Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: · Am 2:30pm, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 5 munud er mwyn datrys y problemau yn ymwneud â thechnoleg.
· Am 17:15 tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y Cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda. Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 17:15 ac ailymgynullodd y Pwyllgor am 17:25.]
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.J.G Gilasbey a C. Jones.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Sylwer: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones a'r Cynghorydd G.B. Thomas Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oedd wedi ei gynnal ar 27 Mehefin 2019) er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor allu gweld yr effaith ar yr amgylchedd gan gynnwys difrod i'r mawnogydd lleol ac hefyd i asesu'r briffordd ynghylch llifogydd a d?r arwyneb. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a'r atodiad, a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) wrth y Pwyllgor, yn ychwanegol at y 61 o bryderon a gwrthwynebiadau a ddaeth i law, fod dau lythyr arall yn cynnwys sylwadau wedi dod i law yn gwrthwynebu'r cais. Er bod y prif bryderon a'r gwrthwynebiadau a godwyd wedi'u nodi yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried y pryderon a'r gwrthwynebiadau ychwanegol a ddaeth i law a oedd wedi'u nodi yn yr atodiad.
Cafodd sylw ei roi gerbron y Pwyllgor yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Roedd y prif bryderon yn ymwneud ag effaith y datblygiad ar system ddraenio yr ardal hon a'r problemau posibl o ran llifogydd. Hefyd, gan fod yr ardal yn cynnwys mawnogydd, dylid cadw'r cynefin. Yn ogystal, adroddwyd sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu'r cais gan y Cadeirydd ar ran yr Aelod Lleol yn ei absenoldeb.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd fel y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig/atodiad y Pennaeth Cynllunio.
Yn ogystal, mewn ymateb i nifer o bryderon a godwyd ynghylch effaith y cynllun ar broblemau draenio sydd eisoes yn bodoli ar y briffordd, eglurodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) fod gwaith wedi'i wneud yn ddiweddar ar y briffordd i ddatrys y broblem, drwy wella'r llif i gwlfer d?r wyneb presennol. Roedd y cais yn cynnwys cynllun d?r wyneb a oedd yn cynnwys pwll traeniad i sicrhau y byddai d?r wyneb yr adeilad a'r rhan fwyaf o'r trac mynediad yn cael ei liniaru i raddau tir glas er mwyn sicrhau na fyddai d?r ychwanegol yn llifo i'r draeniau d?r wyneb a oedd yn croesu'r briffordd. Cynigiwyd y byddai unrhyw dd?r a oedd yn weddill o'r trac mynediad yn cael ei ddargyfeirio i ffos a oedd eisoes yn bodoli. Nod y cynllun felly oedd sicrhau na fyddai'r d?r o'r mynediad a'r llwybr yn cael effaith andwyol.
Nododd yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.1 |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Mehefin 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch amwynder gweledol a'r effaith bosibl ar eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Mynegodd yr aelodau bryderon gan ail-bwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi'r prif bwyslais ar effaith y lorïau o ran s?n a dirgryniad a'r ffaith nad oedd cynllun plannu a thirweddu ar waith.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r pryderon a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu Cais Cynllunio S/37727 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac ar gynnwys amod ychwanegol bod yr ymgeisydd yn cyflawni cynllun tirweddu a phlannu i liniaru effaith weledol y ffensys.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Gorffennaf 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch diffyg cydymffurfiaeth ag amodau oedd ynghlwm wrth ganiatâd blaenorol a roddwyd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai prif bwyslais y gwrthwynebiadau oedd bod gwaith datblygu wedi cael ei gynnal cyn cael caniatâd cynllunio, diffyg cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio (mynediad heb ei ddatblygu) a diffyg cyfleustodau ar y safle.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu Cais Cynllunio S/38535 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac yn amodol ar gydymffurfio ag amodau cais S/34755 cyn cyflawni unrhyw waith ddatblygu ychwanegol.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Gorffennaf 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yng ngoleuni pryderon a godwyd ynghylch preifatrwydd ac amwynder. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu Cais Cynllunio S/38787 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y trafodaethau na'r penderfyniad yn ei gylch].
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Gorffennaf 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yng ngoleuni y pryderon a godwyd ynghylch preifatrwydd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Mynegodd yr Aelodau bryderon gan ail-bwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi'r prif bwyslais ar golli preifatrwydd yn achos eiddo cyfagos, bod y cais yn ôl-weithredol a bod yr ymgeisydd yn destun ymchwiliadau gorfodi ar wahân.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu Cais Cynllunio S/38916 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac ar gynnwys amod bod sgriniau preifatrwydd yn cael eu lleoli ar ddwy ochr yr eiddo.
|
|||||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 564 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 4.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 27 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.
|