Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 16eg Gorffennaf, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: VRhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch cyfrin-gôd' 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39022

Codi Siop Fwyd Dosbarth A1 a Siop Goffi gyrru trwodd, gyda mynediad cysylltiedig, maes parcio, a gwaith tirweddu ar dir i'r gogledd o'r B304, Heol Trostre, Trostre, Llanelli.

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37854

Cais cynllunio llawn i ymestyn Parc Gwyliau Penlan gan gynnwys datblygu 17 o gartrefi symudol a gwaith cysylltiedig. Caniatâd ôl-weithredol mewn perthynas â gwaith ar safle a wnaed yn y cae i'r dwyrain o Bentref Gwyliau Penlan, Cenarth;

 

W/38620

Adeiladu preswylfa gyda garej o dan yr unto ar lain 4 gyferbyn â Bron Yn Aur, Capel Dewi, Caerfyrddin SA32 8AD;

 

W/39018

 

 

Adeiladu byngalo gyda garej o dan yr unto (yn rhannol ôl-weithredol) ar lain 5, gyferbyn ag Y Ddraig Fach, Capel Dewi, Caerfyrddin, SA32 8AD;

 

 

4.2  PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol hyd nes y derbynnir gwybodaeth weledol bellach: -

 

W/39346

 

 

Datblygiad Un Blaned a newid o ddefnydd coedwigaeth i ddefnydd preswyl a choedwigaeth, Flatwood, Castellnewydd Emlyn, SA38 9RB.

 

 

5.

COFNODION - 30 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 30 Mehefin, 2020, gan eu bod yn gywir.