 

Ategodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr argymhellwyd gwrthod y cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn benodol, nad oedd y cynnig yn cydymffurfio â diffiniad 'menter wledig' ac nad oedd yn cwrdd â'r prawf ymarferol sy'n ei gwneud yn hanfodol i weithiwr amser llawn fod yn bresennol y rhan fwyaf o'r amser. Ymhellach, o ran addasu, roedd y datblygiad arfaethedig yn golygu gwneud gwaith addasu helaeth, ac ailadeiladu i hwyluso'r broses o greu cartref i'r ymgeisydd. Felly nid oedd y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi TAN6 na Pholisi H5 y CDLl.

 

Consensws y Pwyllgor oedd ei fod yn credu bod dehongliad y polisi a'r cais yn oddrychol a bod y cais yn cwrdd â meini prawf Polisi TAN6, yn enwedig brawddeg gyntaf paragraff 4.3.1.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r amodau angenrheidiol gael eu gosod gan swyddogion â phwerau dirprwyedig gan gynnwys cytundeb Adran 106 i glymu'r breswylfa i'r busnes.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

5.1

16EG GORFFENAF, 2020 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020 yn gywir.

 

5.2

28AIN GORFFENAF. 2020 pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 yn gywir.