Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 11eg Chwefror, 2020 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones, D. Jones, B.D.J. Phillips a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

3.1

S/39358 - NEWID DEFNYDD PRESWYLFA O DDOSBARTH C3 I GARTREF PRESWYL PLANT DOSBARTH C2 YN 2 ERW LAS, LLWYNHENDY, LLANELLI, SA14 9SF pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oed wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.]

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith ar yr amwynderau. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol, y Cyngor Tref a phreswylwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd pryder oedd bod y lleoliad yn amhriodol/anaddas, cynnydd mewn s?n, diogelwch priffyrdd, y posibilrwydd o lifogydd a'r diffyg gwybodaeth/sicrwydd ynghylch rheoleiddio'r eiddo.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De), yr Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1.1 Gwrthod Cais Cynllunio S/39358, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ynghylch pryderon yn ymwneud â Pholisïau H6, TAN5, EP3 a GP1; 

 

3.1.2 Bod swyddogion yn adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio gan amlinellu'r rhesymau dros wrthod y cais. 

 

 

3.2

E/39463 - BWRIAD I DDYMCHWEL, AC ADEILADU ESTYNIAD DEULAWR YNG NGHEFN YR EIDDO. NEWID TO PRESENNOL Y GAREJ AM DO TRUMIOG TRADDODIADOL Â BRENHINBOST PREN YN 29 HEOL CWMFFERWS, TY-CROES, RHYDAMAN, SA18 3TU pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.]

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Darllenwyd datganiad i gefnogi'r cais ar ran y Cynghorydd K. Davies, yr Aelod Lleol.

 

PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio E/39463 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

 

3.3

W/39625 - DATBLYGIAD PRESWYL ARFAETHEDIG O 6 UNED TAI FFORDDIADWY. MAE'R CAIS HEFYD YN CYNNWYS GWAITH SEILWAITH, GWAREDU PERTH YN RHANNOL, GWELLIANNAU O RAN TIRWEDD, GWELLA A LLINIARU BIOAMRYWIAETH; AC UNRHYW WAITH ATODOL AR DIR ODDI AR HEOL FAWR, ABERGWILI, CAERFYRDDIN, SA31 2JA pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil y gwrthwynebiadau a ddaeth i law. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cododd y Pwyllgor faterion ynghylch gorboblogaeth Abergwili a'r effaith bosibl o ran golau a phreifatrwydd ar eiddo cyfagos.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio W/39625 yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.3     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-

 

S/39984

CAIS ÔL-WEITHREDOL AR GYFER CADW ANHEDDAU AR LEINIAU 4 A 5 A GYMERADWYWYD YN FLAENOROL O DAN GYFEIRNOD S/33081 AR LAIN 4 A 5, CERDDI GLASFRYN, LLANELLI, SA15 3LL

 

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu'r cais yn seiliedig ar yr eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd.

 

RHESWM: I alluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar faint y ffenestri a'r effaith ar breifatrwydd yr eiddo cyfagos.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad safle.

 

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.