Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch cyfrin-gôd'
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Cofnodion:
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorydd J. Lewis a'r
Cynghorydd G.B. Thomas.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Cofnodion:
Ni
chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 965 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau a nodir yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu a adroddwyd
yn y cyfarfod ac ar ôl cyflwyno'r cytundeb cyfreithiol
perthnasol a Thystysgrif y Teitl:-
E/40072
|
Preswylfa dwy ystafell wely gan gynnwys
cartref symudol dros dro.Caniatawyd cais amlinellol E/22189, caniatawyd
materion a gadwyd yn ôl ar 15/04/2016 sydd wedi dod i ben
erbyn hyn. Bydd cynlluniau gwreiddiol yn cael eu
hailgyflwyno ar gyfer tir yn 12A Heol Hendre, T?-croes, Rhydaman
SA18 3LA
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/39973
|
Cynnig i godi preswylfa ar wahân newydd ar dir,
Brynbedw, 57 Heol Rehoboth, Pump-hewl, Llanelli SA15 5DJ
|
S/40324
|
Newid defnydd o'r Uned Ddiwydiannol bresennol o
Ddosbarth D1 i ddefnydd Dosbarth B1/B2, T.A.D. Builders, Uned 5
Temple Works, Ffwrnes, Llanelli SA15 4HT
Cafwyd
sylw gan Gynghorydd dros Hengoed o Gyngor Gwledig Llanelli yn
gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig gan ailbwysleisio’r rhai
o'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth
Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a
ganlyn:
- tagfeydd traffig/ardal brysur,
- llygredd aer,
- pryderon ynghylch storio gwastraff diwydiannol a
- phryderon ynghylch datblygu ar orlifdir dosbarth
C2.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r
materion a godwyd.
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn
y cyfarfod:-
S/40466
|
Estyn y Wal Derfyn a Chodi Ffens Newydd. Hefyd, cadw
lefelau gardd uwch a gwaith draenio newydd (Ôl-weithredol).
105 Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF
Cafwyd sylwadau a oedd yn gwrthwynebu'r cais
gan ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y
Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a
ganlyn:
·
Lefelau tir
annerbyniol
·
Diffyg ystyriaeth i reolau
neu gymdogion
·
Diffyg ymgynghori â
chymdogion
·
Safle adeiladu sy'n ddolur
llygad
·
Mae gwaith cloddio a gwaith
pellach wedi cael eu gwneud yn ddiweddar heb ganiatâd
cynllunio
·
Mae'r ymgeisydd wedi
diystyru rheoliadau cynllunio
Ymatebodd asiant yr
ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r
materion a godwyd.
|
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gwrthod y cais cynllunio
canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig
y Pennaeth Cynllunio
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau
a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio/yr atodiad a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/39207
|
Cais cynllunio amlinellol ar gyfer codi 1 breswylfa
(mynediad i'w gymeradwyo) ar dir ger Colts Park, Sir Johns Hill Lane, Gosport Street,
Talacharn SA33 4TD
|
W/39998
|
Cynnig i ailddatblygu'r adeilad presennol (Dosbarth
A1) gan gynnwys estyniad, newidiadau a gwaith allanol cysylltiedig
ar gyfer siop gyfleusterau arfaethedig a chadw'r mynediad a'r
mannau parcio ceir presennol ar gyfer siop atgyweirio cyrff ceir
cyfagos, New Road Antiques, Heol
Newydd, Castellnewydd Emlyn SA38 9BA
|
W/40140
|
Caniatâd amlinellol ar gyfer 1 cartref newydd,
cadw'r holl faterion yn ôl, 112 Heol Caerfyrddin, Cross
Hands, Llanelli SA14 6TD
|
W/40177
|
Adeiladu preswylfa ddeulawr gyda chyfleusterau parcio
ceir, Arwerydd, Heol Arad, Aberarad,
Castellnewydd Emlyn SA38 9DB
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn
cefnogi’r cais.
|
|