Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Mr Kevin James, a fu farw'n ddiweddar yn dilyn salwch byr, dim ond ychydig fisoedd ar ôl iddo ymddeol.   Mr James oedd y Cyn-beiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a oedd wedi bod yn bresennol ar gyfer nifer o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

3.1

W/39590 - BWRIAD I NEWID DEFNYDD Y TIR O DIR PORI I WERSYLLFA - I GYNNWYS 1 CWT BUGAIL MOETHUS A PHUM PABELL YN PENRHIWSYCH, GLANTREN LANE, LLANYBYDDER, SA40 9SA pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:

·       Nid oedd y Cynghorwyr C. Jones a G.B. Thomas yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 ac er iddynt aros yn y Siambr yn ystod y trafodaethau, nid oeddent wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.

 

·       Nid oedd y Cynghorwyr W.T. Evans a D. Jones yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oeddent wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais hwn.]

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 6.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y datblygiad arfaethedig i asesu'r effaith ar y briffordd. 

 

Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cyflwynwyd sylw gan yr Aelod Lleol ynghylch y datblygiad arfaethedig, ac iddo gydnabod rhai o'r gwrthwynebiadau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, mynegodd ei fod yn cefnogi'r datblygiad gan y byddai'n annog ymwelwyr i'r ardal gan ychwanegu at yr economi leol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/39590, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1021 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39148

Adeiladu ystafell arddangos a swyddfeydd, a chreu maes parcio ar dir yn Pentop Farm, Castellnewydd Emlyn, SA38 9NW

 

W/39068

Preswylfeydd arfaethedig gyda garejis integredig ar leiniau 7 ac 8, tir cyferbyn â Golwg y Dyffryn, Capel Dewi, Caerfyrddin, SA32 8AD

 

 

4.2     PENDERFYNNWYD yn unfrydol ganiatáu Cais Cynllun W/39684, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod, ar y sail ganlynol:

 

4.1.1 bod y Pwyllgor o'r farn bod y cais yn cydymffurfio â Pholisïau H5, GP1, TSM4 ac EMP4;

 

4.1.2 bod y Pennaeth Cynllunio'n cael ei awdurdodi i bennu amodau priodol gan gynnwys:

a)      bod y caniatâd yn ddilys am gyfnod o 2 flynedd;

b)      bod y mynediad presennol yn cael ei gau;

c)      sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a'r disgrifiad;

d)      cymeradwyaeth y rhestr ddeunyddiau.

 

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau